Bob chwech mis byddwn yn cysylltu â chi i ofyn i chi adnewyddu eich cais. Mae hyn er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth sydd gennym yn gywir a’ch bod yn dal yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer tŷ. Mae’n bwysig eich bod yn adnewyddu eich cais. Os nad ydych yn gwneud hynny, bydd eich cais yn cael ei ganslo ac yn cael ei dynnu oddi ar y gofrestr tai.

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn canslo eich cais os...

  • Byddwch chi neu rywun sy'n gweithredu ar eich rhan, gyda’ch caniatâd yn gofyn i ni wneud hynny.
  • Byddwch yn cael eich ailgartrefu
  • Byddwch yn rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol
  • Byddwn yn penderfynu eich eithrio o’r gofrestr tai oherwydd ymddygiad annerbyniol difrifol
  • Bydd eich statws mewnfudo yn newid ac nad ydych bellach yn gymwys i gael tŷ

Os ydych yn penderfynu eich bod am aros ar y gofrestr tai, neu ailymgeisio nes ymlaen, ni fyddwn yn adfer eich cais. Byddwn yn defnyddio’r dyddiad pan fyddwch yn ailymgeisio i flaenoriaethu eich cais.