Beth yw asbestos?

Defnyddiwyd asbestos yn helaeth iawn fel deunydd adeiladu yn y DU o’r 50au i’r 80au cynnar.

Gall unrhyw adeilad a adeiladwyd cyn 2000 (gan gynnwys tai, ffatrïoedd, swyddfeydd, ysgolion, ysbytai) gynnwys asbestos.

Mae deunyddiau asbestos mewn cyflwr da yn ddiogel  oni bai bod ffibrau asbestos yn cael eu rhyddhau i’r aer, sy’n digwydd pan fo deunyddiau yn cael eu difrodi. 

Ym mhle mae asbestos i’w gael mewn adeiladau?

Mae asbestos i’w gael yn y deunyddiau cyffredin canlynol (a gynhyrchwyd cyn diwedd y 1980au): 

  • Boeleri a phibellau (deunydd inswleiddio)
  • Teils a dalennau to
  • Leinin waliau a nenfydau 
  • Deunyddiau llawr 
  • Toeau garejis ac adeiladau allanol 

Sut allaf ddweud os oes asbestos yn fy eiddo?

Mae’n anodd pennu presenoldeb asbestos drwy edrych yn unig – profi yw’r unig ffordd o gadarnhau presenoldeb asbestos.

Yn gyffredinol, ni fydd cynhyrchion sydd mewn cyflwr da a heb eu symud yn peri risg.

Os ydych yn amau bod cynnyrch yn cynnwys asbestos ac yn dangos arwyddion o draul neu ddirywiad, yna dylech siarad â’ch landlord, neu geisio cyngor arbenigol mewn perthynas â chynnal prawf (rydym yn cynghori bod prawf ond yn cael ei gynnal os yw’r cynnyrch, yr ydych chi’n credu sy’n cynnwys asbestos, yn ddiffygiol ac yn peri risg i ddeiliaid).

Os yw’r cynnyrch wedi’i ddifrodi, os yw gwaith ar / ger y cynnyrch wedi’i gynllunio (a fydd yn / allai ei ddifrodi) neu os cynigir ei waredu – dylai’r cynnyrch gael ei arolygu a’i brofi gan unigolyn cymwys yn gyntaf.  Yna gellir pennu dewisiadau adfer risg priodol.