Beth yw’r Cynllun ‘Lleoedd Diogel’?

Mae’r cynllun Lleoedd Diogel yn darparu sicrwydd i bobl sy’n teimlo’n ddiamddiffyn os ydynt yn mynd allan, gan eu cynorthwyo i fyw bywydau mwy annibynnol.

Mae gwybod bod Lleoedd Diogel yn eu cymunedau sy’n cynnig cymorth os oes angen, yn cynorthwyo pobl i deimlo’n ddiogel ac yn fwy hyderus wrth fynd allan i’w cymunedau.  

Sut mae’r cynllun yn gweithio

Logo cynllun Lleoedd Diogel

Mae siopau, busnesau a sefydliadau lleol yn cofrestru i fod yn ‘Le Diogel’. Bydd sticer yn cael ei osod ar ffenestr neu ddrws Lle Diogel, sy’n nodi bod cymorth ar gael yno.

Os ydych chi’n unigolyn sy’n teimlo’n ddiamddiffyn pan ydych yn mynd allan, gallwch gofrestru ar gyfer y cynllun a chael cerdyn Lleoedd Diogel i gario gyda chi. Bydd y cerdyn yn dangos manylion cyswllt rhywun yr ydych yn ymddiried ynddynt, fel y gall aelod o staff yn y Lle Diogel eu ffonio nhw os ydych angen cymorth.

Yn ogystal â ffonio’r unigolyn cyswllt ar eich cerdyn Lleoedd Diogel, gall aelodau o staff mewn Lle Diogel:

  • ddod o hyd i rywle diogel i chi aros a’ch cysuro chi tan i’r sefyllfa gael ei ddatrys
  • galw’r heddlu neu ambiwlans os yw’n argyfwng 

Gwneud cais am gerdyn Lleoedd Diogel

Os ydych yn dymuno defnyddio cynllun Lleoedd Diogel, gallwch lenwi ffurflen gais. Byddwch angen darparu manylion personol, ynghyd ag enwau a rhifau ffôn hyd at dri unigolyn yr ydych yn ymddiried ynddynt (dyma’r unigolion y gellir eu ffonio os ydych angen cymorth – gall fod yn aelod o’r teulu, gofalwr neu ffrind).

Unwaith i chi anfon eich cais, bydd ein tîm Lleoedd Diogel Wrecsam yn egluro sut i ddefnyddio’r cynllun. Byddwch yn derbyn rhestr o Leoedd Diogel yn Wrecsam a’ch cerdyn Lleoedd Diogel gyda’ch rhifau cyswllt arno, er mwyn ei gario wrth fynd allan.

Ymgeisiwch rŵan

Lle allaf ddod o hyd i Le Diogel yn Wrecsam?

Gallwch ddod o hyd i restr o Leoedd Diogel ar dudalen Wrecsam ar wefan Lleoedd Diogel.

Mae holl lyfrgelloedd yn Wrecsam hefyd yn Lleoedd Diogel - gallwch ddod o hyd i’r cyfeiriad, oriau agor a manylion cyswllt ar gyfer holl lyfrgelloedd Wrecsam ar y ddolen ‘eich llyfrgell leol’ isod.

Os byddwch yn lawrlwytho’r ap Lleoedd Diogel ar eich ffôn, bydd yn dangos y Lleoedd Diogel agosaf (o fewn 15 munud o gerdded) sydd ar agor pan ydych eu hangen nhw.

Ap ffôn Lleoedd Diogel

Gallwch lawrlwytho’r ap ffôn Lleoedd Diogel am ddim ar Apple app store ac ar Google Play.

Cysylltu â’r Tîm Lleoedd Diogel Wrecsam

Gwneud eich siop, busnes neu sefydliad lleol yn Le Diogel

Os oes gennych siop, busnes neu sefydliad yn Wrecsam, gallwch gynorthwyo drwy gofrestru eich eiddo fel Lle Diogel. 

I gofrestru, llenwch y ffurflen gais ar-lein ar wefan Rhwydwaith Genedlaethol Lleoedd Diogel.

Unwaith i chi gofrestru eich eiddo, bydd eich staff yn derbyn hyfforddiant syml, am ddim er mwyn gwybod beth i’w wneud os oes rhywun angen defnyddio’r cynllun. Mae tîm Lleoedd Diogel Wrecsam yn darparu’r hyfforddiant, a byddent yn cysylltu â chi i drefnu hyn.

Dolenni perthnasol