Mae cerdyn teithio consesiwn yn eich galluogi i deithio am ddim ar fwyafrif o wasanaethau bysiau a rhai gwasanaethau trên yng Nghymru. 

Gallwch wneud cais am gerdyn teithio consesiwn os ydych dros 60 oed, neu’n berson anabl cymwys, ac os ydych yn byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae gwefan Trafnidiaeth Cymru hefyd yn darparu gwybodaeth ar gymhwysedd a sut allwch chi ddefnyddio’r cerdyn:

Cerdyn cydymaith

Os ydych angen cymorth wrth deithio ar y bws, gallwch fod yn gymwys am gerdyn cydymaith. 

Mae cardiau cydymaith yn caniatáu teithio am ddim ar gyfer un unigolyn sy’n cyd-deithio â chi am y siwrnai gyfan. Mae ceisiadau ar gyfer cerdyn cydymaith yn cael eu gwneud i ni, nid i Drafnidiaeth Cymru.

Cymhwysedd

Gallwch gael cerdyn cydymaith os oes gennych:

  • Ymddygiad heriol, gyda’r angen i gael goruchwyliaeth drwy’r amser
  • Namau meddyliol a gwybyddol difrifol (gan gynnwys pobl heb unrhyw ymwybyddiaeth o risg a gallu cyfyngedig i gynllunio a dilyn siwrnai)
  • Cyfuniad o nam gweledol a chlywedol neu weledol a lleferydd sy’n rhwystro symudedd annibynnol
  • Anawsterau yn defnyddio cadair olwyn yn annibynnol

Tystiolaeth ategol

Rhaid i’ch angen am gydymaith gael ei ddilysu’n ysgrifenedig (llythyr neu e-bost) gan weithiwr meddygol, iechyd neu gymdeithasol cymwys.  Bydd angen i chi ddarparu sgan, llun o ansawdd da neu giplun o’r tystiolaeth.

Rhaid i’r dystiolaeth ddatgan yn glir pam fod y cymorth rydych angen gan gydymaith tu hwnt i gyfrifoldebau cyffredin y byddech yn ei ddisgwyl gan berson sy’n cyd-deithio.

Mwy ynglŷn â chardiau cydymaith

Ydw i angen darparu llun ar gyfer cerdyn cydymaith?

Os oes gennych gerdyn bws dilys gyda llun diweddaraf, byddwn yn defnyddio hwn ar gyfer eich cerdyn cydymaith.

Os nad ydych erioed wedi cael cerdyn bws, byddwch angen darparu llun (o’r unigolyn sy’n ymgeisio i fod yn ddeiliad cerdyn, nid y cydymaith).

A yw fy nghydymaith angen eu cerdyn eu hunain?

Na, bydd gan eich cerdyn teithio logo a fydd yn caniatáu i’ch cydymaith deithio gyda chi.

A yw fy nghydymaith angen bod yr un un bob tro?

Na, gall eich cydymaith fod yn rhywun gwahanol bob tro rydych yn teithio.

A yw fy nghydymaith angen bod yn weithiwr gofal cymwys?

Na, gall eich cydymaith gynnwys unrhyw un sy’n eich cynorthwyo i deithio, mae hyn yn cynnwys ffrindiau a theulu yn ogystal â gweithwyr gofal.

A allaf gael mwy nag un cerdyn ar gyfer mwy nag un cydymaith?

Na yn anffodus, mae'r cerdyn cydymaith ond yn caniatáu i chi gael un unigolyn gyda chi. Bydd angen i unrhyw gydymaith ychwanegol dalu'r ffi safonol yn uniongyrchol i'r cwmni teithio.

A oes unrhyw gostau ychwanegol wrth deithio gyda chydymaith?

Nid oes unrhyw dâl ychwanegol i'ch cydymaith deithio gyda chi.

A all fy nghydymaith deithio hebddof i gan ddefnyddio fy ngherdyn teithio?

Na, mae eich cerdyn cydymaith yn dangos eich enw a’ch llun chi a ellir ond ei ddefnyddio pan rydych chi'n bresennol.

Mae gennyf gerdyn bws eisoes, beth ydw i’n ei wneud gyda hwn pan fyddaf yn derbyn fy ngherdyn cydymaith?

Byddwch angen dychwelyd eich hen gerdyn i Galw Wrecsam, Llyfrgell Wrecsam, Ffordd Rhosddu, Wrecsam, LL11 1AU.

Sut i ymgeisio

Gallwch wneud cais am gerdyn cydymaith gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein. Bydd angen i chi uwchlwytho’r dystiolaeth ategol i gadarnhau pam fod angen cydymaith arnoch (fel arall gallwch bostio copi o’ch tystiolaeth i Galw Wrecsam, Llyfrgell Wrecsam, Ffordd Rhosddu, Wrecsam, LL11 1AU).

Rhaid i’r cais gael ei gwblhau yn enw’r deiliad cerdyn (nid y cydymaith).

Dechrau rŵan

Gostyngiadau teithio yng Nghymru ar gyfer pobl 16 i 21 oed