Mae coed a choetir yn rhan hanfodol i’n trefi a chefn gwlad. Maent yn bwysig ar gyfer ein hiechyd, lles ac ansawdd bywyd. Ni allwn warantu eu dyfodol.

Mae newid yn yr hinsawdd:, plâu ac afiechydon, datblygiad, arferion amaethyddol modern a chanfyddiadau anaddas o risgiau yn rhai o broblemau sydd yn bygwth ein coed.

Yng Nghyngor Wrecsam, rydym wedi datblygu ‘Addewid Wrecsam’  i helpu diogelu coed a choetir ar draws y fwrdeistref sirol. Hefyd, mae’r addewid yn annog pobl i fynd tu allan i fwynhau coed a choetir yn eu hardal.

Ymuno â’r Addewid

Os ydych yn bryderus am goed a choetir yn Wrecsam, rydym eisiau i chi lofnodi’r addewid i ddangos eich cefnogaeth. 

Rydym eisiau annog pawb i ymuno, gan gynnwys y rhai sydd yn rhan o fusnesau, grwpiau cymunedol neu sefydliadau lleol. 

Drwy lofnodi’r addewid, byddwch yn ymuno â’n rhestr gyfeiriadau, lle gallwch ddod o hyd i’r ffyrdd y gallwch ddod yn rhan mewn 4 ffordd wahanol:

  1. Creu Coetir
    Plannu coed i greu coetir newydd neu ehangu coetir presennol ar draws Wrecsam. Helpwch ni i blannu mwy o goed drwy ymuno ag un o’r cynlluniau plannu coed ar draws y sir.
  2. Cadwraeth Coetir
    Diogelu a gwella ardaloedd coetir presennol ar gyfer bioamrywiaeth, adferiad newid yn yr hinsawdd: a chynefin o ansawdd dda. 
  3. Dathlu Coetir 
    Caniatáu cysylltiad natur o fewn coetir ar gyfer iechyd, lles, chwarae ac addysg.
  4. Canmoliaeth Coetir
    Deall pa mor werthfawr yw coed a choetir yn ein bywydau bob dydd. 

Llofnodi’r Addewid

Dechrau rŵan