Mae Cyngor Wrecsam yn ceisio barn partïon â diddordeb ynglŷn â'r cynnig.  

Dyma’ch cyfle i ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau y bydd Bwrdd Gweithredol y Cyngor yn eu hystyried wrth benderfynu sut i fwrw ymlaen.

Mae'r ddogfen ymgynghori yr atodiad yn nodi'r wybodaeth y bydd angen i ymgyngoreion ei hystyried i gymryd rhan lawn yn y broses ymgynghori. Mae'r broses hon yn dilyn canllawiau rheoleiddiol fel y nodir yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion 2018.

Bydd y cyfnod ymgynghori ffurfiol yn dechrau ddydd Mawrth 23 Medi 2025 a bydd yn dod i ben ddydd Gwener 7 Tachwedd 2025.

Ar ôl ymgynghori ar y newid arfaethedig, bydd y Cyngor yn ystyried a ddylid gweithredu'r cynnig.

Yr ymgynghoriad

Mae'r cyngor yn ceisio barn pawb sydd â diddordeb posib yn y cynnig.  

Mae'n bwysig bod yr holl safbwyntiau yn cael eu hystyried cyn gwneud penderfyniad.

Mae croeso i chi ofyn unrhyw gwestiynau, a rhannu eich barn â ni, drwy e-bostio deevalleyconsultation@wrexham.gov.uk.

Cwestiynau Cyffredin

Sut mae ysgolion Wrecsam yn cael eu hariannu?

Mae Ysgolion Wrecsam yn cael eu cyllid wedi’i ddyrannu’n flynyddol trwy fformiwla dyrannu adnoddau cymeradwy. Mae'r rhan fwyaf o'r fformiwla yn ymwneud â nifer y disgyblion ar y gofrestr ym mhob ysgol. Yn ogystal â'r rhan "sy'n cael ei yrru gan ddisgyblion" o'r fformiwla, mae'r fformiwla hefyd yn cynnwys dyraniadau ychwanegol sy'n gysylltiedig â dyraniadau sylfaenol, ffactorau o ran adeiladau fel arwynebedd y llawr a hefyd ffactorau o ran diogelu ysgolion bach. Mae UBOD (uned a bwysolwyd ar sail oedran y disgybl) yn elfen o gyllid ysgol sy'n darparu swm sylfaenol o arian fesul disgybl, gyda'r gyfradd benodol yn amrywio yn seiliedig ar oedran y disgybl. Dyma'r cyllid craidd a dderbynnir gan ysgolion ar gyfer pob myfyriwr ar eu cofrestr. 

Pam mae'r cyfrifiadau ariannol yn wahanol yn yr Atodiad i'r ddogfen ymgynghori o'i gymharu â'r ddogfen ymgynghori ei hun?

Mae'r cyfrifiadau ariannol yn seiliedig ar Gynllun Cyllideb cymeradwy Ffederasiwn Ysgolion Dyfrdwy ar gyfer 2025/26, sy'n defnyddio niferoedd disgyblion o ddata Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) Ionawr 2025. Fodd bynnag, mae cyfrifiad CYBLD Medi 2025 yn dangos gostyngiad yn nifer y disgyblion yn Ysgol Froncysyllte o 11 disgybl ar y gofrestr (data CYBLD Ionawr) i 4 disgybl ar y gofrestr (Medi 2022). Mae'r effaith sy'n deillio o hynny wedi'i chynnwys fel nodyn esboniadol yn yr Atodiad i'r ddogfen ymgynghori. 

Pam mae'r data disgyblion a ragwelir yn wahanol i'r niferoedd gwirioneddol ar y gofrestr yn Ysgol Gynradd Gymunedol Froncysyllte ac Ysgol Gynradd Gymunedol y Garth?

Pan ysgrifennwyd y ddogfen ymgynghori, roedd y rhagamcanion yn dangos y byddai 6 disgybl yn Froncysyllte ym mlwyddyn academaidd 2025-26, 39 o ddisgyblion yn Pentre ym mlwyddyn academaidd 2025-26 a 49 o ddisgyblion yn y Garth ym mlwyddyn academaidd 2025-26. Fodd bynnag, ym mis Medi 2025, pan ddechreuodd y flwyddyn academaidd newydd, roedd llai o ddisgyblion ar y gofrestr na’r hyn a ragwelwyd yn Froncysyllte (4 disgybl) a mwy o ddisgyblion ar y gofrestr na'r hyn a ragwelwyd yn y Garth (57 disgybl). Roedd yr un nifer o ddisgyblion ar y gofrestr a ragwelwyd ar gyfer Pentre (39 disgybl).

Sut mae rhagamcanion niferoedd disgyblion yn cael eu cyfrifo?

Mae rhagamcanion niferoedd disgyblion yn seiliedig ar wybodaeth a gedwir gan ddata ystadegol Systemau Gwybodaeth Reoli (SGR) ar adeg ysgrifennu'r adroddiad ymgynghori. Mae'r rhagamcanion niferoedd disgyblion a gynhwysir yn y ddogfen ymgynghori statudol yn seiliedig ar ddata o Gyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) Ionawr 2025. NID yw rhagamcanion yn niferoedd disgyblion gwirioneddol a fydd ar y gofrestr yn ystod y blynyddoedd academaidd penodedig.  Mae niferoedd gwirioneddol ar y gofrestr yn cael eu diweddaru bob blwyddyn ar ôl casglu data CYBLD ym mis Ionawr.

Pryd fydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud?

Rydym yn gobeithio dod i benderfyniad terfynol erbyn Gorffennaf 2026 fan bellaf.