Gall eich busnes chi helpu i greu Wrecsam mwy gwyrdd a glân.

Ers i ni gyflwyno ein cynllun Noddi Cylchfan, mae wedi mynd o nerth i nerth, gan wella’r amgylchedd ar gyfer trigolion ac ymwelwyr Wrecsam. Mae eich arian nawdd yn mynd tuag at gynnal a chadw a datblygu’r cylchfannau.

Manteision noddi cylchfan

Mae lleoliad Wrecsam, gyda chysylltiadau agos gyda holl rwydweithiau priffyrdd yn rhoi mynediad hawdd i Ogledd Cymru a’r Gogledd Orllewin, gan ei wneud yn ardal ddelfrydol i hysbysebu eich busnes.

Gallwch hyrwyddo enw, logo a gwefan eich cwmni ac amlygu eich gwasanaeth  neu gynnyrch ar un o'n cylchfannau.

Bydd eich arwydd yn weledol 24 awr y diwrnod, 365 diwrnod y flwyddyn i unrhyw gwsmeriaid posibl, gan wneud y nawdd y fforddiadwy a chost effeithiol.

Am ba hyd allwch noddi cylchfan?

Gall ein holl gylchfannau gael eu noddi am leiafrif o flwyddyn ac uchafswm o ddwy flynedd. 

Faint fydd y gost?

Mae prisiau'n amrywio ac yn dibynnu ar y pethau canlynol: lleoliad y gylchfan, faint o draffig sy'n mynd heibio a'r cynllun plannu.

Mae’r cylchfannau’n dod o dan pris.

  • Lefel 1 - £1000 y flwyddyn
  • Lefel 2 - £2000 y flwyddyn
  • Lefel 3 - £3000 y flwyddyn

Bydd gostyngiad o 25% ar gyfer Lefel 1 a Lefel 2 a bydd gostyngiad o 33% ar gyfer Lefel 3, ar gyfer nawdd dwy flynedd. Nid yw’r holl brisiau a ddangosir yn cynnwys TAW.

Mae amryw o leoliadau o amgylch Wrecsam i ddewis. Efallai bydd mwy o gylchfannau’n cael eu hychwanegu yn ddibynnol ar geisiadau cynllunio. 

Cylchfannau sydd ar gael ar gyfer noddi

Lleoliad y gylchfan Cost
Image
""

Bodhyfryd

£3000 y flwyddyn
Image
""

De Ffordd y Bont, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam

£3000 y flwyddyn
Image
""

De Ffordd y Bont (Dwyreiniol), Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam

£2000 y flwyddyn
Image
""

Ffordd Croesnewydd

£2000 y flwyddyn
Image
""

Cylchfan NEWI (cyfyngiadau’n gymwys)

Rhaid trafod y pris
Image
""

Cylchfan 1 Plas Coch

£3000 y flwyddyn
Image
""

Cylchfan 2 Plas Coch

£3000 y flwyddyn
Image
""

Rhostyllen A5152 Ffordd Osgoi

£2000 y flwyddyn

Cysylltu â ni

Os oes diddordeb gennych mewn dod yn noddwr, gallwch anfon neges e-bost i roundabouts@wrexham.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth. 

Rydym ni (Cyngor Wrecsam) yn cadw’r hawl i beidio derbyn cytundeb noddi cylchfan gydag unrhyw noddwr am unrhyw reswm.

Noddi cylchfan newydd – dyluniad y cylchfan

Os yw cwmni’n noddi cylchfan newydd gallent roi eu barn ar ddyluniad y gylchfan hefyd (dangosir esiampl). Bydd y gwelliannau hyn i’r cylchfannau yn cael effaith sylweddol ar yr ardal ac amgylchedd y rhai sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal leol.

Image
""