Y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu diwydiannol | Storm Agnes
Diweddariad: Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth (RAAC) - Newyddion Cyngor Wrecsam
Digwyddiadau
Dangos 10 o 353 digwyddiad.
Clwb Cyfeillgarwch - Llyfrgell Brynteg
Un o'r ffyrdd mwyaf hwylus o gymdeithasu ffrindiau yw ymuno â grŵp neu glwb. Pam na ddewch draw i gwrdd â phobl fel chi i gael sgwrs am y pethau sy'n bwysig i chi dros baned da hen ffasiwn! Gallwch ddod ag unrhyw brosiect crefft gyda chi, llyfr, cwis - neu'ch hun yn unig!
The Stitchers - Llyfrgell y Waun
Mae "The Stitchers" yn grŵp newydd sydd wedi dechrau yn Llyfrgell y Waun.
Maent yn cyfarfod ar y 4ydd dydd Iau o'r mis am 2.30yp - 4.30yp.
Os gallwch chi wau, crosio, gwnїo, neu frodio, yna dyma'r peth i chi.
Grŵp Llyfrau - Llyfrgell Gwersyllt
Dydd Iau cyntaf a mis 3:15
Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni
Darperir te, coffi a bisgedi
Gofynnwch wrth y ddesg neu ffoniwch 01978 722890 am ragor o fanylion
Clwb Cyfeillgarwch - Llyfrgell Coedpoeth
Dewch i ymuno â phobol fel chi i gael sgwrs am faterion sy'n bwysig i chi dros baned o de!
Clwb Lego i'r Teulu - Gwersyllt
Mae llyfrgell Gwersyllt wedi dechrau clwb Lego i'r teulu.
Dewch draw i ymuno â ni bob dydd Gwener 3.15 - 4.00yp
Addas i oedran 4+
Clwb Lego - Wrecsam
Mae llyfrgell Wrecsam wedi dechrau Clwb Lego.
Dewch draw i ymuno â ni bob dydd Sadwrn 14.00 - 15.00yp
Yn addas ar gyfer oedran 4+
*Blociau adeiladu ar gael i blant dan 4 oed yn dymuno mynychu
Sgwrs Gymraeg - Llyfrgell Wrecsam
Oes gennych awydd ymarfer siarad Cymraeg a mwynhau paned yr un pryd mewn awyrgylch anffurfiol?
Ymunwch â ni yn Llyfrgell Wrecsam
Bob bore ddydd Llun tymor ysgol yn unig
Addas i rai di Gymraeg a phawb sydd a diddordeb.
Croeso cynnes i bawb
Grwpiau Gwau, Crosio & Chrefft - Llyfrgell Cefn Mawr
Mae'r grŵp hwn wedi'i anelu at unrhyw un sy'n mwynhau unrhyw beth Crefftus - Gweu, Gwnïo, Brodwaith, Gwneud Cardiau, Crosio, Macramé ac ati.
Dewch â'r hyn rydych chi'n gweithio arno neu dewch i eistedd a chael sgwrs gyda chrefftwyr eraill.
Grwp Sgwrsio - Llyfrgell Rhos
Oes gennych awydd dysgu siarad Cymraeg a mwynhau paned yr un pryd mewn awyrgylch anffurfiol?
Ymunwch â ni yn Llyfrgell Rhos pob pnawn Dydd Llun am 2 o'r gloch
Addas i rai di Gymraeg a phawb sydd â diddordeb.
Croeso cynnes i bawb.
Clwb Cyfeillgarwch - Llyfrgell Wrecsam
Un o'r ffyrdd mwyaf hwylus o gymdeithasu ffrindiau yw ymuno â grŵp neu glwb. Pam na ddewch draw i gwrdd â phobl fel chi i gael sgwrs am y pethau sy'n bwysig i chi dros baned da hen ffasiwn! Gallwch ddod ag unrhyw prosiect crefft gyda chi, llyfr, cwis - neu'ch hun yn unig!