Cyflenwad dŵr preifat yw unrhyw gyflenwad dŵr sydd heb gael ei ddarparu gan gwmni dŵr (dŵr yfed prif gyflenwad).

Mae ein tudalen cyflenwadau dŵr preifat yn egluro cyflenwadau sy’n defnyddio ffynonellau tanddaearol ac arwyneb.

Mae math arall o gyflenwad dŵr preifat a elwir un ai yn rhwydwaith ‘dosbarthu ymlaen’ neu ‘ddosbarthu preifat’. Yn y sefyllfa hon, mae cwmni dŵr yn gwerthu dŵr i unigolyn sydd wedyn yn ei ddosbarthu ymhellach drwy eu rhwydwaith pibellau eu hunain i eiddo eraill nad ydynt yn berchen arnynt. Bydd yr unigolyn sy’n talu’r cwmni dŵr fel arfer yn dosbarthu’r dŵr i’r defnyddiwr am gost. 

Cyfrifoldeb y perchennog neu’r cyd berchnogion yw cynnal unrhyw gyflenwad preifat (gellir nodi hyn mewn cytundeb ffurfiol, neu efallai bod trefniant anffurfiol yn bodoli). 

Pam na ellid defnyddio cyflenwadau dŵr preifat 

Rhesymau cyffredin dros beidio â gallu defnyddio cyflenwad dŵr preifat mwyach yw: 

1. Mae wedi sychu, mae hyn fwyaf tebygol yn ystod cyfnodau o sychder. Fodd bynnag, mae’n bosibl nad yw’r cyflenwad yn gallu ymdopi â’r galw os oes rhywun wedi ymyrryd â’r cyflenwad neu os oes mwy o dynnu arno (megis ar gyfer eiddo arall). 

2. Mae’r dŵr wedi rhewi yn y pibellau – sy’n gallu digwydd os yw rhwydwaith wedi ei osod yn anghywir.

3. Mae’r dŵr mor afiach nes ei fod yn cynrychioli perygl sylweddol i iechyd y defnyddwyr.

Heb orchymyn llys neu gytundeb sy’n bodoli eisoes (er enghraifft gweithredoedd), mae’n anghyfreithlon i rywun dorri eich cyflenwad yn fwriadol.

Paratoi i fod heb ddŵr

Gan fod y perchennog yn gyfrifol am y cyflenwad, dylai cynllun brys fod yn ei le fel y gellir gweithredu’n gyflym os bydd y cyflenwad dŵr yn methu. 

Wrth greu cynllun brys, dylech ystyried y canlynol: 

1. Allwch chi gael mynediad at gyflenwad arall o ddŵr? Yn gyffredinol, bydd pob unigolyn yn defnyddio 150 litr o ddŵr y dydd (yn ôl Cyngor y Defnyddwyr Dŵr). Mae’r ffigwr hwn wedi’i seilio ar bob agwedd o ddefnyddio, o yfed i olchi dillad. 

2. A oes unrhyw gyflenwadau eraill posibl sy’n ddiogel i’w defnyddio? Ystyriwch o ble mae’r cyflenwad yn dod, a oes angen ei drin ac a oes digon o ddŵr ar gael. 

3. Ble gallwch chi gael dŵr potel? Mewn sefyllfa frys, mae’n bosibl gwneud ar lawer llai o ddŵr am ychydig ddyddiau felly gallwch gynllunio i ddefnyddio dŵr potel yn y tymor byr. 

4. Beth yw achos posibl y methiant a sut gellir ei atal? Er enghraifft, os oes gan y tarddiad dŵr allbwn isel, yna gallai tanc dal sy’n llenwi pan fo’r galw yn isel fod yn ddefnyddiol. 

Nid oes gofyniad cyfreithiol i unrhyw un ddarparu cyflenwad dŵr arall i chi os bydd cyflenwad dŵr preifat rydych chi’n berchen arno yn methu.

Fodd bynnag, os ydych yn talu i rywun am ddŵr o gyflenwad preifat, mae gennych hawl i ddisgwyl cyflenwad iach sy’n ddigon i gyflenwi eich anghenion (os nad ydych wedi cytuno fel arall). 

A all y cwmni dŵr fy helpu?

Mae dau gwmni dŵr yn darparu dŵr i Wrecsam: 

Hafren Dyfrdwy sy’n cyflenwi bron iawn pob un o’r defnyddwyr dŵr prif gyflenwad yn y bwrdeistref sirol.

Mae Hafren Dyfrdwy wedi dweud y byddant yn ceisio darparu dŵr i ddefnyddwyr cyflenwadau dŵr preifat os na ellir defnyddio eu cyflenwad preifat. Bydd perchennog y cyflenwad dŵr preifat yn gyfrifol am dalu’r costau.

Mae cymorth Hafren Dyfrdwy yn gallu darparu ystod o gyflenwi dŵr potel i gyflenwi bowser. Mae pob cais yn cael ei ystyried ar ei rinwedd ei hun. Mae amodau ar gyfer y cymorth hwn – gellir ei ddarparu os nad os ar eu cwsmeriaid angen y cyflenwadau brys / offer, gan fod ganddynt ddyletswydd i gyflenwi dŵr iddynt. Byddant hefyd yn gweithredu system flaenoriaeth, ble bydd y defnyddwyr mwyaf diamddiffyn yn cael cymorth yn gyntaf. 

Mae cwmnïau masnachol eraill sy’n gallu darparu gwasanaeth tebyg.

Cyngor pellach

Gallwch gysylltu â ni am gyflenwadau dwr preifat os oes arnoch angen mwy o gyngor.