Trosolwg o’r ffyrdd y gallwch hyrwyddo eich busnes yn ardal Wrecsam.

Sylwer:

  • Mae’r sefydliadau/cwmnïau a restrir ar y dudalen hon yn enghreifftiau ar gyfer pob math o ddull hysbysebu - nid yw’n rhestr gynhwysfawr.
  • Nid yw cynnwys cyfleoedd hysbysebu ar y dudalen we hon yn dynodi neu’n gweithredu fel cefnogaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cynghorwn i chi ymchwilio i unrhyw gyfleoedd o ddiddordeb cyn penderfynu gwneud taliad.

Wrexham Savers

Gwefan cynigion, hyrwyddiadau a chymhellion. Mae deiliaid cerdyn yn derbyn cynigion a hyrwyddiadau trwy’r wefan a’u newyddlenni. 

Mae dros 40,000 o ymwelwyr i’r safle bob mis (datganiad y cyhoeddwr). 

Mae Gwasanaethau i fusnesau lleol yn cynnwys:

  • Trwydded i ddefnyddio eu gwefan cynigion a hyrwyddiadau lleol
  • Ymgyrchoedd e-bost a newyddlenni
  • Hysbysebion baner ar eu gwefan

FOCUS Wales

Mae FOCUS Wales yn ŵyl cerddoriaeth, aml-leoliad sy’n digwydd yn Wrecsam bob blwyddyn. Mae trefnwyr y digwyddiad yn chwilio am bartneriaid a noddwyr hirdymor o ansawdd uchel.

Wrexham Eats

Gall berchnogion bwyd i fynd lleol ymuno â Wrexham Eats, lle gall gwsmeriaid archebu trwy’r wefan a’r ap.

Mae darparwyr cenedlaethol hefyd yn cynnig gwasanaeth archebu ar-lein (a all fod yn addas ar gyfer perchnogion bwyd i fynd), er enghraifft:

Materion Wrecsam

Nod Materion Wrecsam yw cysylltu busnesau yn Wrecsam gyda thrigolion lleol.

Gwefannau cymunedol

Mae nifer o wefannau cymunedol lleol yn ardal Wrecsam, ac mae nifer yn cynnig cyfleoedd hysbysebu a rhestrau cyfeiriadur i fusnesau lleol.