Beth yw cartref symudol?
‘Cartref symudol’ (neu ‘Gartref Parc’) yw’r enw cyffredin am gartref preswyl symudol ar safle sydd wedi’i drwyddedu gan yr awdurdod lleol at ddefnydd preswyl, sy’n aml yn cael ei alw’n ‘barc’.
Mae’r rhan fwyaf o breswylwyr yn berchen ar eu cartrefi symudol eu hunain, ac yn eu defnyddio fel eu cartref parhaol, ac maent yn talu ffi am y llain i berchennog y safle. Fodd bynnag, mae rhai preswylwyr yn denantiaid sy’n rhentu eu cartref symudol.
Diffinnir cartref symudol fel strwythur sydd wedi’i fwriadu i fyw ynddo y gellir ei symud o le i le (er enghraifft, drwy gael ei dynnu neu ei gario ar drêlyr neu gerbyd), neu gerbyd a ddyluniwyd neu a addaswyd ar gyfer byw ynddo.
Gall cartrefi symudol amrywio o ran eu maint a’u siâp – mae rhai yn debyg i fyngalos ond mae eraill yn edrych yn debyg i garafannau traddodiadol.
A oes uchafswm maint i gartref symudol?
Uchafswm maint cartref symudol yw 20 metr o hyd (heb far tynnu), 6.8 metr o led a 3.05 metr o uchder y tu mewn. Os ychwanegir portsh neu estyniad, er enghraifft, gall hyn olygu ei fod yn fwy na’r diffiniad cyfreithiol, a gallai gael ei ystyried fel adeilad o dan ddeddfwriaeth arall.
Pa ddeddf sy’n gymwys i safleoedd cartrefi symudol preswyl?
Mae Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn gymwys i bob safle cartrefi symudol yng Nghymru. Cafodd y Ddeddf ei chyflwyno i wella amodau’r safleoedd hyn, yn ogystal â rhoi mwy o amddiffyniad i berchnogion cartrefi symudol.
Prif nodweddion y Ddeddf yw:
- Mae’n ofynnol i berchnogion safleoedd wneud cais am drwydded gan eu hawdurdod lleol i weithredu safle. Mae’r drwydded yn para am hyd at bum mlynedd.
- Mae’n rhaid i ddarpar ddeiliaid trwyddedau safleoedd a rheolwyr safleoedd basio prawf ‘unigolyn cymwys a phriodol’.
- Bellach, ni all perchnogion safleoedd atal gwerthiant cartref symudol. Gall perchennog cartref symudol werthu ei gartref i bwy bynnag y mae’n dymuno gwerthu ei gartref iddo/iddi.
- Uchafswm y comisiwn y gall perchennog safle ofyn i berchennog cartref symudol ei dalu wrth werthu ei gartref symudol yw 10% o’r pris sy’n cael ei dalu amdano.
- Gall awdurdodau lleol archwilio safleoedd a rhoi hysbysiad cosb benodedig i berchnogion safleoedd os na fyddant yn cadw’r amodau ar gyfer y safle yn foddhaol.
- Mewn achosion mwy difrifol, gall awdurdodau lleol roi hysbysiad cydymffurfio i berchnogion safleoedd i sicrhau eu bod yn cadw at yr amodau gofynnol ar gyfer y safle.
- Gall y ffioedd ar gyfer lleiniau gael eu codi yn unol â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn unig.
- Gall perchnogion a phreswylwyr safleoedd apelio i’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl mewn rhai amgylchiadau.
Rhagor o wybodaeth am eich hawliau yn ymwneud â chartrefi symudol
Trwyddedu safleoedd a chostau
Mae’n rhaid i bob safle cartrefi symudol gael trwydded a roddwyd gan yr awdurdod lleol ar barc gyda chaniatâd cynllunio perthnasol.
Trwyddedu safle cartrefi symudol preswyl
Mae safleoedd cartrefi symudol preswyl (neu safleoedd cartrefi parc) yn cael eu trwyddedu gan y Tîm Safonau Tai.
Er mwyn gwneud cais am drwydded safle mae’n rhaid bod gan y safle ganiatâd cynllunio.
Ar ôl derbyn y cais cyntaf cynhelir archwiliad o’r safle, yna bydd trwydded y safle yn cael ei rhoi yn dibynnu ar ganlyniad yr archwiliad.
Er nad oes ffi ar gyfer cyflwyno’r cais cyntaf, codir ffi os bydd y drwydded yn cael ei chaniatáu.
Trwyddedu safle carafannau gwyliau
Mae Safleoedd Carafannau Gwyliau yn cael eu trwyddedu gan yr Adran Gwarchod yr Amgylchedd.
Er mwyn gwneud cais am drwydded safle mae’n rhaid bod gan y safle ganiatâd cynllunio.
Ar ôl derbyn y cais cyntaf cynhelir archwiliad o’r safle, yna bydd trwydded y safle yn cael ei rhoi yn dibynnu ar ganlyniad yr archwiliad.
Costau
Preswyl | Ffi |
---|---|
Safleoedd Preswyl Unigol | £243.95 |
Safle Preswyl Unigol - cymysg | £272.65 |
Safle Bach (2 - 10 cartref symudol) | £323.90 |
Safle Canolig (11 - 50 cartref symudol) | £671.37 |
Safle Mawr (50 + cartref symudol) | £1,136.72 |
Amrywio Amodau Trwydded | £198 |
Cofnodi Rheolau Safleoedd | £60.47 |
Trwydded Newydd | £33.82 |
Safleoedd heb fod yn rhai preswyl | Ffi |
---|---|
Safleoedd gwersylla (Deddf Iechyd y Cyhoedd 1936) | Dim ffi |
Safleoedd carafannau gwyliau a gwersylla | Dim ffi |
Trosolwg o’r broses drwyddedu safleoedd cartrefi symudol preswyl / safleoedd carafannau gwyliau
Crynodeb o’r broses drwyddedu |
Er mwyn rhedeg safle carafannau a gwersylla mae’n rhaid i chi gael trwydded gennym ni (fel yr awdurdod lleol). Gall amodau gael eu gosod ar drwydded yn ymwneud ag unrhyw un o’r rhesymau canlynol:
|
---|---|
Meini prawf cymhwysedd |
Fel ymgeisydd, mae’n rhaid bod gennych hawl i ddefnyddio’r tir fel maes carafannau. Ni fydd trwyddedau yn cael eu rhoi i ymgeiswyr y cafodd eu trwydded safle ei dirymu yn ystod cyfnod o dair blynedd cyn dyddiad cyflwyno’r cais presennol. |
Meini prawf trwyddedu |
GOV.UK: Crynodeb o’r meini prawf trwyddedu ar gyfer y drwydded hon (dolen gyswllt allanol) |
Y broses o werthuso ceisiadau |
Cyflwynir ceisiadau ar gyfer trwyddedu safleoedd i’r awdurdod lleol perthnasol. Dylai ceisiadau gynnwys manylion am y tir dan sylw ac unrhyw wybodaeth arall mae ar yr awdurdod lleol ei hangen. |
A fydd cydsyniad tawel yn gymwys? | Bydd. Golyga hyn y gallwch weithredu fel petai eich cais wedi ei ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gennym erbyn diwedd y cyfnod targed ar gyfer cwblhau. |
Cyfnod targed ar gyfer cwblhau | 56 diwrnod calendr. |
Gwneud cais ar-lein |
GOV.UK: Gwneud cais i redeg safle carafannau neu safle gwersylla (dolen gyswllt allanol) |
Cyswllt |
E-bost: healthandhousing@wrexham.gov.uk |
Apelio yn erbyn cais a wrthodwyd |
Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf. Os bydd cais deiliad trwydded i newid amod yn cael ei wrthod, gall apelio i’r llys ynadon lleol. Rhaid cyflwyno’r apêl cyn pen 28 diwrnod ar ôl derbyn cadarnhad ysgrifenedig am y gwrthodiad a rhaid cyflwyno hysbysiad apêl i’r cyngor dosbarth lleol. |
Apêl gan ddeiliaid y drwydded |
Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf. Os ydych yn ddeiliad trwydded sy’n dymuno apelio yn erbyn amod gafodd ei osod ar drwydded, gallwch apelio i’r llys ynadon lleol. Rhaid cyflwyno’r apêl cyn pen 28 diwrnod ar ôl rhoi’r drwydded. Gallwn newid amodau ar unrhyw adeg, ond mae’n rhaid i ni roi cyfle i ddeiliaid trwyddedau gyflwyno sylwadau am y newidiadau arfaethedig. Os ydych chi’n ddeiliad trwydded sy’n anghytuno â’r newidiadau, gallwch apelio i’r llys ynadon lleol. Rhaid cyflwyno’r apêl cyn pen 28 diwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad ysgrifenedig am y newid a rhaid cyflwyno hysbysiad am apêl i ni. |
Cwyn gan ddefnyddiwr | Hoffem eich cynghori, os bydd rhywun yn cwyno yna eich cyfrifoldeb chi yw cysylltu â’r masnachwr yn y lle cyntaf – yn ddelfrydol ar ffurf llythyr (gan brofi’r derbyn). Os na fydd hynny’n gweithio, os ydych yn y DU, gall Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i’r DU, gallwch gysylltu â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU. |
Safleoedd carafannau wedi’u trwyddedu ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam
Safleoedd cartrefi symudol (preswyl)
- Oakfield Caravan Park, Ffordd Gresffordd, Llai, Wrecsam, LL12 0NP
- Penyllan Farm Mobile Home Site, Penyllan Farm, Ffordd Wrecsam, Marchwiel, Wrecsam, LL13 0PF
Safleoedd carafannau gwyliau
- Rosedale Park, Higher Penley, Wrecsam
- James’ Caravan Park, Wynnstay Park, Rhiwabon
- Ddol Hir Caravan Park, Pandy, Glyn Ceiriog, Wrecsam
- Bank Farm Caravan Park, Toft Wood, Bangor Is-coed, Wrecsam
- The Plassey, Eutun, Wrecsam
- Trotting Mare Caravan Park, Knolton, Owrtyn, Wrecsam
- Emral Gardens Caravan Park, Holly Bush, Bangor Is-coed, Wrecsam
- Clays Caravan Park, Ffordd Bryn Estyn, Wrecsam
Nid yw’r rhestrau uchod yn cynnwys safleoedd y Clwb Carafannau (Caravan Club) na safleoedd Sipsiwn a Theithwyr gan eu bod wedi’u heithrio o dan y ddeddfwriaeth.
Safonau sy’n ddisgwyliedig ar gyfer amodau safleoedd cartrefi symudol
Beth yw’r ‘Safonau Enghreifftiol’?
Safonau Enghreifftiol 2008 ar gyfer Safleoedd Carafannau yng Nghymru yw’r amodau, 'sydd fel arfer yn ddisgwyliedig fel rhan o arfer da ar safleoedd.'
Mae’r safonau hyn yn gymwys i safleoedd sy’n cynnwys carafannau a ddefnyddir fel unedau preswyl parhaol yn unig.
Mae’r safonau mwyaf arwyddocaol yn ymwneud â’r canlynol:
- ymdrin â ffiniau parciau
- ei gwneud yn fwy eglur beth ddylai a beth na ddylai gael ei ganiatáu o fewn lle gwahanu chwe metr rhwng cartrefi
- caniatáu i un car gael ei barcio rhwng cartrefi
- ei gwneud yn ofynnol i ddarparu llain goncrid galed i bob cartref
- ymestyn gofynion draenio’r parc i gynnwys y llain
- sicrhau bod ardaloedd cyffredin y safle yn cael eu cynnal i safon da
- gosod y safonau gofynnol ar gyfer cyflenwi dŵr, trydan, draenio a glanweithdra
- ei gwneud yn glir mai dim ond pan fydd plant yn byw ar y parc y mae’n ofynnol i ddyrannu tir at ddefnydd hamdden
Amodau cartrefi symudol unigol
Asesir cyflwr cartrefi symudol unigol gan ddefnyddio’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS) yn unol ag Adran 268 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936, gan dalu sylw i’r Safon Brydeinig sy’n pennu sut dylai cartrefi preswyl gael eu hadeiladu: BS 3632:2005/2015 (fel sy’n gymwys) Manyleb Cartrefi ar Barciau Preswyl.