Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a dileu gwahaniaethu. Mae cydraddoldeb yn golygu sicrhau fod bywyd yn deg i bawb.  

Bob pedair blynedd rydym yn adnabod set o ganlyniadau cydraddoldeb strategol rydym eisiau gweithio tuag atynt sy’n rhan o Gynllun y Cyngor.

Deddfwriaeth Berthnasol

Fel awdurdod lleol mae rhai dyletswyddau yn ymwneud â chydraddoldeb sy’n rhaid i ni eu diwallu yn ôl y gyfraith.

Y Ddeddf Cydraddoldeb

Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb (dolen gyswllt allanol) yn gyfraith i sicrhau fod gan bawb yr un cyfleoedd. 

Rhaid i holl gyrff cyhoeddus feddwl am drin pobl o wahanol grwpiau yn deg ac yn gyfartal. Y Ddyletswydd Cydraddoldeb yw’r enw am hyn.  

O dan y Ddyletswydd Cydraddoldeb, yn ein swyddogaethau fel awdurdod lleol, mae angen i ni:

  • Gwneud yn siŵr fod pobl yn cael eu trin yn deg ac nad ydynt yn dioddef gwahaniaethu, aflonyddu nac erledigaeth;  
  • Rhoi ystyriaeth arbennig i wneud bywyd yn decach i bawb a sicrhau bod cyfleoedd i bawb, a
  • Helpu pobl sy’n wahanol i’w gilydd i ddeall ei gilydd. 

Mae rhai grwpiau sydd weithiau’n cael eu trin yn llai teg na’r mwyafrif. Mae’r grwpiau hyn angen ystyriaeth arbennig i wneud bywyd yn decach. Mae’r rhain yn cael eu diffiniol fel pobl ag ‘nodweddion gwarchodedig’ (dolen gyswllt allanol) o fewn y Ddeddf Cydraddoldeb.
 

Deddf Hawliau Dynol

Mae gan awdurdodau cyhoeddus ddyletswydd o dan y Ddeddf Hawliau Dynol 1998 (dolen gyswllt allanol) i beidio â gweithredu’n anghydnaws â’r hawliau dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Ddiogelu Hawliau a Rhyddid Sylfaenol. 

Pwrpas y Ddeddf Hawliau Dynol yw cefnogi diwylliant o barch ar gyfer hawliau dynol pawb a’i wneud yn rhan o fywyd bob dydd. Mae hawliau’r confensiwn yn cynnwys:

  • Hawl i fywyd 
  • Gwahardd artaith 
  • Gwahardd caethwasiaeth a llafur dan orfod 
  • Hawl i ryddid a diogelwch 
  • Hawl i brawf teg 
  • Hawl i barch o ran bywyd preifat a theuluol 
  • Rhyddid meddwl 
  • Rhyddid mynegiant 
  • Rhyddid cynulliad a chymdeithas 
  • Hawl i briodi 
  • Hawl i ddatrysiad effeithiol 
  • Gwaharddiad ar wahaniaethu 
  • Cyfyngiad ar weithgarwch gwleidyddol estroniaid 
  • Diogelwch eiddo 
  • Hawl i addysg 
  • Hawl i etholiadau rhydd 
  • Diddymu’r gosb eithaf

Data ac Adrodd ar Gydraddoldeb

Defnyddiwn wybodaeth berthnasol am gydraddoldeb i wneud y canlynol:

  • adolygu ein canlyniadau cydraddoldeb i sicrhau eu bod yn parhau i fod y meysydd canolbwynt cywir   
  • hysbysu gwneud penderfyniadau ar draws y Cyngor

Ble’n bosib defnyddiwn ystod o ffynonellau data gan gynnwys ystadegau, adroddiadau ymchwil ac ymgynghoriad neu adborth ymgysylltu. Gellir dod o hyd i rywfaint o’r data a ddefnyddiwyd, gan gynnwys data ar nodweddion gwarchodedig, ar ein tudalen data ac ymchwil.
 

Adroddiadau monitro cydraddoldeb cyflogaeth

Mae amrywiaeth yn bwysig ac rydym am gynnal gweithlu sydd ag ystod eang o sgiliau, cymwysterau a phrofiadau. 

Rydym yn casglu a dadansoddi gwybodaeth am ein gweithlu er mwyn helpu i sicrhau bod ein holl bolisïau ac arferion cyflogaeth yn trin ein gweithwyr yn deg, yn hyrwyddo canlyniadau cyfartal, yn dileu gwahaniaethu ac yn meithrin perthynas dda â’r gweithwyr. 

Rydym yn cyhoeddi’r adroddiadau monitro hyn yn flynyddol ac yn dangos cymariaethau dros 3 blynedd:

Am beth mae’r adroddiad yn son?

Mae’r adroddiad yn rhoi gwybodaeth am yr amrywiol nodweddion gwarchodedig roeddem yn gallu adrodd arnynt. Mae’r data yn ymwneud ag unigolion a gyflogir yn uniongyrchol gan y Cyngor.

Bydd y Cyngor yn adrodd ar y canlynol, lle bo’r systemau cyfredol yn caniatáu hynny: 

  • Gweithwyr y Cyngor â nodweddion gwarchodedig yn flynyddol ar 31 Mawrth
  • Gweithwyr yn ôl rhyw, a ddadansoddir yn ôl: swydd, graddfa, cyflog, math o gontract a phatrwm gwaith 
  • Ymgeiswyr ar gyfer swyddi’r Cyngor dros y flwyddyn ddiwethaf yn ôl nodwedd warchodedig*
  • Gweithwyr sydd wedi gwneud cais i newid swydd o fewn y Cyngor, gan nodi’r nifer a fu’n llwyddiannus a nifer a fu’n aflwyddiannus yn ôl nodwedd warchodedig* 
  • Gweithwyr sydd wedi gwneud cais am hyfforddiant a’r nifer a lwyddodd i gyflwyno cais llwyddiannus yn ôl nodwedd warchodedig* 
  • Gweithwyr sydd wedi cwblhau hyfforddiant yn ôl nodwedd warchodedig*  
  • Gweithwyr sy'n ymwneud â gweithdrefnau cwyno fel achwynydd neu fel person y gwnaed cwyn yn eu herbyn yn ôl nodwedd warchodedig*
  • Gweithwyr sy’n destun gweithdrefnau disgyblu yn ôl nodwedd warchodedig 
  • Staff sydd wedi gadael cyflogaeth y Cyngor yn ôl nodwedd warchodedig.  

*yn destun datblygu systemau pellach 
 

Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb

Nod asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb yw sicrhau bod materion cydraddoldeb wedi eu hystyried yn llwyr drwy gydol proses gwneud penderfyniadau yn y gwaith rydym yn ei wneud. 

Mae asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb yn canolbwyntio ar nodi’r gwahanol ffyrdd y gallai gwahanol bobl gael eu heffeithio gan gynnig. Yn ogystal ag edrych am ffyrdd o ostwng effaith negyddol, mae’r asesiad hefyd yn rhoi cyfle i edrych am gyfleoedd i greu effaith mwy cadarnhaol.’ 
 

Codi materion cydraddoldeb

Rydym yn ceisio cyflawni ein swyddogaethau hyd gorau ein gallu, gan roi ystyriaeth i wahanol anghenion ein cymuned amrywiol. 

Pe na baem yn bodloni eich disgwyliadau fel darparwr gwasanaeth neu ddarpar gyflogwr, mae gennym weithdrefn gwynion a chanmoliaethau gorfforaethol. Mae manylion am y weithdrefn hon ar ein tudalen cwynion cyffredinol.

Cydlyniant cymunedol

Beth yw cydlyniant cymunedol?

Mae cydlyniant cymunedol yn disgrifio gallu ein cymunedau lleol i fod yn gynhwysol a chefnogol tuag at bobl o bob diwylliant, ethnigrwydd, hunaniaeth a chred. Mae cymuned gydlynus yn gymuned lle mae pobl yn gyrru mlaen yn dda â’i gilydd.

Mae meithrin cydlyniant mewn cymunedau a rhwng cymunedau yn gam hanfodol tuag at wella ansawdd bywyd pobl. Mae Cynhwysiad Cymdeithasol yn creu unigolion hapus, hyderus, a’u grymuso i gyfrannu at economi egnïol, ffyniannus.

Yng Nghyngor Wrecsam, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydlyniant cymunedol ar draws y Fwrdeistref Sirol. 

Mae Tîm Cydlyniant Rhanbarthol Gogledd Ddwyrain Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cydlyniant cymunedol ar draws Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych. I gael rhagor o wybodaeth am sut maen nhw’n gwneud hyn ac i gymryd rhan, gallwch gysylltu â’r tîm ar onewrexham@wrexham.gov.uk 
 

Dolenni perthnasol