Ar 17 Medi 2023, newidiodd y rhan fwyaf o derfynau cyflymder 30mya yng Nghymru i 20mya.

Newidiodd y terfyn cyflymder ar strydoedd preswyl a cherddwyr prysur i:

  • wneud ein strydoedd yn fwy diogel, lleihau’r nifer o bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu (yn ogystal â lleihau’r effaith ar y GIG) 
  • annog mwy o bobl i gerdded a beicio 
  • helpu i wella ein hiechyd a’n lles 
  • diogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol 

Gwneud strydoedd yn fwy diogel 

Mae lleihau terfyn cyflymder yn lleihau gwrthdrawiadau ac achub bywydau. 

Pan fydd cerddwr yn cael ei daro gan gerbyd sy’n teithio 30mya maent tua pum gwaith yn fwy tebyg o gael eu lladd nag os byddent yn cael eu taro gan gerbyd yn teithio 20mya.  

Mae astudiaeth iechyd y cyhoedd yn amcangyfrif y gallai terfyn cyflymder diofyn 20mya arwain at:

  • 40% yn llai o wrthdrawiadau 
  • achub 6 i 10 o fywydau bob blwyddyn 
  • osgoi rhwng 1200 a 2000 o bobl rhag cael eu hanafu bob blwyddyn  

Byddai hyn yn arbed tua £92miliwn o ataliad yn ystod y flwyddyn gyntaf yn unig.  

Annog cerdded a beicio

Bydd cyflymder traffig is yn annog mwy o gerdded a beicio.  

Mewn arolwg barn y cyhoedd, roedd 62% o bobl yn cytuno eu bod yn ‘dymuno y byddai pawb yn arafu i lawr ychydig ar y ffyrdd’ ac roedd 55% yn cytuno y byddai ‘strydoedd yn llawer brafiach i gerddwyr gyda therfyn cyflymder 20mya.’

Cyflymder cerbydau yw un o’r prif resymau pam nad yw bobl yn cerdded na beicio nac yn caniatau i’w plant gerdded neu feicio i’r ysgol.  

Cefnogi 20

Gallwch helpu i greu strydoedd mwy diogel a chymunedau iachach drwy yrru 20mya neu’n is ar strydoedd preswyl a phrysur.  

Bydd GanBwyll a’r Heddlu yn gorfodi’r cyfyngiadau 20mya, fel yn achos unrhyw derfyn cyflymder arall, er mwyn sicrhau bod ein ffyrdd yn fwy diogel i bob defnyddiwr.  Byddant hefyd yn helpu i addysgu ac ymgysylltu â gyrwyr. 

Gweld goleuadau stryd? Meddyliwch 20

Pan fyddwch yn gweld goleuadau stryd, dylech gymryd bod y terfyn cyflymder yn 20mya, oni bai bod yr arwydd yn wahanol.  

Bydd y strydoedd hyn yn gyffredinol yn strydoedd preswyl neu gerddwyr prysur.

Ni newidiodd pob stryd i 20mya. Fe fydd gan y strydoedd sydd yn parhau â therfyn cyflymder 30mya arwyddion 30mya i ddangos hyn i chi.

Dyma newid cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru ac mae’n rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gydymffurfio ag ef. 

Mae’r newidiadau hyn yn berthnasol ar draws Cymru ac mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalennau 20mya Llywodraeth Cymru (dolen gyswllt allanol), sy’n cynnwys rhestr o gwestiynau cyffredin.