Mae ein canllaw buddsoddi ar-lein wedi’i greu i ddweud wrthych beth all Wrecsam gynnig i’ch busnes. Rydym eisiau i chi fuddsoddi ac adeiladu eich busnes yma, a byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu’r holl gymorth a gwybodaeth y byddwch ei angen er mwyn eich caniatáu i wneud eich penderfyniad eich hun ynghylch Wrecsam fel lleoliad busnes. Os nad ydych yn siŵr os yw Wrecsam yn addas, beth am gysylltu â ni ac mi wnawn ein gorau i’ch helpu ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Yn fyr, Wrecsam yw’r ail sir fwyaf yng Ngogledd Cymru gyda phoblogaeth trigolion yn fwy na 135,000. Bu i boblogaeth yr ardal gynyddu 5% rhwng 2001 a 2011, ac mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd cynnydd o 10% pellach ym mhoblogaeth y Fwrdeistref Sirol erbyn 2039, y gyfradd twf ail fwyaf yng Nghymru. 

Yn ogystal â phoblogaeth sy’n cynyddu, roedd gan Wrecsam economi cryf ac amrywiol, sydd yn dangos pob arwydd o gynnal twf a ddigwyddodd yn amlwg yn y 1900au ac yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Eto, mae ystadegau Llywodraeth Cymru yn dangos yn 2019 bod dros 12,000 o fusnesau gweithredol o fewn y Fwrdeistref Sirol, sydd yn cynrychioli cynnydd o 76% ers 2010 a’r gyfradd twf fwyaf yng Nghymru. 

Dros y blynyddoedd, mae Wrecsam wedi cael y canran fwyaf o bobl sy’n  economaidd weithgar o’i gymharu â chyfartaledd Cymru a’r DU, gyda chyfartaledd o gyflog wythnosol gros unigolion yn £574.9 yn 2021, mae hwn yn uwch na chyfartaledd Cymru. Yn ôl pob unigolyn yn y boblogaeth, yn 2018, roedd gan Wrecsam incwm gros aelwyd o £18.408 (data dros dro), sydd yn uwch na Gogledd-orllewin Lloegr a Gorllewin Canolbarth Lloegr ar y cyfan o’i gymharu â ffigurau 2008 yn dangos y cynnydd uchaf ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.   

Heb amheuaeth, un o gryfderau Wrecsam yw ei lleoliad, wedi’i lleoli yng nghornel gogledd ddwyrain Cymru, gyda ffin Lloegr, mae ein sefyllfa o ran cysylltiadau ffyrdd, rheilffordd, maes awyr a llong yn wych, gan osgoi tagfeydd, y mae dinasoedd yn eu profi fel arfer. Mae o fewn dwy awr ar y ffordd i Lerpwl, Manceinion, Birmingham a Chanolbarth Lloegr, os ydych yn sefydlu eich busnes yma (link to land and property page) bydd gennych fynediad hawdd i gyflenwyr, cwsmeriaid, pobl, sgiliau a gwybodaeth ledled y rhan fwyaf o’r DU a thu hwnt. 

Mae nifer o sefydliadau wedi gwneud buddsoddiadau sylweddol yn yr ardal ac mae’r ffaith eu bod yn parhau i ffynnu a chadw eu hymrwymiad i Wrecsam yn dangos, fel lleoliad, mae’n darparu lleoliad busnes y gallent lwyddo a thyfu.  

Beth sy’n gwneud Wrecsam yn atyniadol fel lleoliad busnes?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn parhau i fod yn ymroddedig i ddatblygu'r economi  ac yn darparu amgylchedd i fusnesau lwyddo, ffynnu a theimlo’n hyderus i ehangu ac ail-fuddsoddi. Pan fydd busnes yn agor neu’n ail-leoli i Wrecsam, maent yn manteisio o genedl hyderus, greadigol ac uchelgeisiol, sydd ar eu hochr nhw, mae ganddi lawer o bwerau datganoledig a hanes cryf o gefnogi busnesau.

Fel aelod o’r Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy rydym wedi ymrwymo i ddatblygu economi mwy llwyddiannus, arloesol a chynhyrchiol sydd yn smart, cysylltiedig a chryf gyda’r bwriad o gyflymu twf.Fel cipolwg, mae’r pwyntiau canlynol yn gwneud Wrecsam yn le atyniadol fel lleoliad busnes:  

  • Pris cystadleuol y tir/ eiddo.
  • Lleoliad daearyddol a chysylltiadau cludiant.
  • Ansawdd, agwedd a theyrngarwch y gweithlu.
  • Ansawdd bywyd da o fewn y Fwrdeistref Sirol.
  • Cyfleusterau addysg a hamdden dda.
  • Marchnad dwristiaid sy’n tyfu
  • Mae ansawdd y gefnogaeth y mae’r tîm busnes a buddsoddi Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam , ynghyd â sefydliadau allanol megis Busnes Cymru (dolen gyswllt allanol).

Pam fod Wrecsam yn gynnig atyniadol i fasnachwyr a siopau bwyd?

Gan weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam dros y blynyddoedd wedi dod â chyllid digynsail i’r ardal, sydd wedi trawsnewid canol y dref gydag arian yn cael eu buddsoddi mewn gorsafoedd rheilffordd a bysiau, ynghyd â thirlunio o’r raddfa uchaf, creu parth cerddwyr a datblygiadau corfforol. Mae buddsoddiadau fel hyn wedi datblygu Wrecsam o fod yn dref farchnad draddodiadol i ganolfan fasnach o bwysigrwydd rhanbarthol.

Mae mwy na 485, 000 troedfedd sgwâr o wagle masnach wedi’i greu yn y dref ers 2003. Mae datblygiad Canolfan Siopa Dôl yr Eryrod (external link) yn atgyfnerthu Wrecsam fel man prysur siopa hysbys yng Ngogledd Cymru, sy’n cynnwys nifer o fasnachwyr ffasiwn byd-eang megis Next, River Island a Marks and Spencer. Yn ychwanegol i Ganolfan Siopa Dôl yr Eryrod, mae gan Wrecsam dri pharc manwerthu ychwanegol ar gyrion Canol y Dref, Parc Siopa Border, Parc Siopa Canolog a Pharc Siopa Plas Coch. 

Mae tair marchnad dan do yn Wrecsam (yr un fwyaf hysbys yw Ty Pawb hwb diwylliannol sydd wedi ennill gwobrau, sydd yn dod â chelfyddydau a marchnadoedd at ei gilydd, ac mae’r cyfleuster yn cynnwys neuadd fwyd a marchnad wythnosol y tu allan. Mae datblygiad masnach a hamdden newydd o’r enw Chapter Court yn cael ei ddatblygu hefyd.  

Cymysgedd o argaeledd parcio, cyfleoedd siopa, ynghyd â llefydd i weld megis twr eglwys San Silyn (un o Saith Rhyfeddod Cymru), Xplore! Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth, Amgueddfa Wrecsam, y  Cae Ras (Cartref  A.F.C Wrecsam a stadiwm ryngwladol hynaf) ac ystod eang o lefydd i fwyta ac yfed, sy’n golygu y gall ymwelwyr dreulio diwrnod yng nghanol y dref.

Mae fforwm canol dref yn cyfarfod yn rheolaidd gydag ymrwymiad i ddylanwadu a sicrhau datblygiadau cadarnhaol, gweithgareddau a mentrau. Mae’r fforwm yn dod ag ystod eang o fusnesau a sefydliadau at ei gilydd, sydd â diddordeb cyffredin yn y datblygiad o ganol tref Wrecsam, ac wedi anelu i sicrhau bod Canol Tref Wrecsam yn cael ei chydnabod fel amgylchedd atyniadol, glân a diogel er mwyn gwneud y mwyaf o’i photensial fel canolfan siopa, twristiaeth a diwylliant mawr yng Ngogledd Cymru. 
Cynhelir nifer o ddigwyddiadau blynyddol yng nghanol y dref, sydd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr.

Gweithgynhyrchu a Chyfanwerthu

Yn cael ei wasanaethu gan ffordd gyswllt £35 miliwn, mae Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, yr un fwyaf o’r nifer o ystadau diwydiannol yn y Fwrdeistref Sirol, sydd yn cyflenwi darn tua 550 hectar ac un o’r ystadau diwydiannol fwyaf yn Ewrop!  

Gyda phoblogaeth isel o’i gymharu â phrif ddinasoedd y DU, prif fantais y mae Wrecsam yn ei chynnig fel lleoliad busnes yw’r diffyg tagfeydd ffyrdd amlwg, gan allu cynnig cysylltiadau ffordd, rheilffordd, maes awyr a morgludiant gwych.

Mae 20% o weithlu Wrecsam yn cael eu cyflogi o fewn y diwydiannau gweithgynhyrchu, o’i gymharu â chyfartaledd y DU o 8% yn unig, gan bwysleisio ar sgiliau ac arbenigedd y mae’r farchnad lafur lleol yn gallu ei gynnig o fewn y sector gweithgynhyrchu.

Mae cymuned busnes gweithgynhyrchu a chyfanwerthu ffyniannus yn Wrecsam yn cynnwys popeth o weithrediadau brodorol bach i gwmnïau mawr rhyngwladol ac o safon megis Hoya, Kelloggs, Cadbury a JCB.

O ran cryfderau sector, mae’r canlynol yn cael eu cynrychioli’n gryf yn Wrecsam:

  • Peirianneg
  • Cydrannau modurol
  • Deunyddiau pecynnu
  • Gofal Iechyd / meddygol/ cynhyrchion fferyllol
  • Electronig
  • Ffibr Optig
  • Prosesu bwyd
  • Cemegion 
  • Plastig

Pa ddata sydd ar gael i fy helpu penderfynu agor busnes /adleoli i Wrecsam?

Mae ystadegau nifer yr ymwelwyr yn wythnosol ac yn fisol ar gael ar gyfer Canol Tref Wrecsam, sydd yn amlygu nifer yr ymwelwyr yn ôl y mis, diwrnodau’r wythnos, oriau yn y dydd, a all fod o ddiddordeb wrth benderfynu ar oriau agor a lefelau staffio.

Yn ogystal mae adroddiadau twristiaeth fanwl ar gael. Gellir darparu ffigurau ymwelwyr i atyniadau, cyfleusterau neu feysydd parcio sy’n cael eu rhedeg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn yr ardal ger unrhyw eiddo yr ydych yn ystyried ei brynu/ rhentu, os gwnewch gais.

Mae Llinellfusnes, gwasanaeth gwybodaeth fusnes arbenigol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn tanysgrifio i ystod eang o adnoddau arweiniol y farchnad, lle mae nifer o ystadegau demograffeg yn dadansoddi poblogaeth preswylwyr, ynghyd â manylion argaeledd ariannu ac adroddiadau ymchwil y farchnad sy’n amlygu tueddiadau o fewn sectorau marchnad benodol neu ddiddordeb, gellir darparu hyn i gyd.  

Llenwch ein ffurflen ymholiadau os ydych eisiau data, ystadegau neu adroddiadau yn gwerthuso perfformiad a thueddiadau o fewn sector/ diddordeb marchnad benodol.  

Argaeledd Eiddo/ Tir 

Mae dod o hyd i’r gwagle cywir i’ch busnes yn hanfodol, dyma le fydd eich busnes yn byw ac yn tyfu. Os ydych yn naill ai chwilio am swyddfa, warws, siop neu safle tir llwyd, mae tir ac eiddo masnachol ar gael ym mhob siâp a maint, mae costau yn amrywio, ond yn gyffredinol, mae’r prisiau yn gystadleuol iawn yn Wrecsam.

Mae posibilrwydd y gallwn gynnig yr eiddo cywir i chi am y pris cywir, gyda chludiant ac isadeiledd technegol o’i gwmpas. Beth am gysylltu â’r tîm cymorth i fusnesau a fydd yn gallu gwneud ymchwil wedi’i deilwra i chi, ar sail eich gofynion penodol.

Lleoliad a Mynediad i’r DU/ Marchnadoedd Rhyngwladol 

Mae lleoliad Wrecsam y tu allan i’r ardaloedd mawr o ran poblogaeth a dwysedd diwydiant yn rhoi mantais wahanol, gan nad yw’r ardal yn profi tagfeydd ffyrdd drwg, fel y mae dinasoedd mawr yn ei brofi.

Ffordd

Y brif ffordd sy’n gwasanaethu Wrecsam, dim ond ychydig o funudau o ganol dref Wrecsam a phob ystadau diwydiannol mawr yw’r A483. Mae’r ffordd hon yn cysylltu Wrecsam i’r rhwydwaith traffordd genedlaethol, sef M53/M56. O fan hyn mae mynediad hawdd i bob ffordd, i’r gogledd, de, dwyrain a’r gorllewin. Yn arbennig i Faes Awyr Manceinion ac arfordir gorllewinol Porthladd Mostyn, Lerpwl, Caergybi a Garston, ond hefyd i borthladdoedd arfordir dwyreiniol, ar hyd traffordd ar draws y Penwynion.

Meysydd Awyr

Mae Maes Awyr Manceinion yn faes awyr rhyngwladol mawr ac ond yn 45 munud o Wrecsam Un o asedau gorau Wrecsam yw’r agosrwydd a mynediad hawdd. Mae’r maes awyr yn cynnwys terfynell cludo, y gallai busnesau Wrecsam gael mynediad atynt, a’r cludiant lleol a chenedlaethol sydd yn defnyddio’r cyfleuster hwn.

Gellir cyrraedd Maes Awyr Lerpwl mewn tua 40 munud ac mae’n cynnig dewis cynyddol o hediadau i gyrchfannau Ewropeaidd yn ogystal â dewis da o feysydd awyr yn y DU.

Mae Maes Awyr Penarlâg tua 20 munud yn y car o Wrecsam ac mae ganddo gyfleusterau ar gyfer jetiau preifat.

Môrgludiant

Mae’n syndod bod nifer o opsiynau ar gael i gwmnïau Wrecsam pan mae’n ymwneud â morgludiant:

Mae gan Wrecsam dri phorthladd ‘lleol’, pob un o fewn awr yn y car - Mostyn, Lerpwl a Garston - pob sy’n cynnig gwasanaeth byd eang.

Mae’r porthladd yng Nghaergybi yn bwysig gan ei fod yn cysylltu ag Iwerddon.  Mae hwn oddeutu 55 milltir i ffwrdd, yn ogystal â gallu croesi ar long gonfensiynol, mae’n cynnig croesiad cyflym (90 munud) gan hydrofoil.

Mae cysylltiadau traffordd wych i borthladdoedd megis Hull, Immingham a Felixstowe ar ochr ddwyreiniol, ac mae cwmnïau Wrecsam yn gweld hyn yn ymarferol i ddefnyddio’r cyfleusterau y maent yn ei gynnig. I roi syniad o ran amser, gellir cyrraedd Hull mewn lori mewn tua 3 awr.

Rheilffordd

Mae dwy orsaf drenau yn Wrecsam Gorsaf Rheilffordd Gyffredinol Wrecsam a  Gorsaf Rheilffordd Ganolog Wrecsam. Sydd wedi’u cysylltu gan ddwy linell ar wahân. Safleoedd Cludo Rheilffordd wedi eu lleoli yn Lerpwl, Manceinion, Stoke-on-Trent a Llandudno a Bangor. Mae Euston Llundain yn daith trên dwy awr a hanner yn unig.

Cymorth i Fusnesau 

Bydd unrhyw fusnes sydd yn ystyried symud neu ddechrau busnes ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweld, yn y Tîm Busnes a Buddsoddi’r Cyngor, grŵp o weithwyr proffesiynol ymroddedig a fydd yn gwneud eu gorau i’ch helpu gydag unrhyw benderfyniadau yr ydych angen eu gwneud a chynnig ystod gynhwysfawr o wasanaethau cefnogi.

Addysg a Chyflogaeth / Cynlluniau Datblygu Gweithlu

Gan fod tâl wythnosol gros i weithwyr llawn amser yn is na’r cyfartaledd y DU, mae cymysgedd o gostau llafur is a chynhyrchiant da yn atgyfnerthu atyniad yr ardal fel lleoliad busnes.

Mae proffiliau marchnad lafur (dolen gyswllt allanol) a data demograffeg yn (dolen gyswllt allanol) darparu dadansoddiad ystadegol o boblogaeth y preswylwyr, gan fanylu cyflogaeth yn ôl swydd, cymhwyster ac enillion ar gyfartaledd. Yn ogystal â phoblogaeth preswylwyr Wrecsam, mae’n atynnu gweithlu symudol o Fanceinion, Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Lerpwl a Swydd Amwythig.

Mae Wrecsam yn cael ei wasanaethu yn dda iawn, ym mhob lefel o addysg  gyda rhwydwaith o ysgolion cynradd ac uwchradd awdurdod lleol ynghyd â darparwyr addysg bellach megis Prifysgol Wrecsam a Choleg Cambria, y ddau gyda champws ar gyrion canol y dref.

Mae Prifysgol Wrecsam yn gweithio’n agos gyda busnesau ar ymchwil a datblygiad, prosiectau arbenigol a lleoliadau. Mae eu partneriaid masnachol wedi chwarae rhan sylweddol yn y twf cyflym o’r sefydliad gyda chwmniau gan gynnwys Airbus, Toyota a’r BBC ymysg y cewri byd-eang y maent yn gwneud busnes gyda bob dydd. 

Mae 93% o fyfyrwyr ydd wedi cyflawni gradd llawn amser yn 2015/16 mewn swydd neu astudiaeth bellach ar ôl graddio - y gorau yn y rhanbarth, mae 10 prifysgol arall o fewn awr yn y car, gan gynnwys y fwyaf adnabyddedig  Manceinion a Lerpwl.

Cynlluniau Cyflogaeth a datblygu gweithlu

Gall fusnesau o fewn Wrecsam fanteisio ar nifer o  gymhelliant cyflogaeth a chyfleoedd datblygu gweithlu, mae’r cynlluniau hyn wedi bod ar gael ers tipyn. Mae hyn yn amlygu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i ddarparu i fusnesau modd cost effeithiol o fuddsoddi, uwchsgilio a phellhau’r galluedd eu gweithlu, ynghyd â chynorthwyo twf busnes o ran staffio.

Hamdden, diwylliant, treftadaeth ac amwynderau

Hamdden, diwylliant a threftadaeth

Mae ystod eang o gyfleusterau hamdden a diwylliannol ar gael ar draws ardal bwrdeistref sirol Wrecsam, yn bennaf mae gan Wrecsam ei  gae ras ym Mangor-Is-y-Coed, stadiwm athletau ,stadiwm pêl-droed, dwy theatr (y Stiwt a Grove Park), bowlio deg a sinema amlbeth.

Yn ogystal mae Wrecsam yn gartref i  Draphont Ddŵr Pontcysyllte (dolen gyswllt allanol), sydd yn safle treftadaeth y byd, dau eiddo yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol  - Erddig a Chastell y Waun, a Chanolfan Darganfod Gwyddoniaeth, Hwb/ Marchnad Celfyddydau Tŷ Pawb (dolen gyswllt allanol) ac amgueddfa.

Mae dewis gwych o westai yn yr ardal, mae rhai yn cynnig llety ac addurn cyfnod atyniadol, ynghyd â nifer o fwytai a chaffis da.

Mae cefn gwlad yn amgylchynu Wrecsam ei hun, sydd yn wych ar gyfer taith gerdded; mae’r Afon Dyfrdwy yn enwog i bysgota. Ar gyfer tref eithaf bach, mae Wrecsam yn uchelgeisiol yn y ffordd y mae’n hyrwyddo ei hun drwy weithgareddau hamdden, sydd â ffocws rhanbarthol neu genedlaethol. 

Cynhelir nifer o ddigwyddiadau blynyddol yn yr ardal megis Focus Wales, Rock the Park a marchnad Nadolig Fictoraidd. Mae nifer o ddigwyddiadau o broffil uchel wedi ymweld â’r ardal yn y blynyddoedd diwethaf, megis Rali Cymru GB, Taith Prydain a ffagl Olympaidd.  

Mae Wrecsam wedi’i lleoli o fewn 20 munud yn y car i Eryri - un o Barciau Cenedlaethol mwyaf enwog a thrawiadol yn y DU. Mae Eryri ei hun yn cynnig posibilrwydd diddiwedd ar gyfer gweithgareddau hamdden awyr agored, a chyda Chanolbarth Cymru a’r ardaloedd cyfagos yng Ngogledd Orllewin Lloegr, mae’n rhaid i’r ardal ddarparu ar gyfer bron pob gweithgaredd awyr agored.  Mae’n hawdd cyrraedd yr arfordir ac eto mae rhywbeth at ddant bawb o fewn pellter hawdd o Wrecsam.

Siopa

Mae gan yr ardal ystod eang o archfarchnadoedd, siopau bwyd a chyfleusterau, gyda chynigion gwych, a rhai sydd ar agor am 24 awr y dydd lle gallwch gael popeth o dan yr un to. Ar ben arall y raddfa, mae’r sector annibynnol yn ffynnu gyda phopeth o fwyd i ddillad dylunwyr o ansawdd uchel a gemwaith sydd ar gael yng nghanol y dref.  

Mae dinas hynafol Caer yn 12 milltir i ffwrdd a gellir cyrraedd dinasoedd Lerpwl a Manceinion o fewn yr awr. Rhyngddynt mae’r tri yn cynnig mynediad i gerddoriaeth, theatr, bale a’r Celfyddydau gorau. 

Mae Wrecsam yn manteisio o agosrwydd at nifer o ddinasoedd mawr sydd yn cynnig mynediad at gyfleusterau ychwanegol. Mae dinas hynafol Caer yn 12 milltir i ffwrdd a gellir cyrraedd dinasoedd Lerpwl a Manceinion o fewn yr awr. Rhyngddynt mae’r tri yn cynnig mynediad i gerddoriaeth, theatr, bale a’r Celfyddydau gorau. Mae lleoliad canolog Wrecsam yn ei wneud yn fan delfrydol i ddechrau i’r rheiny sydd yn chwilio am fynediad i’r ystod eang o weithgareddau hamdden ar gael ar draws gogledd orllewin a gogledd canolbarth Lloegr.

Tai

Mae modd dod o hyd i unrhyw fath o dai yn ardal Wrecsam, sy’n amrywio o eiddo cefn gwald mewn tir helaeth, i dŷ tref teras neu fflat stiwdio. Mae dewis da o eiddo hen a newydd o ansawdd dda, yn y dref ac yn yr ardal wledig ehangach, lle mae nifer o bentrefi gwledig atyniadol.  Mae prisiau yn cael eu cymharu'n ffafriol gyda llawer o ardaloedd yn y DU.

Gofal Meddygol 

Mae Ysbyty Maelor Wrecsam, wedi’i leoli ar gyrion y dref, a hwn yw safle ysbyty GIG unigol fwyaf yng Ngogledd Cymru. Mae Maelor Wrecsam yn rhan o ymchwil a datblygiad mewn gofal iechyd meddygol a chymdeithasol, ac mae cyfleusterau addysgu helaeth fel rhan o bartneriaeth gyda phrifysgolion lleol.  Mae ysbyty preifat yn Wrecsam hefyd - Ysbyty Preifat Spire Yale sydd wedi’i leoli yn ymyl Ysbyty Maelor Wrecsam.

Cysylltwch â ni

Rydym yn gobeithio y byddwch wedi cael argraff dda o’r holl bethau rydych wedi’i ddarllen am Wrecsam. Rhowch wybod i ni os hoffech ragor o fanylion, neu os allwn eich helpu mewn unrhyw ffordd. Os hoffech ymweld â ni, fel y gallwch weld dros eich hun pam fod gymaint o fusnesau wedi dewis Wrecsam fel eu lleoliad fusnes a ffafrir, cysylltwch gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein a byddwn yn falch o wneud y trefniadau neu ateb unrhyw ymholiadau.