Y lleoliad gofal plant/atgyweiriwr sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr holl wybodaeth sy’n ymwneud ag incwm a budd-daliadau’r teulu ar y ffurflen atgyfeirio yn gywir (ceisiadau am gyllid lleoliadau gofal plant wedi’u hariannu yn unig).

Dylai’r atgyweiriwr weld tystiolaeth berthnasol cyn i'r ffurflen atgyfeirio gael ei chwblhau. Gallai methu â sicrhau bod y wybodaeth yn gywir effeithio ar benderfyniadau’r panel yn y dyfodol o ran y lleoliad/atgyweiriwr hwn.

Dylai ceisiadau newydd gael eu derbyn a’u cadarnhau fel rhai y cytunwyd arnynt gan y Panel Seibiant Anabledd a Gofal Plant, a hynny’n ysgrifenedig, cyn i gynnig yn ymwneud â chyflogaeth/oriau ychwanegol gael ei gadarnhau.

Canllawiau ymgeisio

  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n bodloni’r holl feini prawf cyn ymgeisio
  • Rhaid i gais ar wahân gael ei gwblhau ar gyfer pob plentyn, gan gynnwys brodyr a chwiorydd 
  • Mae ceisiadau’n para am uchafswm o 13 wythnos neu un tymor a bydd angen gwneud cais newydd am gyllid pellach er mwyn cadarnhau eich bod yn dal i fod yn gymwys
  •  Bydd angen tystiolaeth i gefnogi cais newydd (gwelwch y canllawiau pellach isod) 
  • Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd ceisiadau am Ddwylo Ychwanegol yn cael eu hawdurdodi os oes sesiynau eisoes wedi’u cynnal 
  • Rhaid rhoi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau ar unwaith i weinyddwr y panel 
  • Cofiwch gael yr holl lofnodion angenrheidiol a chynnwys yr holl ddeunydd y gofynnwyd amdano neu gadarnhau eich bod wedi gweld tystiolaeth
  • Sicrhewch eich bod yn ymdrin â cheisiadau unrhyw gyllidwr am ragor o wybodaeth yn gyflym, a rhowch wybod i'r cyllidwr am unrhyw newidiadau perthnasol sy'n digwydd 
  • Nodwch fanylion unigolyn cyswllt (rhif ffôn symudol a chyfeiriad e-bost)
  • Cyflwynwch y cais o leiaf dair wythnos cyn y dyddiad cychwyn arfaethedig (ni fydd modd sicrhau’r dyddiad cychwyn y gofynnwyd amdano os nad yw’r ceisiadau’n cyrraedd erbyn y dyddiad hwn) 

Yn ogystal â dilyn y canllawiau uchod, os ydych yn ymgeisio yn defnyddio ffurflen gais bapur yn hytrach na'r ffurflen ar-lein, bydd angen i chi...

  • Gofio rhoi cyfeiriad e-bost gan y byddwn yn anfon e-bost i gadarnhau fod cais wedi ei gymeradwyo
  • Gwneud llungopi o'ch cais wedi’i gwblhau cyn ei anfon os ydych yn ei lenwi â llaw, i gyfeirio ato os bydd angen i ni gysylltu â chi
  • Bod yn ymwybodol na fydd ceisiadau anghyflawn neu annarllenadwy’n cael eu hystyried 

Canllawiau pellach

Wrth ymgeisio, mae angen darparu prawf o gyflogaeth:  

  • Bydd yn rhaid i ymgeiswyr tro cyntaf ddarparu tri mis o slipiau cyflog ar gyfer y ddau riant neu ohebiaeth gan y cyflogwr yn nodi’r oriau gwaith
  • Bydd unigolion sydd wedi cyflwyno ceisiadau o’r blaen ond yn gorfod darparu mis o slipiau cyflog ar gyfer y ddau riant
  • Bydd yn rhaid i unigolion hunangyflogedig ddarparu eu ffurflen dreth hunanasesiad neu, os ydyn nhw newydd fynd yn hunangyflogedig, eu Cyfeirnod Treth Unigryw 

Byddwn yn derbyn ffotograffau o’r dystiolaeth a restrir uchod dros e-bost. Ni fyddwn yn cadw’r wybodaeth ar ôl ei chadarnhau.

Cyfnod eithriad ar gyfer rhieni sy’n gweithio

Mae cyfnod o eithriad dros dro ar gael i leoliad sy’n cefnogi teuluoedd i weithio os yw eu sefyllfa gyflogaeth wedi newid. Fe all hyn fod oherwydd lleihad mewn oriau gwaith neu ddiswyddiad. Bydd y cyfnod eithriad yn para wyth wythnos o ddyddiad y newid mewn cyflogaeth a bydd y cyllid yn parhau yn ystod y cyfnod hwn. Mae’n rhaid rhoi gwybod i’r panel cyn gynted â phosibl er mwyn gweithredu’r cyfnod eithrio.

Egluro beth sy’n bwysig i’r plentyn a'u teulu a sut y gall y gefnogaeth helpu

Wrth lenwi'r ffurflen gais bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth berthnasol yn ymwneud â’r unigolyn y bydd yr atgyfeiriad yn cael ei gwblhau ar ei gyfer. Gallwch ddefnyddio'r awgrymiadau canlynol i'ch helpu i amlinellu'r prif resymau pam y gofynnir am yr atgyfeiriad.

Pawb

Iechyd (corfforol) 

Iechyd corfforol yn cynnwys salwch, gordewdra, iechyd deintyddol, imiwneiddio, glanweithdra, deiet, iechyd rhywiol, defnydd o gyffuriau/alcohol, ffyrdd iach o fyw, cwsg, ymarfer corff, gofal meddygol a deintyddol priodol.

Iechyd (meddwl/emosiynol) 

Iechyd meddwl/emosiynol yn cynnwys iselder, hunan-niwed, salwch meddwl, hunan-barch, effaith galar, Anhwylder Straen wedi Trawma, ymateb i straen, ffyrdd o ymdopi, effaith ar berthnasoedd.

Perthnasoedd 

Ansawdd perthnasoedd gydag aelodau’r teulu, brodyr a chwiorydd, cyfoedion, cymdogion, oedolion eraill, rhai sydd ag awdurdod, patrymau cyfeillgarwch, trais domestig, perthnasoedd cyfrwys neu gamdriniol, ymlyniad, bwlio, empathi, cynhesrwydd, cysondeb, cefnogol, dibyniaeth/annibyniaeth, cynnal cyswllt gyda pherthnasau pwysig neu bobl arwyddocaol eraill, sicrhau bod gan y plentyn neu berson ifanc berthnasoedd annwyl, diogel a sefydlog, perthynas plant â phobl eraill yn eu cymuned.

Anabledd neu anghenion dysgu 

Corfforol neu ymddygiadol/datblygol, graddau’r anabledd, effaith anabledd ar y plentyn neu berson ifanc/aelodau eraill y teulu, effaith ar addysg neu waith. I oedolyn, i gynnwys anableddau llai neu anableddau mwy sylweddol a ffobiâu/dibyniaeth, anghenion dysgu a'u heffaith.

Cyfrifoldebau gofalu

Cyfrifoldebau gan blant dros blant eraill, rhieni, aelodau eraill o'r teulu, ffrindiau, effaith cyfrifoldebau gofalu ar addysg/hyfforddiant/gwaith, ar annibyniaeth, hamdden, chwarae a gweithgareddau cymdeithasol.

Cymunedol 

Argaeledd, hygyrchedd a safon cyfleusterau (canolfannau iechyd, gofal dydd, hamdden, cludiant, addoli), arwahanrwydd cymdeithasol, gwahaniaethu, graddau ymddygiad gwrthgymdeithasol neu drosedd, perthnasoedd gyda chymdogion, cefnogaeth ar gyfer y teulu a gan y gymuned.

Plentyn/person ifanc

Datblygiad

Datblygiad corfforol, cymdeithasol ac emosiynol yn cynnwys twf, sgiliau iaith, sgiliau hunan ofal, rheoli emosiynau, perthnasoedd, hunan ddelwedd, a theimlad o berthyn, cyflwyniad cymdeithasol, priodoldeb oedran o ran ymddygiad/dillad/cyfrifoldebau.

Addysg/dysgu 

Dealltwriaeth, rhesymu a datrys problemau, canolbwyntio, sicrhau presenoldeb yn yr ysgol, cynnydd yn yr ysgol/coleg, anghenion addysgol arbennig, cymryd rhan mewn dysgu, agwedd tuag at addysg, profiad y plentyn neu berson ifanc o waith.

Ymddygiad 

Tymer, hunanreolaeth, priodoldeb ymddygiad mewn gwahanol sefyllfaoedd, modelau rôl positif, anghenion ychwanegol yn effeithio ar ymddygiad, ymddygiad gwrthgymdeithasol, ymateb i ddicter, rhwystredigaeth, tristwch.

Rhiant/gofalwr

Rhianta 

Darparu ar gyfer anghenion corfforol y plentyn neu berson ifanc (bwyd, diod, cynhesrwydd a llety), sicrhau bod ganddynt ddillad addas a glanweithdra personol boddhaol, sicrhau bod y plentyn neu’r person ifanc yn cael eu diogelu’n ddigonol rhag niwed, cyswllt gydag oedolion a phlant anniogel, ymateb i ac annog addysg y plentyn neu’r person ifanc, ymuno â chwarae, hybu cyfleoedd dysgu, annog a dangos ymddygiad priodol, osgoi bod yn oramddiffynnol, gosod ffiniau priodol, disgyblaeth effeithiol a siapio ymddygiad, canmol a chefnogi, dangos sensitifrwydd ac ymateb priodol i anghenion plentyn neu berson ifanc, cysondeb o gynhesrwydd emosiynol dros gyfnod o amser ac ymateb yn yr un modd i’r un ymddygiad, trefniadau gofal plant.

Incwm 

Digon o incwm neu fudd-daliadau, defnyddio’r adnoddau sydd ar gael i’r teulu, y gallu i gyllidebu, effeithiau o galedi, dyledion.

Hyfforddiant a chyflogaeth 

Cymwysterau, hyfforddiant a wnaed, patrymau cyflogaeth a gwaith, agwedd y teulu tuag at waith neu absenoldeb o’r gwaith, rhwystrau rhag hyfforddi neu weithio, trefniadau gofal plant, trefnu, sgiliau sylfaenol a sgiliau eraill, hyder, y gallu i ymdopi’n dda mewn amgylchedd gwaith.

Tai

Addasrwydd trefniadau byw (maint, gwres, dŵr, glanweithdra, cyfleusterau coginio), amodau cartref (glanweithdra, cyflwr, hylendid a diogelwch), digartrefedd, peryglon tu mewn a thu allan i’r cartref, anifeiliaid anwes.

Sut i ymgeisio 

Gallwch ymgeisio trwy ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein. Cyn cychwyn ar gais, bydd angen i chi greu proffil ‘FyNghyfrif’ (os nad ydych chi wedi’n barod).

Byddwch yn gallu gweld copi o’r cais rydych wedi’i gyflwyno ar FyNghyfrif, pan fyddwch wedi mewngofnodi, o dan yr adran ‘Fy Ngheisiadau’ (fersiwn darllen yn unig fydd y cais – nid oes opsiwn i addasu eich cais ar ôl ei gyflwyno). Byddwch hefyd yn gallu gweld pob cais sydd wedi’i gwblhau drwy borth FyNghyfrif.

Gwneud cais am atgyfeiriad ar gyfer lleoliadau gofal plant

 

Gwneud cais am atgyfeiriad ar gyfer lleoliadau gofal seibiant

 

Os oes angen, gallwch wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen bapur yn lle (gallwch lenwi hon yn electronig a’i gyrru drwy e-bost, neu ei hanfon drwy’r post). 

I ofyn am ffurflen gais bapur ac ar gyfer pob ymholiad arall, gallwch gysylltu â gweinyddwr y panel trwy anfon e-bost at paneladmin@wrexham.gov.uk, ffonio 01978 292663, neu ysgrifennu at ‘Gweinyddwr Panel Seibiant Anabledd a Gofal Plant, Teuluoedd yn Gyntaf, yr 2il Lawr, Stryt y Lampint, Wrecsam, LL11 1AR’.