|
Polisi'r awdurdod yw monitro pob i bob signal traffig a chroesfan pelican gael eu monitro o bell fel y byddwn yn gwybod am fethiannau lampau ar unwaith.
O ganlyniad, ni gynhelir unrhyw archwiliadau ar gyfer goleuad.
Os bydd methiant brys o ran offer signal, dylid adfer gweithrediad derbyniol o fewn wyth awr ac atgyweiriad llawn o fewn 7 diwrnod olynol.
Os bydd methiant nad yw'n frys o ran offer signal, dylid cwblhau atgyweiriad llawn o fewn 7 diwrnod olynol.
O ran offer gweledol, dylid atgyweirio methiannau lampau coch o fewn chwech awr. Dylid atgyweirio methiannau eraill o ran lampau, unedau pwyso botwm a chyrff llusernau o fewn deuddeg awr. Caiff byrddau cefnu, stribedi gwyn a misyrnau eu hatgyweirio o fewn pedair awr ar hugain.
Cynhelir tri archwiliad misol o'r offer yn unol â HD 24/86.
Bydd newidiadau lampau fesul llwyth fel a ganlyn:
| Lampau coch a gwyrdd i gerbydau |
Pob chwe mis |
| Lampau coch a gwyrdd i gerddwyr |
 |
| Pob lamp arall (gan gynnwys ambr) |
Pob 12 mis |
Caiff y tu allan i wynebwedd llusernau, celloedd ffoto-electrig ac arwyddion bocs eu glanhau bob chwe mis.
Caiff y tu mewn i wynebwedd llusernau ac arwyddion bocs eu glanhau bob deu dde n g mis.
Caiff pyst eu paentio fel bo angen.
Pob tro y bydd rhywun yn bresennol ar safle i wneud gwaith cynnal a chadw gweledol, dylid sicrhau y caiff unrhyw lampau eraill sydd wedi methu eu hadfer, bod llusernau wedi'u haddasu'n a'u halinio'n gywir, a'u bod yn gadarn, bod byrddau cefnu, stribedi gwyn a misyrnau wedi'u gosod yn gywir, a chaiff unrhyw methiannau amlwg o ran signalau eu hunioni.
|