Lindsey Davis

Mae Lindsey Davis yn nofelydd toreithiog sydd wedi bod yn ysgrifennu ffuglen hanesyddol (trosedd) ers dros 30 mlynedd. Wedi'i geni a'i magu yn Birmingham, darllenodd Llenyddiaeth Saesneg yn Rhydychen cyn gweithio am 13 mlynedd i'r gwasanaeth sifil. Ym 1985, ysbrydolwyd Davis i ddod yn awdur pan ddaeth ei nofel ramantus yn ail ar gyfer Gwobr Nofel Hanesyddol Georgette Heyer. Gan ysgrifennu cyfresi rhamantaidd ar gyfer cylchgrawn Woman’s Realm i ddechrau, cafodd Davis ei hysbrydoli’n ddiweddarach i dreiddio i’r byd Rhufeinig gan ei diddordeb mewn archaeoleg a hanes, gan arwain at greu’r ditectif Rhufeinig hynod lwyddiannus, Marcus Didius Falco.  Enillodd nofel gyntaf y gyfres, The Silver Pigs a gyhoeddwyd ym 1989, wobr Authors’ Club Best First Novel. Enillodd ei chymeriad o Falco Wobr Sherlock am y ditectif comig gorau ac mae ei straeon wedi’u cyfresoli ar gyfer Radio 4. Mae Lindsey Davis wedi ennill llawer o wobrau gan gynnwys Crimewriters’ Association Dagger; Ellis Peters Historical Dagger a dyfarnwyd iddi y Crimewriters Association Cartier Diamond Dagger am gyflawniad oes yn 2011. Hi oedd enillydd cyntaf Barcelona Historical Novel Prize yn 2013. Mae'r awdur wedi bod yn Gadeirydd UK Crimewriters’ Association, Llywydd Anrhydeddus y Classical Association a Chadeirydd  Society of Authors. Ymhlith llawer o anrhydeddau eraill, cafodd Davis ei anrhydeddu gyda'r Premio Colosseo yn 2010 gan ddinas Rhufain. Cyhoeddir ei llyfrau yn y DU a'r Unol Daleithiau ac maent wedi'u cyfieithu i lawer o ieithoedd eraill.  Mae Davis yn parhau i fyw lle cafodd ei magu ac hi yw Llywydd presennol Birmingham and Midlands Institute.

Awdur Cymraeg y Mis - Heiddwen Tomos

Awdur ac athrawes Gymraeg a Drama yn Ysgol Bro Teifi, Ceredigion yw Heiddwen Tomos. Dywed mai ei phrif ysbrydoliaeth ar gyfer dechrau ysgrifennu oedd ei hawydd i greu, a bod ysgrifennu yn ffordd i greu llun ond gyda geiriau. Yn ifanc, roedd hi'n casáu darllen, roedd hi'n well am dynnu lluniau ond roedd ei mam bob amser yn dweud wrthi am ddarllen llyfr. Ar ôl cyrraedd TGAU fe gafodd ei dannedd o’r diwedd yn y math o lyfrau roedd hi’n eu mwynhau ac ers hynny dyw hi byth wedi edrych yn ôl. Yr hyn sy'n gwneud llyfr da yn ei barn hi yw'r gallu i uniaethu â'r cymeriad. Mae pethau fel plot a deialog hefyd yn allweddol. Mae hiwmor hefyd yn helpu i fynegi sefyllfa ddwys a chadw'r darllenydd yn rhan o'r profiad.  Llyfr cyntaf Heiddwen i bobl ifanc yw Heb Law Mam. Fel athrawes mae'n dweud ei bod yn cael llawer o hwyl gyda disgyblion a'i phlant ei hun. O ddarllen y llyfr mae hi’n gobeithio y bydd y darllenydd yn darganfod bod yna adegau anodd yn ein bywydau ni i gyd, ond gyda chariad teulu a ffrindiau gallwch chi ddod drwyddo. Un diwrnod ar y tro a byddwch yn gweld yr haul eto. Mae Heiddwen yn mwynhau peintio, hi oedd enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017 ac mae hi’n fam i dri o blant.