Gosodwyd y ffioedd cyfredol am gyngor cyn ymgeisio gan Lywodraeth Cymru (Rhagfyr 1, 2025).

Ffioedd
Math o gyngor ymgeisio=Ffi
Datblygiadau gan ddeiliaid tai£33
Codi tai annedd

Lle gwyddom nifer y tai annedd:

  • 1-9 tŷ annedd - £332
  • 10-24 tŷ annedd - £797
  • 25 neu fwy o dai annedd - £1,328

Lle na wyddom nifer y tai annedd a fydd yn cael eu creu ac:

  • Nid yw arwynebedd y safle arfaethedig yn fwy na 0.49ha - £332
  • Mae arwynebedd y safle arfaethedig rhwng 0.5 a 0.99ha - £797
  • Mae arwynebedd y safle arfaethedig yn fwy na 0.99ha - £1,328
Codi adeiladau (ac eithrio tai annedd)

Lle mae’r arwynebedd llawr gros a fydd yn cael ei greu fel a ganlyn:

  • Hyd at 999 metr sgwâr - £332
  • 1,000 i 1,999 metr sgwâr - £797
  • Mwy na 1,999 metr sgwâr - £1,328

Pan na wyddom yr arwynebedd llawr gros a fydd yn cael ei greu gan y datblygiad arfaethedig, a’r arwynebedd safle arfaethedig:

  • Ddim yn fwy na 0.49ha - £332
  • Rhwng 0.5 a 0.99ha - £797
  • Yn fwy na 0.99ha - £1,328
Newid sylweddol yn y defnydd o adeilad neu dir

Os yw'r cynnig yn ymwneud â newid defnydd adeilad ac mae’r arwynebedd llawr gros fel a ganlyn:

  • Hyd at 999 metr sgwâr - £332
  • 1,000 i 1,999 metr sgwâr - £797
  • Mwy na 1,999 metr sgwâr - £1,328

Os yw'r cynnig yn ymwneud â newid defnydd tir, a’r arwynebedd safle arfaethedig:

  • Ddim yn fwy na 0.49ha - £332
  • Rhwng 0.5 a 0.99ha - £797
  • Yn fwy na 0.99ha - £1,328
Datblygiad yn ymwneud â chloddio a gweithio mwynau neu ddefnyddio tir ar gyfer dyddodion gwaith mwynau£797
Datblygu gwastraff£797
Taliadau Dewisol am Gyngor Cyn Ymgeisio
Ymagwedd Tîm DatblyguFfi

Gwiriadau cydymffurfiaeth

Ymholiadau am ddatblygiad amhreswyl a ganiateir

Cadarnhau dosbarthiadau defnydd

Gwarchod plant

Egwyddor ymholiadau datblygu

£125 yr awr

Cynigion Hysbysebu

Adeiladau i'w defnyddio at ddibenion amaethyddol

£85

Atgyweirio strwythurol brys i Adeiladau Rhestredig neu waith i anheddau mewn Ardaloedd Cadwraeth/ardaloedd Cyfarwyddyd Erthygl 4 lle mae'r ymholiad yn ymwneud â gwaith a fyddai fel arfer wedi bod yn 'ddatblygiad a ganiateir' yn unig

Gwaith ar goed o dan Orchmynion Diogelu Coed neu mewn Ardaloedd Cadwraeth

Trafodaethau cynllunio’n ymwneud ag ymchwiliad gorfodi

Cyngor i Gynghorau Cymuned a Chynghorwyr Sir

Dim tâl

Sut ydw i’n talu?

Gallwch dalu ffi am gyngor cyn ymgeisio ar ein e-siop ar-lein: 

Talwch rŵan

 

Fel arall gallwch dalu gyda cherdyn debyd/credyd drwy ffonio 01978 298994 neu ymweld â'r Galw Wrecsam (Llyfrgell Wrecsam).

Sylwer - nid ydym bellach yn derbyn taliadau arian parod.