Yng Nghymunedau am Waith + Wrecsam rydym yn cynnig mentora un i un i bobl sy’n byw yn Wrecsam.

Os ydych chi’n ddi-waith ac yn cael trafferth dod o hyd i waith, neu’n ystyried newid gyrfa, yna mae ein tîm cyfeillgar wrth law i'ch helpu.  Gallwn eich cefnogi ar eich llwybr i ddod o hyd i’ch swydd ddelfrydol.

Sut y gallwn eich helpu

Gallwn gynnig cefnogaeth a chyngor yn seiliedig ar eich anghenion unigol, megis:

  • sgiliau hanfodol
  • sgiliau digidol 
  • addysg a hyfforddiant 
  • ysgrifennu CV a cheisiadau swydd
  • cyngor a thechnegau cyfweliad
  • cymhelliant a hyder
  • lleoliadau gwirfoddoli/gwaith
  • hunangyflogaeth
  • gwaith â thâl 

Cyfryngau Cymdeithasol

Cysylltwch â ni

Gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i gofrestru ar gyfer mentora, bydd angen i chi roi ychydig o fanylion cyswllt i ni a chadarnhau’r math o gefnogaeth rydych yn dymuno ei chael.

Cofrestru ar gyfer mentora Cymunedau am Waith +

Dechrau rŵan

 

Gallwch hefyd anfon e-bost atom ar CFW@wrexham.gov.uk gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych am y broses fentora cyn i chi benderfynu cofrestru.

Ar ôl i chi gofrestru, bydd un o’n tri swyddog brysbennu yn cysylltu â chi er mwyn iddynt eich cofrestru a’ch cysylltu â mentor un i un dynodedig

Dod o hyd i ni 

Ble i fynd os oes gennych apwyntiad yn un o ddwy o’n canolfannau:

  • Canolfan Parc Caia (adeilad glas), Ffordd y Tywysog Siarl, Wrecsam, LL13 8TH (Ffôn: 01978 318853)
  • Canolfan Cyfleoedd Plas Madoc, Ffordd Hampden, Acrefair, LL14 3US (Ffôn: 01978 820520)

Dolenni perthnasol