Gall ein Hadran Gynllunio ddarparu cyngor i chi os ydych chi’n ansicr ynghylch a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer eich prosiect.

Gallwch gysylltu â’n tîm cynllunio drwy anfon neges i planning@wrexham.gov.uk neu drwy ffonio ein llinell gynllunio arbennig.

Ymgynghorwyr hyfforddedig

Bydd arnoch chi angen trefnu apwyntiad i siarad gydag un o’n hymgynghorwyr drwy ffonio ein llinell gynllunio arbennig. Mae apwyntiadau ar gael yn ystod yr adegau canlynol yn Galw Wrecsam:

  • Dydd Llun i ddydd Gwener (ar wahân i ddyddiau Mawrth) 9am - 4.30pm 
  • Dydd Mawrth 10am – 4.30pm 

Apwyntiadau gyda Swyddog Cynllunio

Yn ogystal â’n gwasanaeth arferol, gall Swyddog Cynllunio ddarparu cyngor penodol ar gynigion datblygu (dylunio, deunyddiau, adroddiadau ychwanegol).  

Bydd arnoch chi angen trefnu apwyntiad dros y ffôn i siarad efo swyddog cynllunio. Yr amseroedd sydd ar gael yw

  • Dydd Llun 10.30am tan 12.30pm
  • Dydd Mercher 2pm tan 4pm
  • Dydd Iau 10.30am tan 12.30pm

I archebu apwyntiad, ffoniwch ein llinell gynllunio arbennig. Pan fyddwch chi’n ffonio, fe ddylech chi ddarparu cymaint o wybodaeth â phosibl am eich cynnig er mwyn i’r swyddog ddarparu cyngor gwybodus yn ystod y cyfarfod.