Apêl cynnig llety

Rydym angen mwy o breswylwyr Wrecsam i noddi unigolyn neu deulu o Wcráin, sydd eisoes wedi cyrraedd drwy’r Cynllun Cartrefi i Ffoaduriaid o Wcráin, i fyw gyda nhw yn eu cartref neu mewn eiddo ar wahân.  Telir £500 y mis i letywyr fel tâl ‘diolch yn fawr’.  

I ganfod mwy e-bostiwch homesforukraine@wrexham.gov.uk.

Mae gan Fwrdeistref Sirol Wrecsam hanes hir a balch o groesawu ffoaduriaid ac eraill sy’n ceisio noddfa rhag gwrthdaro neu erledigaeth.

Yng Nghyngor Wrecsam rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod newydd-ddyfodiaid o Wcráin yn derbyn y gefnogaeth a’r cymorth sydd ei angen arnynt.

Os ydych wedi cyrraedd yn Wrecsam yn ddiweddar, croeso.  Os oes gennych unrhyw faterion neu bryderon, gallwch anfon e-bost atom yn homesforukraine@wrexham.gov.uk.

Canllawiau i Ddinasyddion Wcráin

Cyn i chi deithio i Gymru a’r DU

Pan fyddwch yn cyrraedd yng Nghymru 

Gallwch ffonio’r llinell gymorth am ddim rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener ar 0808 175 1508 neu ar +44 (0)204 542 5671.

Pan fyddwch yn cyrraedd yn Wrecsam

Os ydych wedi cyrraedd yma o Wcráin yn ddiweddar, croeso i Wrecsam.

Drwy pa bynnag Gynllun Visa Wcráin y Llywodraeth rydych wedi cyrraedd, gallwn ni eich helpu.  

I gael mwy o wybodaeth am fynediad i wasanaethau lleol a’r gefnogaeth leol a gynigir i newydd-ddyfodiaid, gallwch anfon e-bost at homesforukraine@wrexham.gov.uk.

Sut i helpu dinasyddion Wcráin

Rydym yn ddiolchgar iawn i’r nifer o bobl leol, cymunedau a sefydliadau sydd eisoes wedi cynnig yn hael i ddarparu cymorth a chefnogaeth i bobl o Wcráin.

Os oes gennych le i noddi rhywun yn eich cartref eich hun, cartref ar wahân neu hyd yn oed os oes gennych eiddo yr ydych yn dymuno ei rentu allan, rydym yn awyddus i glywed gennych, gallwch gysylltu drwy homesforukraine@wrexham.gov.uk.

Sut i gefnogi pobl eraill sy’n ceisio noddfa 

Gallwch ganfod sut y gallwch groesawu rhywun sy’n ceisio noddfa drwy Gynllun Ailgartrefu y DU neu Gynllun Ailgartrefu Dinasyddion Affghan drwy Reset: Community Sponsorship (dolen gyswllt allanol)

Gallwch ganfod sut i gynnig llety i geiswyr noddfa yn eich ardal drwy sefydliadau fel Housing Justice Cymru (dolen gyswllt allanol).

Canllawiau i letywyr/noddwyr

Yn Wrecsam bydd pob noddwr a’r unigolyn/bobl maent yn cynnig llety iddynt yn derbyn eu gweithiwr achos eu hunain.    

I gael mwy o wybodaeth am y gefnogaeth a gynigir a’r broses leol, gallwch anfon e-bost: HomesforUkraine@Wrexham.gov.uk.