Ein cyfrifoldebau ni

1. Rhaid i ni sicrhau bod y rhannau canlynol o'ch cartref mewn cyflwr da.

  • Strwythur yr adeilad a thu allan iddo - sylfeini, toeau, waliau, lloriau, nenfydau, fframiau ffenestri, simnai, corn simnai, drysau allanol, draeniau, cafnau a pheipiau allanol.
  • Darnau gosod mewn ceginau ac ystafelloedd ymolchi - basnau, sinciau, toiledau a baddonau.
  • Gwifrau trydanol a pheipiau dŵr a nwy y tu mewn i'ch cartref.
  • Offer gwresogi, offer nwy ac offer cynhesu dŵr.
  • Unrhyw fannau sy'n cael eu rhannu o gwmpas eich cartref.

Byddwn yn trwsio ac yn cynnal a chadw rhannau penodol eraill o'ch cartref hefyd.

2. Rhaid i ni gwblhau gwaith trwsio a chynnal a chadw o fewn terfynau amser penodol. Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni am waith trwsio, byddwn yn dosbarthu'r gwaith yn ôl pa mor frys ydyw.

3. Rydym yn cael ein rheoli gan gyfarwyddyd Llywodraeth Cynulliad Cymru (sy'n ein rheoli ni) wrth reoli eich cartref. Mae Siarter y Tenantiaid hefyd yn berthnasol i'r cytundeb hwn. Gofynnwch i'ch swyddfa dai leol am fanylion.

4. Byddwn yn yswirio eich cartref (ond nid unrhyw rai o'r darnau gosod na'r gosodiadau na'ch eiddo chi) fel rydym ni'n ei hystyried yn briodol.

Eich hawliau

5. Mae gennych hawl i ni wneud gwaith trwsio yr ydym ni'n gyfrifol amdano yn brydlon. Mae hyn yn golygu os na fyddem ni neu'n contractwyr yn cwblhau mathau penodol o waith trwsio o fewn y terfynau amser a osodir, gellwch fynnu ein bod yn penodi contractwr arall i wneud y gwaith. Mae gennych hawl i gael iawndal os na fydd y contractwr hwnnw'n gwneud y gwaith trwsio o fewn terfyn amser penodol.

6. Os ydych yn denant sicr mae gennych hawl i wneud eich gwelliannau eich hunain fel gosod gwres canolog, cawod neu dân nwy. Rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig gennym cyn gwneud unrhyw waith tebyg. Efallai y bydd angen i chi gael mathau eraill o ganiatâd hefyd, megis caniatâd cynllunio. Efallai y byddwn yn gosod rhai amodau rhesymol wrth roi ein caniatâd. Ni fyddwn yn gwrthod rhoi caniatâd heb reswm da. Gofynnwch am fwy o wybodaeth yn eich swyddfa dai leol.

7. Os ydych yn denant sicr, mae gennych hawl i wneud cais am iawndal am rai gwelliannau penodol y byddwch yn eu gwneud yn eich cartref. Rhaid i chi fod wedi gwneud y gwelliannau hyn ar ôl 1 Ebrill 1994. Gellwch wneud cais am y iawndal ar ddiwedd eich tenantiaeth. Ni ellwch wneud cais am y iawndal os ydym ni wedi trwsio a chynnal a chadw y gwelliannau dan sylw. Gofynnwch am fwy o wybodaeth yn eich swyddfa dai leol.

Eich cyfrifoldebau chi

8. Rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw ddifrod neu ddiffygion ar unwaith.

9. Rhaid i chi a'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt beidio â gwneud honiadau ffug o bobl eraill yn difrodi eich cartref. Byddwn yn talu i drwsio unrhyw ddifrod a achoswyd gan drosedd cyn belled â'n bod yn derbyn rhif y trosedd a datganiad llofnodedig sy'n rhoi manylion am y difrod. Bydd yr heddlu'n rhoi rhif y trosedd i chi pan fyddwch yn rhoi gwybod iddynt am y trosedd a gellwch gael y ffurflen ddatgan gan eich swyddfa dai leol. Ni fyddwn yn talu am ddifrod wedi ei achosi gynnoch chi neu unrhyw berson yn eich gofal o dan y Cytundeb tenantiaeth

10. Rhaid i chi drwsio neu amnewid unrhyw eitem a ddifrodir yn fwriadol, a ddifrodir o ganlyniad i ddihidrwydd neu a ddifrodir o ganlyniad i esgeulustod o fewn amser rhesymol. Mae hyn yn berthnasol os gwnaed y difrod gennych chi neu unrhyw un arall yr ydych yn gyfrifol amdano dan amodau'r cytundeb tenantiaeth. Os nad ydych yn trwsio neu'n amnewid yr eitem, gallem ni wneud y gwaith a chodi tâl arnoch amdano. Fodd bynnag, fel rheol byddwn yn gofyn i chi dalu cyn i ni wneud y gwaith.

11. Rhaid i chi gwblhau unrhyw waith trwsio neu gynnal a chadw bychan yr ydych chi'n gyfrifol amdano. Efallai y gallwn eich helpu os ydych yn hen neu os oes gennych anabledd. Gofynnwch yn eich swyddfa dai leol.

12. Rhaid i chi ganiatáu i'n gweithwyr neu bobl y byddwn yn anfon i mewn i'ch cartref:

  • archwilio cyflwr unrhyw ran o'r cartref neu'r cartref i gyd;
  • archwilio cyflwr unrhyw osodiadau;
  • wneud unrhyw waith cynnal a chadw; neu
  • archwilio a gwneud gwaith trwsio a gwelliannau i'ch cartref neu eiddo y drws nesaf iddo.

Peidiwch â gadael i unrhyw un ddod i mewn i'ch tŷ heb i chi weld cerdyn neu fathodyn adnabod swyddogol. (Os oes gennych unrhyw amheuon, cysylltwch â'ch swyddfa dai leol yn ystod oriau swyddfa arferol, neu gellwch ddefnyddio'r rhif brys ar adegau eraill ). Os na fu'n bosibl i ni fynd i mewn i'ch cartref, byddwn yn rhoi rhybudd ysgrifenedig i chi o leiaf 24 awr cyn i ni alw heibio. Os ydym yn credu bod argyfwng, gallwn ddod i mewn i'ch cartref ar unwaith. Gellwch beryglu chi'n hunain a'ch cymdogion os na fyddwch yn gadael i ni ddod i mewn. Os achoswyd yr argyfwng gan rywbeth yr ydych chi neu unrhyw un yr ydych yn gyfrifol amdano wedi'i wneud neu wedi methu â'i wneud, gallwn godi tâl arnoch am unioni pethau neu am unrhyw gostau cysylltiedig.

13. Tra'r ydych chi'n denant yn eich cartref, chi sy'n gyfrifol am drwsio a chynnal a chadw eich offer eich hunain fel poptai, tanau nwy ac unrhyw newidiadau neu welliannau a wnaed gennych chi neu denant blaenorol (oni bai bod gennych gytundeb â ni i ni wneud y gwaith trwsio a chynnal a chadw). Rhaid i chi sicrhau bod eich offer eich hunain ac unrhyw newidiadau neu welliannau'n bod loni'r safonau a'r rheoliadau diogelwch presennol ac yn cael eu cynnal a chadw gan unigolyn cymwysedig addas.

14. Ni chaniateir i chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt wneud unrhyw newidiadau i'ch cartref gan gynnwys addasiadau neu welliannau (er enghraifft gosod llawr laminedig, tynnu waliau i lawr, adeiladu estyniadau ac ati) heb gael ein caniatâd ysgrifenedig ni yn gyntaf. Rhaid i chi gael unrhyw gymeradwyaeth arall sydd ei hangen arnoch hefyd (fel caniatâd rheoliadau adeiladu, caniatâd cynllunio ac ati). Os ydych yn cynllunio newidiadau, rhaid i chi ymgynghori â'n his-adran Rheolaeth Adeiladu. Ni fyddwn yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb mewn perthynas â chost y gwaith, gan gynnwys unrhyw ddifrod neu anaf o ganlyniad i'ch newidiadau neu welliannau.

15. Os byddwch yn newid neu'n gwella eich cartref heb gael ein caniatâd ysgrifenedig ni'n gyntaf, gallem ddweud wrthych i newid eich cartref yn ôl i fel yr oedd o'r blaen. Os na fyddwch yn gwneud hyn o fewn amser rhesymol, gallem wneud y gwaith hwn a chodi tâl arnoch amdano. Fel rheol, byddwn yn codi tâl arnoch cyn cwblhau'r gwaith.

16. Rhaid i chi a'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt gael caniatâd ysgrifenedig gennym ni cyn newid neu ychwanegu gosodiadau neu ddarnau gosod gan gyn nwys dysgl loeren neu erial CB.

17. Ni chaniateir i chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt osod neu dynnu unrhyw waliau, ffensys neu wrychoedd yn yr ardd heb gael caniatâd ysgrifenedig gennym ni'n gyntaf.

18. Ni chaniateir i chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt osod waliau terfyn, ffensys, gwrychoedd na strwythurau ar ystad agored.

19. Ni chaniateir i chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt osod unrhyw str wythurau fel siediau, modurdai, colomendai neu unrhyw adeiladau eraill ar dir eich cartref heb gael caniatâd ysgrifenedig gennym ni'n gyntaf.

20. Rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig gennym ni cyn adeiladu llawr caled (tramwyfa neu ardal palmentog yr ydych am barcio eich car arni). Rhaid i chi adeiladu'r llawr caled â chwrbyn isel ag ymyl glaswellt, os oes angen. Rhaid i chi gael unrhyw gymeradwyaeth arall sydd ei hangen arnoch hefyd (fel caniatâd cyn llunio gan y Cyngor).