Nid yw'r Tîm Datblygu ar gael ar hyn o bryd.

Nod ein hadran gynllunio yw gwella’r amgylchedd lle rydym yn byw ac yn gweithio. Mae arnom ni eisiau gweithio'n agos gyda chi fel datblygwr, er mwyn sicrhau bod eich cynigion yn bodloni ein safonau a bod y cyfle gorau posibl iddynt gael eu cymeradwyo. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn cynnig gwasanaeth a fydd yn dwyn ynghyd pawb sy'n ymwneud â'r broses o ystyried eich cais ffurfiol posibl. Mae hyn yn golygu y gellir nodi a datrys unrhyw broblemau yn gyflym ac yn effeithiol.

Meysydd arbenigedd

Pan fyddwch yn gwneud cais am Ymagwedd Tîm Datblygu, gallwn ddarparu canllawiau ar y pynciau canlynol i chi:

  • Rheoli Datblygu
  • Polisi Cynllunio
  • Priffyrdd
  • Dyluniad Draenio / Dŵr Arwyneb
  • Tir Llygredig ac Iechyd yr Amgylchedd
  • Amgylchedd Adeiledig a Naturiol (Cadwraeth, Ecoleg, Coed)
  • Rheoliadau Adeiladu

Beth fydd i’w ddisgwyl gennych chi

Er mwyn i ni ystyried eich cynnig a darparu ymateb cynhwysfawr i chi bydd angen i chi gyflwyno'r wybodaeth ganlynol gyda'ch ymholiad cychwynnol:

  • Ffurflen ymholiad cyn-ymgeisio (Hyperlink)
  • Datganiad ysgrifenedig o'r cynnig
  • Cynllun lleoliad
  • Cynlluniau bras o'r cynnig (os ydynt ar gael)
  • Ffi Ymagwedd Tîm Datblygu

Gallwch nodi a ydych yn dymuno defnyddio’r Ymagwedd Tîm Datblygu wrth lenwi’r ffurflen ymholiad cyn-ymgeisio.

Beth ddylech chi ei ddisgwyl?

Bydd swyddogion proffesiynol o amryw o adrannau'r Cyngor sy'n ymwneud â'r broses ddatblygu a all roi cyngor ar bob agwedd ar eich cais yn cael eu dwyn ynghyd i ffurfio Tîm Datblygu. Bydd hwn yn cael ei arwain gan Swyddog Tîm Datblygu (DTO) a fydd yn cydlynu ac yn eich arwain drwy'r broses. 

Bydd cyfarfod rhyngoch chi a'r Tîm Datblygu yn cael ei drefnu gan y Swyddog Tîm Datblygu, fel arfer o fewn saith diwrnod gwaith i'r ymholiad cychwynnol.  Gellir trefnu unrhyw gyfarfodydd neu ymweliadau pellach yn ôl disgresiwn y DTO.

Ar bob cam, byddwn yn rhoi adborth ysgrifenedig ar bwyntiau allweddol, fel arfer o fewn saith diwrnod gwaith o unrhyw gyfarfod tîm datblygu.

Bydd ein cyfathrebiadau â chi’n cynnwys:

  • Arwydd clir o gwmpas y wybodaeth sydd ei hangen a'r angen am ddogfennau ac astudiaethau ategol
  • Cyngor ac arweiniad cynhwysfawr sydd wedi’u diweddaru ac yn gyson
  • Pa ganiatâd sydd eu hangen
  • Pa ymgynghoriad cyn-ymgeisio fydd yn ofynnol
  • Goblygiadau Polisïau Cynllunio cenedlaethol a lleol
  • Arwydd o ofynion y cyngor, fel tai fforddiadwy / darpariaeth mannau agored / cyfraniadau addysg
  • Arwydd clir o ran pa mor dderbyniol yw eich cynnig
  • Amserlen debygol, gan gynnwys dyddiadau Pwyllgorau