Gwneud cais am Addysg Gynnar wedi’i Hariannu

Ymgeisiwch rŵan

Mae gan bob plentyn yn Wrecsam hawl i 10 awr o Addysg Gynnar yr wythnos, yn dechrau yn y tymor sy’n dilyn eu pen-blwydd yn dair oed, fel rhan o’r Cynnig Gofal Plant yng Nghymru.

I fod yn gymwys, mae’n rhaid i’ch plentyn fod yn 3 oed cyn y tymor y maent i fod i ddechrau, ac maent rhaid iddynt fod yn byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Dim ond yn nhymhorau'r gwanwyn a'r haf yn mae Addysg Gynnar wedi’i Hariannu ar gael (gall dyddiadau tymhorau amrywio mewn gwahanol leoliadau).

Beth yw'r cynnig?

Gallwch gael mynediad at hyd at 30 awr yr wythnos o Addysg Gynnar wedi’i Hariannu neu Feithrinfa yn ogystal â gofal plant sydd wedi ei ariannu gan y llywodraeth wedi cyfuno am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Mae’r elfen Addysg Gynnar wedi’i Hariannu hon yn ffurfio 10 awr o'r cynnig 30 awr.

Nid yw sicrhau lle Addysg Gynnar wedi’i Hariannu yn rhoi lle meithrin awtomatig i chi mewn ysgol yn Wrecsam. Rhaid i chi wneud cais am le meithrin ar wahân.

Pryd a sut y gallai wneud cais am Addysg Gynnar wedi'i Hariannu?

Ar gyfer plant sydd wedi cael eu pen-blwydd yn dair oed cyn dechrau tymor y gwanwyn, bydd lle wedi'i ariannu ar gael ar gyfer tymor y gwanwyn a thymor yr haf. Ar gyfer plant sy'n cael eu pen-blwydd yn ystod tymor y gwanwyn, bydd lle wedi'i ariannu ar gael ar gyfer tymor yr haf

Os yw eich plentyn yn gymwys i gael addysg gynnar yn ystod tymor y gwanwyn a’r haf gallwch wneud cais o’r Medi 1, 2023 ymlaen ac mae’n rhaid i chi fod wedi gwneud cais erbyn Hydref 27, 2023 i gael lle i'ch plentyn nhymor y gwanwyn (Ionawr) 2024.

Os yw eich plentyn chi yn gymwys ar gyfer tymor yr haf yn unig, gallwch wneud cais o Hydref 30, 2023 ymlaen a bydd rhaid i chi fod wedi gwneud cais erbyn Rhagfyr 29, 2023 i gael cynnig lle ar gyfer tymor yr haf (Ebrill) 2024.

Bydd y ddau dderbyniad yn parhau ar agor ond bydd unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiadau cau uchod yn geisiadau hwyr.

Gallwch ymgeisiwch rŵan ar gyfer Addysg Gynnar wedi’i Hariannu.

Fel arall, mae ceisiadau bapur ar gael drwy anfon ebost i admissions@wrexham.gov.uk neu fundedearlyeducation@wrexham.gov.uk.

Rhowch y dechrau gorau i’ch plentyn

Yn Wrecsam rydym wedi ymrwymo i roi'r dechrau gorau posibl mewn addysg i'n plant ieuengaf. Mae Plant mewn Addysg Gynnar wedi’i Hariannu yn dysgu trwy chwarae – yn unol â’r Cwricwlwm ar gyfer Lleoliadau Meithrin wedi’i Hariannu yng Nghymru.

Mae ymchwil yn Wrecsam wedi profi bod plant tair oed mewn Addysg Gynnar wedi’i Hariannu yn mynd ymlaen i gyflawni canlyniadau uwch, ar ddiwedd blwyddyn chwech, na’r rhai nad ydynt yn manteisio ar y cynnig.

Mae manteision Addysg Gynnar wedi’i Hariannu i’ch plentyn yn cynnwys...

  • dysgu sgiliau newydd
  • magu hyder
  • darganfod a datrys problemau
  • archwilio a defnyddio technoleg
  • datblygu annibyniaeth
  • datblygu creadigrwydd a dychymyg
  • dysgu siarad Cymraeg
  • gwneud ffrindiau
  • cael llawer o hwyl dan do ac yn yr awyr agored

Sut mae'n gweithio

Gall eich plentyn gael lle mewn lleoliad wedi’i ariannu ar gyfer naill ai:

  • Pum sesiwn yr wythnos, un y dydd, dwy awr o hyd, neu
  • Pedair sesiwn yr wythnos, un y dydd, dwy awr a hanner o hyd.

Bydd hyn yn dibynnu ar yr hyn y mae'r lleoliad cymeradwy o'ch dewis yn ei ddarparu.

Ariennir lleoliad cymeradwy i ddarparu Addysg Gynnar i blant tair oed a gall fod yn un o’r canlynol:

Lleoliad dynodedig...

  • Cylch chwarae
  • Meithrinfa ddydd breifat
  • Dosbarth meithrin neu uned blynyddoedd cynnar mewn ysgol leol.

Ariannu Addysg Gynnar

Dim ond mewn un lleoliad y gallwch wneud cais am le wedi'i Hariannu. Telir cyllid yn uniongyrchol i'r lleoliad.

Lleoliadau sy'n derbyn cyllid...

  • Rhaid cael staff â chymwysterau priodol
  • Bydd yn cael ei arolygu gan ESTYN ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
  • Rhaid darparu'r sesiynau a nodir
  • Derbyn hyfforddiant rheolaidd

Lleoliadau Cymeradwy yn Wrecsam

Cyfrwng Cymraeg

  • Cylch Meithrin Bro Alun    
  • Ysgol Llanarmon Dyffryn Ceiriog    
  • Cylch Meithrin Min y Ddol    
  • Cylch Meithrin Summerhill    
  • Cylch Meithrin yn Plas Coch    
  • Cylch Meithrin I D Hooson 
  • Ysgol Bodhyfryd    
  • Ysgol Cynddelw    
  • Cylch Llan y Pwll    
  • Cylch Bryn Tabor

Cyfrwng Saesneg

  • Rhostyllen ABC
  • Cylch Chwarae Acorns
  • Gofal Plant Acton
  • Cylch Chwarae Gofal Plant Bangor-Is-y-Coed
  • Ysgol Black Lane
  • Ysgol Borderbrook
  • Addysg Gynnar Parc Borras
  • Cylch Chwarae Bradley
  • Ysgol Bronington Eglwys Cymru a Gynorthwyir
  • Ysgol Brynteg
  • Ysgol Bwlchgwyn
  • Meithrinfa Ddydd Caego a Berse
  • Cylch Chwarae Cefn Mawr
  • Meithrinfa Cherry Hill
  • Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Pentre, y Waun
  • Cylch Chwarae'r Waun
  • Dragons Day Care Tanyfron
  • Ysgol Eyton
  • Ysgol Gynradd Froncysyllte
  • Cylch Chwarae Garden Village
  • Ysgol y Garth
  • Ysgol Gynradd yr Holl Saint Eglwys Cymru a Gynorthwyir
  • Ysgol Gwenfro
  • Cylch Chwarae Happy Days Coedpoeth
  • Addysg Gynnar Heulfan
  • Cylch Chwarae Dan 5 Holt
  • Meithrinfa Ddydd Homestead
  • Meithrinfa Kiddies World
  • Meithrinfa Little Scholars
  • Little Sunflowers
  • Victoria Gems, Jewels and Treasures
  • Cylch chwarae Merffordd
  • Ysgol Minera
  • Meithrinfa Mother Goose
  • Gofal Plant Diwrnod Llawn New Broughton
  • Canolfan Chwarae Owrtyn
  • Addysg Gynnar Penycae
  • Meithrinfa Peter Pan
  • Meithrinfa Ddydd Playland
  • Meithrinfa Ddydd Redbrook
  • Meithrinfa Rise and Shine
  • Meithrinfa Rossett House
  • Meithrinfa Ddydd Sparkles
  • Ysgol Gatholig y Santes Anne
  • Ysgol Sant Chad Hanmer
  • Addysg Gynnar St Giles
  • Meithrinfa Cyn-ysgol y Santes Fair, Wrecsam
  • Ysgol y Santes Fair Brymbo
  • Ysgol Sant Paul
  • Cylch Chwarae Treasure Chest, Llai 
  • Ysgol Cae’r Gwenyn
  • Ysgol Maes y Llan
  • Ysgol Maes y Mynydd
  • Ysgol Yr Hafod Johnstown
  • Ysgol Wat’s Dyke