Mae'r cyfnod gwrthwynebu bellach ar gau. 

Roedd y cyfnod gwrthwynebu ar agor rhwng 16 Gorffennaf, 2025 tan 20 Medi, 2025. 

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i'r gymuned leol ac ehangach ddysgu am y cynigion i sefydlu darpariaeth arbenigol newydd o'r enw 'Copa' ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae Cyngor Wrecsam yn ceisio barn partïon â diddordeb ynglŷn â'r cynnig.   

Mae'r ddogfen ymgynghori yn nodi'r wybodaeth y bydd angen i ymgyngoreion ei hystyried i gymryd rhan lawn yn y broses ymgynghori. Mae'r broses hon yn dilyn canllawiau rheoleiddiol fel y nodir yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion 2018.

Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ar 24 Mawrth 2025 a daeth i ben ar 11 Mai, 2025.

Yr ymgynghoriad

Mae'r cyngor yn ceisio barn pawb sydd â diddordeb posib yn y cynnig.  Mae'n bwysig bod yr holl safbwyntiau yn cael eu hystyried cyn gwneud penderfyniad.

Mae croeso i chi ofyn unrhyw gwestiynau, a rhannu eich barn â ni, drwy e-bostio copaconsultation@wrecsam.gov.uk.

Cwestiynau Cyffredin

Pam mae'r enw 'Copa' wedi'i ddewis?

Copa yw pwynt uchaf bryn neu fynydd. Y bwriad ag enw'r ysgol yw bod yn uchelgeisiol. Fodd bynnag, rydym wedi cydnabod o adborth yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus nad yw'r enw a'r ystyr y tu ôl iddo yn hawdd eu deall. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, bydd y Cyngor yn gweithio gyda Senedd yr Ifanc, sy'n cynnwys gwirfoddolwyr rhwng 11 a 25 oed sydd â chysylltiad â Wrecsam, i'n cynorthwyo i ddewis enw newydd i'r ysgol.

Pam mae'r safle presennol wedi'i ddewis?

Ym mis Mawrth 2025, cytunodd Bwrdd Gweithredol y Cyngor y gellid trosglwyddo'r Ganolfan Gyfleoedd yn Ffordd Hampden ym Mhlas Madoc i'r Adran Addysg at ddibenion addysgol er mwyn cwrdd â'r galw cynyddol am leoedd ysgol arbenigol yn Wrecsam.

A fydd unrhyw fan awyr agored i'r disgyblion ei ddefnyddio?

Bydd gan ddisgyblion fynediad i fan awyr agored gyda chyfleoedd i weithio ar y cyd â sefydliadau partner e.e. Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW). Bydd y man awyr agored yn cael ei wella fel rhan o waith adnewyddu'r adeilad. 

A fydd staff arbenigol yn gweithio ar y safle?

Bydd tîm o staff arbenigol yn cael ei arwain gan Bennaeth arbenigol iawn gydag angerdd am gynhwysiant ac ymrwymiad i weithio ar y cyd ag asiantaethau eraill i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi mewn ffordd gyfannol. Ar ôl cael ei recriwtio, bydd y Pennaeth yn cael ei gefnogi gan Adran Addysg y Cyngor i benodi tîm o staff arbenigol iawn sy’n hollol gymwys yn y maes, ac sydd â phrofiad o gefnogi disgyblion â niwroamrywiaeth gymhleth ac awtistiaeth fel eu prif faes cymorth. Yn ogystal, bydd y Pennaeth yn cael ei gefnogi i sefydlu Corff Llywodraethu blaengar ac ymroddedig a fydd yn hyrwyddo arferion cynhwysol. 

A fydd gan yr ysgol a'r tîm Achrediad Awtistig Cenedlaethol?

Bydd yr ysgol yn cael ei chefnogi gan yr Adran Addysg i ddod yn ganolfan ragoriaeth sy'n gweithio tuag at achrediad GMC. 

A fydd amseroedd gollwng/casglu'r ysgol yn wahanol i rai Ysgol Gynradd Rhosymedre?

Bydd yr amseroedd gollwng a chasglu ar adegau gwahanol er mwyn lleddfu unrhyw dagfeydd trafnidiaeth/parcio posibl yn yr ardal. Bydd y Cyngor yn gweithio gydag Ysgol Gynradd Rhosymedre a sefydliadau partner fel rhan o'r Arolwg Trafnidiaeth sy'n cael ei gynnal.

Ble fydd aelodau staff/ymwelwyr yn parcio?

Bydd y Cyngor yn cynnal Arolwg Trafnidiaeth gyda mewnbwn gan arbenigwyr allweddol a rhanddeiliaid yr effeithir arnynt i liniaru unrhyw dagfeydd traffig neu broblemau parcio posibl. Bydd parcio i staff ac ymwelwyr yn cael ei ystyried fel rhan o'r arolwg hwn.

A fydd plant o ardal Plas Madoc yn mynd yno?

Bydd disgyblion sy'n byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yn gallu mynychu, yn dibynnu ar eu hanghenion. Gallai hyn gynnwys plant o ardal Plas Madoc. Bydd trefniadau derbyn yn cael eu gwneud trwy Banel Anghenion Dysgu Ychwanegol yr Awdurdod Lleol a bydd lleoliadau'n cael eu pennu yn ôl anghenion disgyblion. 

A fydd angen diagnosis o niwrowahaniaeth ar blentyn?

Bydd plant yn cael eu lleoli yn y ddarpariaeth ar sail anghenion unigol, fel yr amlinellir yn eu Cynllun Datblygu Unigol (CDU).

A fydd disgybl angen Cynllun Datblygu Unigol (CDU) i fynychu?

Bydd. 

A fydd y ddarpariaeth hon ar gyfer trigolion Sir Wrecsam yn unig? Neu a fydd y ddarpariaeth yn derbyn disgyblion o siroedd eraill?

Bydd y ddarpariaeth hon ar gyfer dysgwyr sy'n byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yn unig.

Beth yw uchafswm maint y dosbarthiadau?

Uchafswm maint y dosbarthiadau fydd 6 disgybl. Bydd y ddarpariaeth yn darparu ar gyfer hyd at 18 o ddisgyblion gan gynnig rhaglen gymorth unigol.

Pa gynlluniau pontio sydd ar waith ar gyfer y disgyblion sy'n gadael COPA?

Bydd pontio o Gyfnod Allweddol 4 i ddarpariaeth ôl-16 briodol yn dibynnu ar ddyheadau ac anghenion dysgwr. Gallai hyn gynnwys cyrsiau yn y coleg / interniaethau â chymorth / prentisiaethau / cyflogaeth. Bydd pontio yn cael ei gynllunio'n ofalus gyda mecanweithiau cymorth priodol ar waith i helpu disgyblion i symud ymlaen i'r cam nesaf yn eu taith ddysgu ar ôl Copa.

A fydd yr ysgol yn cynnig gwersi llythrennedd a rhifedd ychwanegol fel rhan o'r amserlen?

Darperir cymorth ychwanegol mewn llythrennedd a rhifedd yn ôl yr angen, yn dibynnu ar anghenion dysgwyr. 

A fydd ystafelloedd i bynciau penodol? (e.e. gwyddoniaeth, coginio ac ati)

Bydd y Cyngor yn cydweithio â'n hysgolion uwchradd, Coleg Cambria a'r sector gwirfoddol i ddatblygu darpariaeth a chynnig cwricwlwm pwrpasol.

Sut olwg fydd ar y cynnig o ran y cwricwlwm? A yw'r ysgol hon wedi'i thargedu at ddisgyblion sydd ag oedi o ran dysgu neu'n abl yn academaidd neu'r ddau?

Mae gennym ddyheadau uchel ar gyfer dysgwyr a byddwn yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol a'r rhai sydd â niwroamrywiaeth i ddylunio'r cwricwlwm a'r amgylchedd dysgu. Bydd yr ysgol yn cefnogi dysgwyr nad ydynt yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth brif ffrwd oherwydd bod angen amgylchedd ysgogiad isel, cyffro isel a man dysgu a fydd yn galluogi'r disgyblion i gael mynediad at addysgu a dysgu arbenigol a chyflawni eu potensial. 

A fydd gan yr ysgol glinigwyr ar y safle fel Therapyddion Iaith a Lleferydd, Therapi Galwedigaethol, Seicolegydd Addysg, Therapyddion ac ati?

Bydd Tîm ADY a Chynhwysiant y Cyngor a'r ysgol yn cydweithio â gweithwyr iechyd proffesiynol perthnasol a Thîm Seicoleg Addysgol y Cyngor, yn seiliedig ar anghenion unigol y dysgwyr yn yr ysgol. 

A fydd hyn yn lleihau’r arian sydd gan ysgolion prif ffrwd? Pwy sy'n ariannu'r gost ychwanegol? Sut fydd y ddarpariaeth newydd yn cael ei hariannu?

Ni fydd arian yn cael ei ddargyfeirio o ysgolion prif ffrwd. Bydd arian ar gyfer y ddarpariaeth newydd yn aros o fewn y Fwrdeistref Sirol sy'n golygu gwell defnydd o adnoddau. Bydd dysgwyr yn cael eu haddysg o fewn y sir heb fod angen eu cludo allan o'r sir ar gost sylweddol i'r awdurdod. 

A fydd yr ysgol newydd yn destun toriadau yn y gyllideb fel pob ysgol ALl yn Wrecsam?

Bydd y gyllideb yn yr ysgol newydd yn cael ei monitro'n ofalus yn yr un modd ag y mae cyllidebau pob ysgol yn cael eu monitro.

A oes mwy o brosiectau ADY ar y gweill?

Mae'r Awdurdod Lleol yn gweld cynnydd yn y galw am leoliadau ysgol ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ac mae mwy o brosiectau ADY wedi'u cynllunio. 

A fydd nifer y disgyblion sy'n gallu mynychu yn cynyddu yn y dyfodol?

Pe bai angen mwy o leoedd i ddisgyblion, byddai angen i'r Awdurdod Lleol edrych ar ddarpariaeth amgen mewn mannau eraill yn y sir.

Faint o ysgolion arbennig/unedau darpariaeth adnoddau sydd gennym yn Wrecsam?

Ar hyn o bryd, mae 1 ysgol arbennig yn Wrecsam, 24 o ddarpariaethau adnoddau cynradd a 14 o ddarpariaethau adnoddau uwchradd.  

Beth yw’r broses ymgynghori? Sut mae'n gweithio?

Mae'r broses ymgynghori yn cael ei hegluro'n fanwl yn Adran 3 o God Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru.

A fydd dysgwyr yn gallu cael mynediad at y Gymraeg yn yr ysgol newydd?

Mae'r ALl wedi nodi'r angen am ddarpariaeth lle gellir diwallu anghenion amgylcheddol a synhwyraidd disgyblion mewn amgylchedd dysgu cynhwysol yn eu sir eu hunain. Byddai arferion cynhwysol wrth wraidd y ddarpariaeth newydd hon, beth bynnag yw iaith gyntaf y plentyn. I ddysgwyr Cymraeg byddai hyn yn cynnwys hyrwyddo ymdeimlad o fod yn ddinesydd Cymreig ac yn aelod o'u cymuned. Ni fydd dysgwyr sy'n mynychu'r ddarpariaeth newydd bellach yn teithio pellteroedd dros y ffin i dderbyn eu haddysg yn Lloegr. Bydd gan ddysgwyr fynediad at staff sy'n siarad Cymraeg a byddant yn gallu clywed, siarad ac ysgrifennu'r Gymraeg, gan sicrhau bod trochi ieithyddol yn cael ei hyrwyddo'n llawn ac yn gwbl hygyrch. Yn ogystal, bydd adnoddau Cymraeg ar gael yn rhwydd (e.e. delweddau, asesiadau sillafu).