O 6 Ebrill 2024, daeth yn ofynnol o dan y gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus ddidoli eu gwastraff i’w ailgylchu.
Mae’r gyfraith hon yn berthnasol i bob casglwr a phrosesydd gwastraff ac ailgylchu sy’n rheoli gwastraff o fath domestig o weithleoedd.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru’r gyfraith hon i wella ansawdd sut rydym yn casglu a gwahanu gwastraff, yn ogystal â’r cyfanswm.
Pa wastraff sydd angen ei wahanu
Bydd angen gwahanu’r deunyddiau canlynol ar gyfer eu casglu, a dylent gael eu casglu ar wahân:
- Bwyd
- Papur a cherdyn
- Gwydr
- Metelau, plastig a chartonau
- Tecstilau sydd heb eu gwerthu
- Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach sydd heb eu gwerthu (sWEEE)
Mae gwaharddiad hefyd ar:
- Anfon unrhyw wastraff bwyd (o ba faint bynnag) i garthffosydd
- Gwastraff a gesglir ar wahân sy'n mynd i beiriannau llosgi a safleoedd tirlenwi
- Pob gwastraff pren sy'n mynd i safleoedd tirlenwi
I bwy mae'r gyfraith yn berthnasol
Mae angen i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus wahanu eu gwastraff.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Safleoedd amaethyddol
- Lletygarwch a thwristiaeth - bwytai, bariau, tafarndai, gwasanaethau gwely a brecwast, gwestai, gwersylloedd a pharciau carafanau, llety gwyliau, a safleoedd trwyddedig
- Meysydd sioe
- Gorsafoedd gwasanaeth a gorsafoedd petrol
- Lleoliadau adloniant a chwaraeon gan gynnwys canolfannau hamdden
- Trafnidiaeth - gorsafoedd bysiau, gorsafoedd rheilffordd, porthladdoedd, meysydd awyr a hofrenyddion
- Cartrefi gofal a nyrsio
- Fferyllfeydd, meddygfeydd, deintyddfeydd, a lleoliadau gofal sylfaenol eraill
- Safleoedd adeiladu
- Ffatrïoedd a warysau
- Garejis ceir
- Addysg - prifysgolion, colegau ac ysgolion
- Canolfannau garddio
- Adeiladau treftadaeth
- Llyfrgelloedd ac amgueddfeydd
- Swyddfeydd a gweithdai
- Mannau addoli
- Carchardai
- Marchnadoedd a gwyliau yn yr awyr agored
Yr unig weithle sydd â dwy flynedd ychwanegol i gydymffurfio yw'r GIG ac ysbytai preifat.
Ar gyfer gweithleoedd sy’n creu ac yn trin gwastraff bwyd
Mae’r gyfraith i wahanu ac ailgylchu gwastraff bwyd yn berthnasol i unrhyw eiddo sy’n creu mwy na 5kg o wastraff bwyd yr wythnos, fel:
- Gwestai
- Bwytai
- Caffis
- Tecawes
- Busnesau arlwyo (yn cynnwys stondinau bwyd mewn digwyddiadau)
- Neuaddau bwyta mewn canolfannau siopa
- Ffreuturau
- Tafarndai
- Swyddfeydd gyda ffreuturau, caffis, neu gyfleusterau cegin i’w staff
- Ysgolion, colegau, carchardai, cartrefi nyrsio ac ysbytai
- Unrhyw weithleoedd eraill sy’n gweini bwyd
Os ydych chi’n cynhyrchu unrhyw wastraff bwyd, ni chewch ei roi i lawr y sinc, na gadael iddo fynd i garthffos neu ddraen cyhoeddus.
Mae hyn yn cynnwys defnyddio mwydwyr (macerators) (neu dechnoleg debyg, fel treulwyr ensymau neu ddulliau tynnu dŵr) i gael gwared ar wastraff bwyd lawr y sinc i ddraen neu garthffos. Nid oes angen tynnu mwydwyr, ond gallech ddewis eu tynnu i atal staff rhag eu defnyddio.
Pam y cafodd y gyfraith ei chyflwyno a beth yw’r manteision?
Dyma fanteision ailgylchu:
- Cynyddu faint o ddeunydd eilgylch y gall cynhyrchwyr yng Nghymru ei ddefnyddio, a gwella ei ansawdd
- Cefnogi gweithleoedd i leihau eu gwastraff
- Lleihau allyriadau carbon
- Helpu’r economi greu Cymru wyrddach
Sut mae’r gyfraith yn cael ei gorfodi
Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod deunyddiau yn cael eu gwahanu a’u casglu’n gywir, a bod y gwaharddiad ar anfon ailgylchu i dirlenwi neu i’w losgi yn cael ei ddilyn.
Awdurdodau Lleol sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod y gwaharddiad ar wastraff bwyd yn mynd i garthffosydd yn cael ei ddilyn.
Os nad ydych yn cydymffurfio â’r gyfraith, gallai olygu dirwy i’ch gweithle.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen ailgylchu yn y gweithle Llywodraeth Cymru (dolen gyswllt allanol).
Gallwch hefyd ddysgu mwy ar dudalen y Busnes o Ailgylchu Cymru WRAP Cymru (dolen gyswllt allanol).