Oedolyn mewn perygl yw rhywun sydd yn 18 oed neu’n hŷn sydd:

  • Yn profi, neu mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod;
  • Ag anghenion gofal a chymorth (boed yr awdurdod yn diwallu’r anghenion hynny ai peidio) a 
  • Sydd, o ganlyniad i'r anghenion hynny, heb y gallu i’w h/amddiffyn ei hun yn erbyn y gamdriniaeth neu esgeulustod

Beth ydych chi’n ei olygu o ran cam-drin oedolion? 

Gall bobl gael eu cam-drin mewn llawer o wahanol ffyrdd: 

  • Corfforol – megis slapio neu daro
  • Emosiynol – megis rhoi braw, atal ymwelwyr, bygythiadau neu cael eu hanwybyddu’n fwriadol
  • Ariannol – megis dwyn arian rhywun neu ei wario ar bethau anghywir, rhoi pwysau ar rywun i wneud newidiadau i’w hewyllys neu wario eu harian yn groes i’w dymuniad.
  • Rhywiol – megis gorfodi rhywun i gyflawni gweithgarwch rhywiol digroeso neu eu cyffwrdd yn amhriodol
  • Esgeulustod – megis peidio â gofalu am rywun yn gywir, peidio â darparu digon o fwyd neu eu rhoi mewn perygl

Gall y camdriniwr fod yn unrhyw un, gan gynnwys rhywun sy’n cael eu hymddiried megis perthynas, ffrind, gweithiwr sy'n cael tâl neu wirfoddolwr.

Yn pryderu am oedolyn mewn perygl?

Os ydych chi’n credu bod yr unigolyn rydych chi’n pryderu amdano yn oedolyn mewn perygl, dilynwch y camau isod:

  1. Ydi’r unigolyn rydych chi’n pryderu amdano dros 18 oed?
    Ydi – os felly, ewch i Gwestiwn 2.
    Nac ydi – cysylltwch ag Un Pwynt Mynediad (Plant) ar SPOAchildren@wrexham.gov.uk  neu 01978 292039 yn ystod oriau swyddfa arferol. Os ydych chi’n credu bod y plentyn mewn perygl uniongyrchol, dylech ffonio’r heddlu ar 999.
  2. A oes gan yr unigolyn rydych chi’n pryderu amdano anghenion gofal a chymorth?
    Oes – ewch i Gwestiwn 3.
    Nac oes – gallwch gysylltu â’r Un Pwynt Mynediad (Oedolion) ar 01978 292066 neu AdultsSPOA@wrexham.gov.uk
  3. Ydi’r unigolyn ag anghenion gofal a chymorth yn gallu diogelu eu hunain rhag camdriniaeth ac esgeulustod?
    Ydi – gallwch gysylltu â’r Un Pwynt Mynediad (Oedolion) ar 01978 292066 neu AdultsSPOA@wrexham.gov.uk
    Nac ydi – ewch i wneud adroddiad oedolyn mewn perygl ar-lein isod

Defnyddiwch yr adran hon os ydych chi wedi rhoi ateb cadarnhaol i’r holl gwestiynau uchod yn unig.

Gwneud adroddiad oedolyn mewn perygl

Dechreuwch rŵan

 

Efallai eich bod wedi gwneud adroddiad ynghylch rhywun yr ydych yn amau sy'n oedolyn mewn perygl, neu wedi rhoi gwybod oherwydd bod rhywbeth wedi digwydd i chi a allai gael ei ystyried yn gamdriniaeth neu esgeulustod.

Mae gan ein Tîm Diogelu Oedolion ddyletswydd i ystyried pob adroddiad a ddaw i law, a lle bo’n briodol, mynd i’r afael â’r sefyllfa dan y Polisi Diogelu Oedolion.

Cwynion Diogelu Oedolion

Bydd unrhyw gwynion a ddaw i law sy’n cynnwys atgyfeiriad Diogelu Oedolyn, yn cael eu hystyried  ân y Weithdrefn Diogelu Oedolion ac nid y Weithdrefn Gwyno Gwasanaethau Cymdeithasol.  Os yw hyn yn digwydd, cewch wybod gan ein Adran Gofal Cymdeithasol a chewch wybodaeth ar beth mae’r broses yn ei gynnwys.