Materion brys
Gwiriwch sut i roi gwybod am lifogydd yn dibynnu ar ffynhonnell y dŵr.
Gallwch roi gwybod i ni am unrhyw faterion brys eraill (difrod storm neu goed wedi cwympo er enghraifft) ar y rhifau canlynol:
- Pob preswylydd: 01978 298989
- Atgyweiriadau tai ar gyfer preswylwyr tai cyngor: 01978 298993
Mae'r llinellau ffôn hyn ar agor 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos.
Os ydych chi'n breswylydd tŷ cyngor gallwch chi hefyd anfon neges e-bost at wrexhamemergency@deltawellbeing.org.uk (y tu allan i oriau yn unig).
Sut i roi gwybod am doriadau pŵer
Ffoniwch 105 i roi gwybod am unrhyw broblemau’n ymwneud â thoriadau pŵer. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim, a bydd yn eich rhoi chi drwodd i'ch gweithredwr rhwydwaith lleol am help a chefnogaeth.
Gall rhwydweithiau ynni gynnig cefnogaeth am ddim pan fydd toriadau i'ch cyflenwad pŵer os oes gennych anghenion ychwanegol oherwydd eich amgylchiadau meddygol neu bersonol.
Rhowch wybod am faterion llai brys ar-lein
Ffoniwch ni os yw’n fater brys yn unig – ar gyfer materion eraill, helpwch ni trwy roi gwybod am faterion ar-lein:
Diweddariadau
Gallwch gadw llygad am ddiweddariadau ar ein blog pan fydd digwyddiadau tywydd garw yn effeithio ar y sir.