Pan fo gwybodaeth yn destun hawlfraint sy'n eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, bydd arnoch angen caniatâd i ailddefnyddio’r wybodaeth honno at ddibenion ar wahân i waith astudio preifat neu ymchwil anfasnachol. Efallai y codir tâl am ei ailddefnyddio. I wneud cais am ganiatâd, e-bostiwch FOI@wrexham.gov.uk

Mae’r holl gynnwys testun ar y wefan hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (dolen gyswllt allanol).

Os ydych yn ailddefnyddio cynnwys o dan y Drwydded Llywodraeth Agored, mae’n rhaid i chi gynnwys y priodoliad canlynol:

"Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, [enw a dyddiad cyhoeddi], wedi’i drwyddedu dan Drwydded Llywodraeth Agored".

Lle bo modd, rydym wedi sicrhau bod y data hwn ar gael ar fformat agored y gall peiriant ei ddarllen, heb fod angen unrhyw feddalwedd benodol (fel Gwerthoedd wedi’u Gwahanu gan Gomas (CSV) neu Iaith Arwyddnodi Estynadwy (XML).