Trosolwg o’r ffyrdd y gallwch hyrwyddo eich busnes yn ardal Wrecsam.

Sylwer:

  • Mae’r sefydliadau/cwmnïau a restrir ar y dudalen hon yn enghreifftiau ar gyfer pob math o ddull hysbysebu - nid yw’n rhestr gynhwysfawr.
  • Nid yw cynnwys cyfleoedd hysbysebu ar y dudalen we hon yn dynodi neu’n gweithredu fel cefnogaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cynghorwn i chi ymchwilio i unrhyw gyfleoedd o ddiddordeb cyn penderfynu gwneud taliad.

Essentials Mag

Mae Essentials Mag yn cyhoeddi dau gylchgrawn lliw A5 llawn bob mis. 

Mae un cylchgrawn yn cael ei gyflenwi i gartrefi yn: Yr Orsedd, Merffordd, Gresffordd, Pulford, Burton, Dodleston, Eccleston, Holt, Farndon, Churton a’r ardal amgylchynol. 

Mae’r cylchgrawn arall yn cael ei gyflenwi i gartrefi ym Mangor-Is-Y-Coed, Owrtyn, Llannerch Banna, Cross Lanes, Worthenbury, Garden Village, Borras, Little Acton, Pandy a’r ardal amgylchynol. 

Mae cyfleoedd dosbarthu pamffledi hefyd ar gael.

Cynhyrchir: Yn fisol

Argraffiadau: 14,000 wrth gyfuno’r ddau gylchgrawn (datganiad y cyhoeddwr)

Cylchgrawn Busnes VOX

Mae cyfleoedd hysbysebu a golygyddol ar gael.

Mae’r cylchgrawn yn cael ei ddanfon i nifer o barciau busnes ac ystadau diwydiannol yn Wrecsam a Chaer.

Cynhyrchir: Yn chwarterol

Argraffiadau: 5,000 (datganiad y cyhoeddwr)

The Overton Oracle

Cynhyrchir: Yn fisol

Cylchrediad: Dros 650 o gartrefi (datganiad y cyhoeddwr)

Cylchgrawn Love Wrexham

Cylchgrawn lliw A5 llawn ar gael i unigolion gymryd mewn lleoliadau amrywiol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

Cynhyrchir: Yn fisol

Argraffiadau: 5,000 (datganiad y cyhoeddwr)

Cylchgrawn Inside Wrexham

Cylchgrawn lliw A5 llawn a gyflenwir i gartrefi ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

Cynhyrchir: Yn fisol

Argraffiadau: 7,000 (datganiad y cyhoeddwr)

Newyddlen Cymuned (Froncysyllte, Garth a Trefor)

Cynhyrchir: Yn chwarterol

I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at: newsletter.llangollenrural@gmail.com 

Cylchgrawn North Wales

Cynhyrchir: Yn fisol

Newyddion Cymuned Cefn

Ar gyfer ardaloedd Cefn, Cefn Mawr, Cefn Bychan, Acrefair, Newbridge, Plas Madoc, Rhosymedre, Dyffryn Dyfrdwy a’r Cylch.

Cynhyrchir: Bob dau fis

Gallwch ddod o hyd i ddolenni i rifynnau o Newyddion Cymunedol Cefn ar dudalen Facebook Cefn and Dee Valley News (dolen gyswllt allanol).

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 07532 780007, neu anfonwch e-bost at tyger@tygertactics.com