Mae Parc Acton tua hanner milltir i'r gogledd o Ganol Tref Wrecsam ac yn ymestyn dros tua 24 hectar (64 acer). 

Enillodd Parc Acton  Wobr y Faner Werdd am y tro cyntaf yn 2016 ac mae wedi’i chadw bob blwyddyn ers hynny. 

Roedd y  parc yn arfer bod yn dir i Blas Acton ac mae sawl nodwedd o’r tirlun yn dal yno, ond y llyn a'r coed amrywiol a thrawiadol yw'r rhai mwyaf amlwg. Mae’r parc wedi’i ffurfio o ardaloedd mawr o barcdir, coetir a’r llyn, yn ogystal ag ystod o gyfleusterau chwarae a chwaraeon. Yn y parc hefyd mae yna nifer fach o ardaloedd sydd wedi’u plannu’n ffurfiol.

Ni chaniateir hedfan dronau ym mharciau Wrecsam.

Parcio ceir

Mae tri maes parcio ar gyfer nifer gyfyngedig o gerbydau ger Rhodfa Herbert Jennings, ger Rhodfa Tapley a thu ôl i Dafarn Cunliffe ar Ffordd Jeffreys.   

Cŵn

Mae croeso i gŵn ym Mharc Acton ond dylid eu cadw dan reolaeth bob amser.  Cofiwch bod methu â chodi baw eich cŵn yn drosedd ddifrifol a gallech wynebu dirwyon.

Gwirfoddoli a Chyfeillion Parc Acton

Gwirfoddolwyr

Mae gan Barc Acton wirfoddolwyr annibynnol sy’n gweithio drwy gydol y flwyddyn. Maent yn rhoi cyfran helaeth o’u hamser a’u hymdrech i’r parc a rydym yn eu gwerthfawrogi’n fawr.  

Mae’r grwpiau yn gweithio ar nifer o wahanol dasgau, gan gynnwys:
●    paentio 
●    clirio llystyfiant
●    chwynnu/ tocio
●    codi sbwriel

Am fwy o wybodaeth gallwch e-bostio countryparks@wrexham.gov.uk neu ffonio number  01978 822780. Gallech hefyd gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli trwy grŵp Cyfeillion Parc Acton.

Cyfeillion Parc Acton

Os hoffech chi gael dweud eich dweud am ddyfodol Parc Acton, gallech ymuno â ‘Chyfeillion Parc Acton’.

Formed in 2008, the group has raised money to spend on the park for items such as picnic benches and a range of other projects.

Mae’r grŵp hefyd yn gwirfoddoli’n rheolaidd er mwyn helpu â chynnal a chadw'r parc trwy:

  • Wneud gwaith cadwraeth ymarferol/ garddio
  • Helpu gyda digwyddiadau

Am ragor o wybodaeth, gallwch anfon e-bost at countryparks@wrexham.gov.uk neu ffonio number  01978 822780.

Ardaloedd chwarae plant

Mae gan y parc ardal chwarae fodern ar gyfer plant a phlant bach. Mae’r ardal wedi'i ffensio er mwyn rhwystro cŵn rhag dod i mewn ac mae wyneb mwy diogel o dan yr offer chwarae.

Cyrtiau tennis

Mae dau gwrt tennis tarmac yn y parc. Gellir defnyddio’r cyrtiau am ddim ac maent ar agor drwy gydol y flwyddyn.

Llyn

Y llyn yw canolbwynt y parc. Adeiladwyd y llyn yn wreiddiol yn defnyddio clai yn ystod y ddeunawfed ganrif ond yn ystod y 1970au, cafodd y llyn ei wagio a’i leinio â biwtyl.

Mae pysgota’n boblogaidd ar y llyn a Chlwb Genweirio Cymunedol Parc Acton yw’r clwb preswyl yno. Mae pysgota wedi’i gyfyngu i aelodau a physgotwyr â thocyn dydd yn unig. Mae tocynnau dydd ar gael i’w prynu o siopau offer pysgota yn ardal Wrecsam.

Mae hefyd ardal o dir gwlyb yn cynnal ystod eang o fywyd gwyllt. Mae’r llyn wedi cau i bysgotwyr yn ystod cyfnod nythu'r adar hela.

Ardaloedd o flodau gwyllt

Mae gwahanol ardaloedd yn y parc yn cael eu rheoli mewn ffordd sy’n annog blodau gwyllt a bioamrywiaeth gan ddarparu cynefinoedd ar gyfer pryfed a mathau eraill a ffawna.

Mae blodau gwyllt brodorol wedi’u plannu yn yr ardaloedd hyn ac nid ydynt yn cael eu torri yn ystod yr haf. 

Llwybrau

Mae gan y parc rwydwaith o lwybrau sy’n rhoi mynediad da at holl ardaloedd y safle. Mae gan y llwybrau gymysgedd o arwynebau, ond tarmac yw'r rhan fwyaf ohonynt. 

Hanes y parc

Mae nifer o berchnogion wedi bod ar dir y parc yn y gorffennol, ac roedd yn arfer bod yn rhan o Ystad Plas Acton.

Yn y 16eg ganrif roedd yn perthyn i deulu Jeffreys. Plas Acton oedd man geni George Jeffreys, ‘Y Barnwr Crogi’, yn 1645. Daeth Jeffreys yn adnabyddus am roi dedfrydau llym i ddilynwyr gwrthryfel Sir Fynwy yn 1685.

Ar ôl teulu Jeffreys, daeth Plas Acton yn gartref i Philip Egerton ac yna Ellis Yonge.

Yn y 18fed ganrif prynwyd yr ystâd gan Syr Foster Cunliffe ar ôl i’w deulu wneud eu ffortiwn trwy fasnachu mewn caethweision. Dyluniwyd y parc ei hun yn wreiddiol fel rhan o barcdir teulu Cunliffe, a oedd yn ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau fel hela.

Defnyddiwyd y tir fel tir hyfforddi ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn dilyn hynny prynwyd y parc gan y masnachwr diemyntau Syr Bernard Oppenheimer. Gwerthodd Oppenheimer ran o’r tir i Gyngor Wrecsam ar gyfer adeiladu tai.

William Aston, gwneuthurwr dodrefn blaenllaw, oedd perchennog nesaf y parc ac roedd yn defnyddio’r plas i arddangos ei amrywiaeth o ddodrefn. Trwy hyn caniatawyd y cyhoedd i fynd i mewn i’r plas a’r parc am y tro cyntaf. Roedd cyfle i bobl fwynhau hwylio ar y llyn, ystafell de ger y llyn, gardd ddwyreiniol a pherfformiadau theatr. Daeth y gweithgareddau hyn i gyd i ben yn sgil yr Ail Ryfel Byd, pan ddefnyddiwyd y safle fel cyfleuster hyfforddi ar gyfer milwyr o bob cenedligrwydd.

Yn 1947 cyflwynwyd y plas a’r parc i Gyngor Bwrdeistref Wrecsam. Datblygwyd cyfleusterau newydd i wasanaethu’r boblogaeth a oedd yn tyfu (gan gynnwys lawnt fowlio, cyrtiau tennis ac ardaloedd chwarae).

Yn anffodus, oherwydd ei gyflwr gwael, dymchwelwyd y plas ym 1956/1957 ac fe gollwyd nodweddion eraill, megis y bont Japaneaidd dros ran o’r llyn.

Parhawyd i adeiladu tai ar dir y parc tan y 1970au ac yn fwy diweddar, mae fflatiau wedi'u datblygu ar safle’r hen blas mewn arddull tebyg i’r plas gwreiddiol.

Digwyddiadau

Gweler y byrddau gwybodaeth ar y safle am fanylion unrhyw ddigwyddiadau a gynhelir.

Gallwch hefyd gysylltu â grŵp Cyfeillion Parc Acton sy’n trefnu digwyddiadau yn y parc.

Cysylltwch â ni

Ebost: countryparks@wrexham.gov.uk (dydd Llun i ddydd Gwener)

Ffôn: 01978 822780 (ar benwythnosau)