Sut mae anwedd yn datblygu?

Mae anwedd yn datblygu pan fo anwedd dŵr yn yr awyr y tu mewn i eiddo yn dod i gysylltiad ag arwynebau oer. Mae i’w weld fel diferion o ddŵr neu niwl ar arwynebau (er enghraifft ffenestri, waliau neu deils). 

Gall anwedd dŵr ddatblygu o ganlyniad i weithgareddau arferol bob dydd megis golchi, coginio, sychu dillad a llosgi nwy potel. 

Os oes gormod o anwedd dŵr y tu mewn i eiddo a dim system awyru, inswleiddio neu wres, gall anwedd ddatblygu. 

Pa broblemau all gormod o anwedd ei achosi? 

Gall anwedd achosi i lwydni dyfu ar waliau a nenfydau. Yr arwyddion cyntaf i edrych amdanynt yw mannau sgleiniog ar baent neu bapur wal sydd wedi newid lliw – gall llwydni ddechrau tyfu yn y mannau hyn. Gall llwydni ymddangos fel smotiau duon ar y waliau a’r nenfwd, gan gynyddu mewn maint. 

Gall llwydni hefyd ddatblygu ar ddodrefn a dillad (bydd lliw tebycach i wyrdd / llwyd ar y rhain). 

Gall anwedd gormodol effeithio ar iechyd pobl dros amser. Mae amodau tamp a llaith yn ddelfrydol ar gyfer gwiddon llwch ac mae eu baw yn alergen (cyfrwng achosi alergedd).

Pan fo llwydni yn tyfu, mae’n rhyddhau sborau llwydni i’r aer sydd hefyd yn alergenau. Gall anadlu’r alergenau hyn achosi adweithiau alergaidd (er enghraifft tisian, tagu, heintiau yn y llygaid, brechau ar y croen) a gall hefyd achosi pyliau o asthma i’r rheiny sy’n dioddef â’r cyflwr. 

Cyngor i geisio osgoi gormod o anwedd 

Lleihau anwedd dŵr

  • Ceisiwch osgoi sychu eich dillad dan do (os oes rhaid gwneud hyn, agorwch ychydig ar y ffenest er mwyn i’r anwedd dŵr allu dianc a chadwch y drws ar gau) 
  • Cadwch y drysau ar gau pan rydych yn cael bath / cawod neu’n coginio a chofiwch awyru’r ystafelloedd
  • Wrth goginio â sosbenni cofiwch ddefnyddio’r caeadau
  • Ceisiwch osgoi defnyddio gwresogyddion sy’n defnyddio nwy potel

Gwella awyru

  • Ceisiwch awyru eich cegin wrth goginio drwy ddefnyddio’r peiriant gwyntyllu uwchben y popty neu ffan echdynnu os oes gennych chi un, neu agorwch ffenestr. 
  • Ceisiwch awyru eich ystafell ymolchi / cawod yn ystod ac ar ôl ymolchi drwy ddefnyddio’r ffan echdynnu os oes gennych chi un, neu agorwch ffenestr. 
  • Cadwch fentiau diferynnu ar agor mewn ystafelloedd gwely yn ystod y nos. 
  • Helpwch yr awyr i gylchredeg drwy gadw bwlch bychan rhwng dodrefn mawr (cypyrddau dillad, cypyrddau, soffas) a’r waliau neu’r lloriau. 
  • Gall croes awyru helpu i leihau’r anwedd sy’n datblygu dros nos – os yn bosibl, agorwch ffenestr fechan i lawr grisiau a ffenestr fechan ar yr ochr arall i fyny’r grisiau, ac agorwch y drysau, er mwyn i aer ffres gylchredeg o amgylch y tŷ. 
  • Os ydych yn defnyddio peiriant sychu dillad, sicrhewch fod y beipen y tu allan i’r ffenestr neu ddrws, neu defnyddiwch beiriant sychu dillad sy’n cyddwyso. 

Sicrhau bod eich eiddo’n ddigon cynnes

Er y gall awyru leihau anwedd, peidiwch ag awyru eich eiddo’n ormodol yn ystod tywydd oer – os yw’r tymheredd yn yr eiddo’r rhy isel, mae’n fwy tebygol o achosi anwedd. 

  • Cynyddu’r tymheredd drwy roi’r gwres ymlaen os yw’n rhy oer (mae tymheredd sefydlog, yn hytrach nag amrywiadau, hefyd yn helpu i fynd i’r afael ag anwedd. 
  • Os ydych eisiau cynhesu ystafell sydd heb wres canolog ynddi, defnyddiwch wresogydd trydan yn hytrach na nwy potel. 

Mathau eraill o damprwydd

Mae anwedd yn un math o damprwydd, fodd bynnag, mae tamprwydd treiddiol a thamprwydd sy’n codi yn fathau cyffredin eraill.

Gallai’r tamprwydd fod yn damprwydd treiddiol neu’n damprwydd sy’n codi os yw:

  • â ‘marc dŵr’ neu haenau o halen
  • yn cyfateb â nam allanol (er enghraifft to yn gollwng dŵr, pibell yn gollwng neu landeri rhydd) 
  • mewn mannau nad ydynt yn gysylltiedig â mannau oer (er enghraifft waliau mewnol) 

Cyfrifoldeb eich landlord fyddai ymdrin â’r mathau hyn o damprwydd fel arfer a dylech roi gwybod iddo am y broblem ar unwaith.