Mae’r tabl hwn yn rhoi eglurhad o dermau penodol a ddefnyddir yn amodau eich contract meddiannaeth.

Termau Esboniad
Cartref Y llety yr ydych chi’n byw ynddo. Mae hyn yn golygu’r eiddo cyfan yr ydych chi’n byw ynddo, gan gynnwys yr atig, yr ardd ac unrhyw adeilad yr ydym ni wedi'i osod i chi dan y contract hwn.
Gardd Y tu allan i'r eiddo, er enghraifft, lawntiau, gwrychoedd, gwelyau blodau, coed, llwyni, mannau palmantog a choncrit, waliau cynnal, ffensys ac unrhyw adeilad neu strwythur y tu allan i'r llety yr ydym ni wedi'i osod i chi dan y contract hwn.
Mannau sy'n cael eu rhannu Mannau fel grisiau, lifftiau, landins, cynteddau, llithrennau sbwriel, palmentydd, gerddi ac iardiau a rennir, mannau parcio neu gilfachau yr ydych chi’n eu rhannu â deiliaid contract eraill.
Ein caniatâd ysgrifenedig Mae hyn yn golygu llythyr oddi wrthym ni yn caniatáu i chi wneud rhai pethau, o bosibl gydag amodau ynghlwm â nhw. Mae’n rhaid i chi gael y llythyr hwn cyn y gallwch chi fynd ati i wneud y pethau hyn. Ni fyddwn ni’n gwrthod cais rhesymol heb achos da.
Gwasanaethau cefnogi pobl Gwasanaethau sy’n ymwneud â thai i helpu pobl ddiamddiffyn i gynnal eu cartref a pharhau i fod yn annibynnol.
Ffioedd gwasanaeth

Os ydych yn byw mewn math penodol o eiddo, efallai y bydd rhaid i chi hefyd dalu taliadau gwasanaeth - yn ychwanegol at eich rhent. Byddwn yn codi dim ond am y gwasanaethau yr ydych yn eu derbyn, yn seiliedig ar y gwir gostau yr ydym yn eu talu bob blwyddyn i ddarparu’r gwasanaethau hyn.

Maen nhw’n yn cynnwys gwasanaethau fel atgyweiriadau, cynnal a chadw, gwelliannau, yswiriant cynnwys y cartref neu gostau rheoli. 

Byddwn yn rhoi dadansoddiad o’r Taliadau Gwasanaeth i chi bob blwyddyn.

Byddwn hefyd yn rhoi’r llyfryn ‘Canllaw i’ch Cartref’ i chi i’ch helpu chi i ddeall eich contract. Nid hwn yw eich contract meddiannaeth.