Mae canol Llwybr Maelor wedi’i leoli ar gornel wledig gogledd-orllewin Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac mae’r llwybr sy’n 24 milltir o hyd yn ymlwybro trwy dair sir.

Mae’n cysylltu chwe llwybr hir: y Llwybr Tywodfaen, Llwybr De Swydd Gaer, Llwybr y Mers a Llwybr Swydd Amwythig tua’r Dwyrain a Llwybr Clawdd Offa a Llwybr Glyn Ceiriog ar Ororau Sir Wrecsam/Swydd Amwythig tua’r Gorllewin, a Ffordd Clawdd Wat i’r Gorllewin o Owrtyn hefyd.

Mae Llwybr Maelor yn defnyddio llwybrau troed cyhoeddus, llwybrau meirch, lonydd tawel a llwybrau llusgo ar gamlesi i fynd i neu o Grindley Brook, trwy dir gwledig digyffwrdd, i neu o Fronygarth yng nghysgod Castell y Waun.

Os ydych chi’n chwilio am dir bryniog sydd â golygfeydd pell o’r Berwyn neu wastadeddau Swydd Gaer, dyffrynnoedd serth gyda choed ac afonydd, llonyddwch hardd Llyn Hanmer, pentrefi sydd heb newid fawr ddim a darn o lwybr llusgo Camlas Llangollen, yna bydd Llwybr Maelor wrth eich bodd. Mae nifer o gamfeydd y sir wedi cael eu hatgyweirio neu mae giatiau wedi’u gosod yn eu lle, felly ni allai’r llwybr hwn fod yn haws.

Er bod Llwybr Maelor yn mynd trwy ardaloedd gwledig, heb lawer o bobl yn byw ynddynt, mae hefyd yn mynd trwy Bronington, Hanmer, Llannerch Banna, Owrtyn a’r Waun a dylai eu siopau a'u tafarndai allu darparu lluniaeth ar eich cyfer.