Os yw busnes yn gwneud, paratoi neu ddelio â bwyd sy'n dod o anifeiliaid ar gyfer cyflenwi i fusnesau eraill, rhaid i’r busnes bwyd a’i weithgareddau, ym mwyafrif yr amgylchiadau gael eu cymeradwyo gan ein tîm Diogelwch Bwyd.

Beth sy’n cyfrif fel bwyd sy'n dod o anifeiliaid?

Mae bwyd sy’n dod o anifeiliaid yn cynnwys:

  • Cig a dofednod (ffres, wedi rhewi neu wedi coginio)
  • Cynnyrch cig (fel pasteiod, rholiau selsig, ffagots, pwdin du a bacwn)
  • Briwgig amrwd neu wedi’i goginio’n rhannol neu baratoadau cig (fel selsig, byrgers, cig amrwd mewn marinȃd a chig cebab)
  • Pysgod a chynnyrch pysgod (fel bysedd pysgod, corgimychiaid, cimychiaid, crancod a chimychiaid yr afon – yn farw neu’n fyw)
  • Molysgiaid dwygragennog byw
  • Prydau parod yn cynnwys pysgod neu gig
  • Llaeth a chynnyrch llaeth (fel menyn, hufen, caws, iogwrt a hufen iâ)
  • Coesau llyffaint a malwod
  • Toddion anifeiliaid a sgil-gynhyrchion eraill anifeiliaid (fel gelatin, colagen, stumogau, pledrenni a choluddion)
  • Mêl a gwaed

Safonau sy’n ofynnol ar gyfer cymeradwyaeth

Er mwyn cael cymeradwyaeth rhaid i’ch busnes bwyd fodloni safonau hylendid penodol, sydd wedi’u nodi yn y canlynol:

  • Rheoliad (EC) Rhif. 853/2004 Rheolau Hylendid ar gyfer Bwyd sy'n dod o Anifeiliaid 
  • Rheoliad (EC) Rhif. 852/2004 Hylendid Bwydydd

Ni roddir cymeradwyaeth oni bai bod y safonau gofynnol wedi’u bodloni.

Ni ddylai busnesau bwyd ddechrau unrhyw weithgaredd busnes sydd angen cymeradwyaeth, oni bai eu bod wedi derbyn cymeradwyaeth amodol neu lawn ar gyfer y gweithgaredd arfaethedig gan ein tîm Diogelwch Bwyd. Mae dechrau busnes heb gymeradwyaeth yn drosedd sy’n debygol o arwain at erlyn y busnes.

Sut i wneud cais am gymeradwyaeth

Gallwch wneud cais ar-lein ar gyfer cymeradwyo safle bwyd. 

Nid oes cost ar gyfer hyn. 

Eithriadau

Mae rhai eithriadau i’r gofynion i gymeradwyo.

Mae busnesau bwyd sydd ond yn cyflenwi bwyd sy'n dod o anifeiliaid yn uniongyrchol i’r defnyddiwr olaf, h.y. y person sy’n bwyta’r cynnyrch bwyd, wedi’u heithrio.

Gellir eithrio yn seiliedig ar raddfa y mae’r busnes yn dymuno cyflenwi bwyd sy'n dod o anifeiliaid i fusnesau eraill.

Dylech gysylltu â’n tîm Diogelwch Bwyd i benderfynu os allwch gael eich eithrio.

Fodd bynnag, os yw busnes wedi’i eithrio rhaid cofrestru fel safle bwyd o leiaf 28 diwrnod cyn agor.

Cysylltu â’n tîm Diogelwch Bwyd

Dolenni perthnasol