Nid yw’r tîm Cwynion yn gallu mynd i’r afael â chwyn o ran ymddygiad cynghorydd.

Mae pob cynghorydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn destun Cod Ymddygiad.

Cwynion anffurfiol

Gellir codi pryderon am ymddygiad cynghorydd gyda’n Swyddog Monitro i ddechrau:

E-bost: linda.roberts@wrexham.gov.uk

Swyddog Monitro
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Neuadd y Dref
Wrecsam
LL11 1AY

Cwynion ffurfiol

Dylid cyfeirio cwynion ffurfiol bod cynghorydd wedi torri’r cod ymddygiad o bosibl, at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Mae enghreifftiau o ffyrdd y gallai cynghorydd dorri’r cod ymddygiad yn cynnwys:

  • ymddwyn mewn ffordd sy’n effeithio’n negyddol ar enw da eu hawdurdod
  • defnyddio eu safle mewn ffordd annheg i ennill mantais i’w hunain neu rywun arall – neu roi rhywun arall i lawr
  • defnyddio adnoddau eu hawdurdod mewn ffordd amhriodol
  • methu datgan cysylltiad
  • dangos ymddygiad sy’n bwlio
  • methu â thrin pawb yr un fath
  • datgelu gwybodaeth gyfrinachol am unigolion heb reswm da

Fel arfer, dim ond pan fo tystiolaeth fod achos difrifol o dorri rheolau wedi digwydd y bydd yr Ombwdsmon yn ymchwilio. Mae deddfwriaeth yn nodi mai dim ond pan fydd yr Ombwdsmon wedi penderfynu ymchwilio’n ffurfiol ac adrodd i’r cyngor y gall y mater fynd gerbron Pwyllgor Moeseg a Safonau’r cyngor.

Os ydych chi’n teimlo bod y Cod wedi’i dorri o bosibl, gallwch gyflwyno cwyn i’r Ombwdsmon ar-lein.

Mae eglurhad ar wefan yr Ombwdsmon am safonau ymddygiad a ddisgwylir gan y Cod a’r sail y bydd yr Ombwdsmon yn ei ddefnyddio i benderfynu a ddylid ymchwilio i gŵyn ai peidio.
 

Gwybodaeth berthnasol