Hysbysiad o benderfyniad

Yn dilyn cyfarfod Bwrdd Gweithredol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ddydd Mawrth 8 Gorffennaf 2025 a chwblhau'r cyfnod galw i mewn ar 22 Gorffennaf, gallwn gadarnhau bod yr ymgynghoriad i newid Ysgol Cae’r Gwenyn o ysgol feithrin brif ffrwd i ysgol gynradd arbennig ar gyfer disgyblion 3-7 oed wedi'i gymeradwyo.  Bydd y newid yn dod i rym o 1 Medi 2025. 

Mae'r cyfnod gwrthwynebu ar gyfer yr ymgynghoriad hwn bellach ar gau

Ymgynghoriad i newid statws Ysgol Cae’r Gwenyn o ysgol feithrin prif ffrwd i ysgol gynradd arbennig a newid yr ystod oedran o 3-4 i 3-7 gan ddod i rym o fis Medi 2025 ymlaen.

Mae’r Ymgynghoriad hwn yn gyfle i’r gymuned leol a’r gymuned yn ehangach i ddysgu am y cynnig i ysgol gynradd arbennig a newid yr ystod oedran o 3-4 i 3-7 gan ddod i rym o fis Medi 2025 ymlaen.

Mae Cyngor Wrecsam yn dymuno ceisio safbwyntiau’r partïon â diddordeb mewn perthynas â'r cynnig.

Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn nodi gwybodaeth y bydd angen i ymgyngoreion ei hystyried i gymryd rhan iawn yn y broses ymgynghori. Mae'r broses yn dilyn canllawiau rheoleiddio fel y nodir yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion 2018.

Yr ymgynghoriad

Mae’r cyngor yn dymuno derbyn barn yr holl rai sy’n debygol o fod â chysylltiad â’r cynnig.  Mae'n bwysig y gellir rhoi ystyriaeth i bob safbwynt cyn i benderfyniad gael ei wneud.

Mae croeso i chi ofyn unrhyw gwestiwn a rhoi gwybod i ni beth yw’ch barn drwy e-bostio YsgolCaerGwenynConsultation@wrexham.gov.uk.

Cwestiynau Cyffredin

A yw Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg wedi ei gynnal?

Do, mae copi o’r Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg ar ein tudalen we ymgynghoriad ac ar y dudalen we Eich Llais. Mae copïau caled ar gael ar gais. 

Beth fydd yn digwydd pan fydd plant yn gadael Cae'r Gwenyn? Pryder am ddiffyg lleoedd ADY a phlant yn cael eu rhoi yn y brif ffrwd

Mae proses banel yn Wrecsam sy'n pennu'r lleoliad mwyaf priodol ar gyfer pob plentyn. Eglurir hyn ymhellach ar dudalen 8 yn y ddogfen ymgynghori o dan y pennawd 'Panel Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar.' 

A yw'r newid wedi'i amlygu yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA). Os na, pam?

Nid yw'r newid wedi'i amlygu eto yn y CSCA gan fod y CSCA wedi'i gyhoeddi yn 2022, cyn yr ymgynghoriad hwn. Mae'r cynnig yn amodol ar ymgynghoriad cyhoeddus statudol ac yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd Gweithredol y Cyngor. Bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ym mis Gorffennaf 2025. Os bydd y cynnig yn cael ei weithredu, bydd yn cael ei gynnwys yn ein hadroddiad cynnydd blynyddol ar y CSCA i Lywodraeth Cymru, sydd hefyd yn cael ei rannu gyda Chynghorwyr.