Crynodeb o’r drwydded

Mae’n rhaid i chi gael tystysgrif clybiau gan eich awdurdod lleol i awdurdodi cyflenwi alcohol ac adloniant wedi’i reoleiddio mewn clwb cymwys.

Yn dechnegol, nid yw alcohol yn cael ei fanwerthu mewn clwb cymwys (ac eithrio i westeion) gan fod yr aelod yn berchen ar ran o’r stoc alcohol ac mae’r arian sy’n cael ei gyfnewid ar draws y bar yn fodd o sicrhau cydraddoldeb rhwng aelodau lle gall un yfed mwy na’r llall.

Er mwyn cael eich ystyried yn glwb cymwys, mae’n rhaid i chi hefyd fodloni’r gwahanol ofynion a nodir yn Neddf Drwyddedu 2003.

Meini prawf cymhwysedd      

Mae’n rhaid i glybiau fod yn glybiau cymwys. Mae’n rhaid i glwb cymwys fodloni amodau cyffredinol. Y rhain yw:

  • ni all unrhyw unigolyn dderbyn breintiau aelodaeth neu freintiau ymgeisydd am aelodaeth heb fwlch o ddeuddydd o leiaf rhwng cyflwyno cais am aelodaeth neu enwebiad a chaniatáu’r aelodaeth
  • bod rheolau’r clwb yn datgan na all y rhai sy’n dod yn aelodau heb gael eu henwebu neu heb gyflwyno cais dderbyn breintiau aelodaeth am o leiaf deuddydd rhwng dod yn aelod a chael mynediad i’r clwb
  • bod y clwb wedi’i sefydlu ac yn cael ei gynnal mewn ffydd
  • bod gan y clwb o leiaf 25 aelod
  • bod alcohol yn cael ei gyflenwi i aelodau ar y safle yn unig ar ran neu gan y clwb

Mae’n rhaid cydymffurfio ag amodau ychwanegol mewn perthynas â chyflenwi alcohol. Yr amodau hyn yw:

  • bod alcohol sy’n cael ei brynu ar gyfer y clwb a’i gyflenwi ganddo gan aelodau o’r clwb sydd dros 18 oed ac maent wedi’u hethol i wneud hynny gan yr aelodau
  • nad oes unrhyw unigolyn yn derbyn comisiwn, canran neu daliad tebyg ar draul y clwb mewn perthynas â phrynu alcohol gan y clwb
  • nad oes unrhyw drefniadau i neb dderbyn budd ariannol yn sgil cyflenwi alcohol, heblaw am unrhyw fudd i’r clwb neu unrhyw unigolion yn anuniongyrchol yn sgil cyflenwi sy’n rhoi budd i redeg y clwb

Bydd cymdeithasau diwydiannol a darbodus a chymdeithasau cyfeillgar yn gymwys os yw’r alcohol sy’n cael ei brynu ar gyfer y clwb a’i gyflenwi ganddo yn cael ei wneud o dan reolaeth yr aelodau neu bwyllgor o aelodau.
 

Gellir ystyried sefydliadau lles glowyr lle bo hynny’n berthnasol hefyd. Sefydliad perthnasol yw un sy’n cael ei reoli gan bwyllgor neu fwrdd sy’n cynnwys o leiaf dwy ran o dair o bobl a benodwyd neu a ddyrchafwyd gan un neu ragor o weithredwyr trwyddedig o dan Ddeddf y Diwydiant Glo 1994 a chan un neu ragor o sefydliadau sy’n cynrychioli gweithwyr pyllau glo. Gall y sefydliad gael ei reoli gan y pwyllgor neu’r bwrdd lle nad yw’n bosibl i’r bwrdd gynnwys yr aelodau a nodir uchod ond roedd o leiaf dwy ran o dair o’r aelodau yn arfer cael eu cyflogi neu maent yn cael eu cyflogi yn y diwydiant glo, a hefyd pobl a benodwyd gan Sefydliad Lles y Diwydiant Glo neu gorff â swyddogaethau tebyg o dan Ddeddf Lles y Glowyr 1952. Mewn unrhyw achos, mae’n rhaid i safle’r sefydliad gael ei ddal mewn ymddiriedolaeth fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Elusennau Hamdden 1958.

Crynodeb o’r rheoliadau

Proses gwerthuso ceisiadau

Gall clwb wneud cais am dystysgrif clybiau ar gyfer unrhyw eiddo a ddefnyddir yn rheolaidd at ddibenion y clwb.

Dylid cyflwyno ceisiadau i’r awdurdod trwyddedu lleol, sef yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am yr ardal lle saif yr adeilad.

Dylid cynnwys cynllun o’r eiddo, mewn fformat penodol, a chopi o reolau’r clwb a’i amserlen weithredu, wrth gyflwyno’r cais.

Mae’n rhaid i amserlen weithredu’r clwb fod mewn fformat penodol a dylai gynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • gweithgareddau’r clwb
  • amseroedd cynnal y gweithgareddau
  • amseroedd agor eraill
  • a yw’r cyflenwadau alcohol ar gyfer eu hyfed ar y safle neu oddi arno neu’r ddau
  • y camau mae’r clwb yn bwriadu eu cymryd i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu
  • unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol

Os bydd unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i’r rheolau neu enw’r clwb cyn i gais gael ei ystyried neu ar ôl i dystysgrif gael ei rhoi, mae’n rhaid i ysgrifennydd y clwb roi manylion i’r awdurdod trwyddedu lleol. Os oes tystysgrif yn bodoli, rhaid ei hanfon i’r awdurdod trwyddedu lleol pan ofynnir amdani.

Os oes tystysgrif yn bodoli ac mae cyfeiriad cofrestredig y clwb yn newid, mae’n rhaid i’r clwb hysbysu’r awdurdod trwyddedu lleol o’r newid a darparu’r dystysgrif gyda’r hysbysiad.
Gall clwb gyflwyno cais i awdurdod trwyddedu lleol i amrywio tystysgrif. Dylai’r dystysgrif gael ei hanfon gyda’r cais.

Gall yr awdurdod trwyddedu lleol archwilio’r safle cyn ystyried y cais.

Gall ffioedd fod yn daladwy am unrhyw fath o gais yn ymwneud â thystysgrif clybiau.
 

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?

Bydd, ac eithrio yn achos ceisiadau ar gyfer mân amrywiadau i drwyddedau eiddo trwyddedig neu glybiau. Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu fel petai eich cais wedi cael ei ganiatáu os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

Cyfnod cwblhau targed

40 diwrnod calendr.

Ffioedd

Band ardrethol A (£0 - £4,300)

Trwydded/tystysgrif eiddo: £100     

Ffi adnewyddu blynyddol: £70

Band ardrethol B (£4,301 - £33,000)

Trwydded/tystysgrif eiddo: £190     

Ffi adnewyddu blynyddol: £180

Band ardrethol C (£33,001 - £87,000)

Trwydded/tystysgrif eiddo: £315     

Ffi adnewyddu blynyddol: £295

Band ardrethol D (£87,001 - £125,000)

Trwydded/tystysgrif eiddo: £450     

Ffi adnewyddu blynyddol: £320

Lle mae’r eiddo yn y band hwn yn fusnes sy’n gwerthu alcohol yn unig neu’n bennaf.

Trwydded/tystysgrif eiddo: £900     

Ffi adnewyddu blynyddol: £640

Band ardrethol E (£125,001 a throsodd)

Trwydded/tystysgrif eiddo: £635    

Ffi adnewyddu blynyddol: £350

Lle mae’r eiddo yn y band hwn yn fusnes sy’n gwerthu alcohol yn unig neu’n bennaf.

Trwydded/tystysgrif eiddo: £1905     

Ffi adnewyddu blynyddol: £1050

Manylion cyswllt

Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd, Stryt y Lampint, Wrecsam. LL11 1AR.

E-bost: licensingservice@wrexham.gov.uk

Apelio yn erbyn cais a wrthodwyd

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Bydd ymgeisydd aflwyddiannus yn derbyn hysbysiad gan yr awdurdod trwyddedu lleol yn cadarnhau bod y cais am dystysgrif neu’r cais i amrywio tystysgrif wedi cael ei wrthod.

Os bydd cais yn cael ei wrthod, gall yr ymgeisydd apelio yn erbyn y penderfyniad.

Rhaid cyflwyno apeliadau i’r llys ynadon lleol cyn pen 21 diwrnod ar ôl y penderfyniad.

Apêl gan ddeiliad y drwydded

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Os bydd awdurdod trwyddedu lleol yn gwrthod cais i amrywio, gall deilydd y drwydded apelio yn erbyn y penderfyniad. Gall deilydd y drwydded apelio yn erbyn penderfyniad i osod amodau ar dystysgrif neu i eithrio unrhyw un o weithgareddau’r clwb. Gellir apelio hefyd yn erbyn amrywio unrhyw un o’r amodau.

Gellir apelio yn erbyn penderfyniad adolygiad.

Gall clwb apelio yn erbyn penderfyniad i ddiddymu tystysgrif.

Rhaid cyflwyno apeliadau i’r llys ynadon lleol cyn pen 21 diwrnod ar ôl dyddiad y penderfyniad.

Cwyn gan ddefnyddiwr

Gall aelod o’r clwb wneud cais i adolygu’r dystysgrif. Bydd yr awdurdod trwyddedu lleol yn rhoi rhesymau dros ei ymateb i’r cais mewn hysbysiad.

Gellir apelio yn erbyn penderfyniad adolygiad.

Rhaid cyflwyno apeliadau i’r llys ynadon lleol cyn pen 21 diwrnod ar ôl dyddiad y penderfyniad.

Gwneud iawn mewn achosion eraill

Gall unrhyw barti â diddordeb gyflwyno sylwadau i’r awdurdod trwyddedu lleol cyn i’r dystysgrif gael ei chaniatáu neu cyn i newidiadau i dystysgrif gael eu caniatáu. Os cyflwynir sylwadau, cynhelir gwrandawiad i ystyried y cais a’r sylwadau. Bydd yr awdurdod trwyddedu lleol yn cyflwyno hysbysiadau yn nodi’r rhesymau dros unrhyw ganlyniad. Bydd partïon â diddordeb a gyflwynodd sylwadau yn cael eu hysbysu am y cais aflwyddiannus.

Diffinnir parti â diddordeb fel:

  • rhywun sy’n byw ger y safle neu gorff sy’n cynrychioli unigolyn o’r fath
  • rhywun sy’n gysylltiedig â busnes ger y safle neu gorff sy’n cynrychioli unigolyn o’r fath

Gall parti â diddordeb wneud cais i adolygu tystysgrif y clwb. Bydd yr awdurdod trwyddedu lleol yn rhoi rhesymau dros ei ymateb i’r cais mewn hysbysiad.

Gall parti â diddordeb apelio os yw’n dadlau na ddylid bod wedi caniatáu tystysgrif neu y dylid bod wedi rhoi amodau neu gyfyngiadau gwahanol neu ychwanegol ar y gweithgareddau. Gall hefyd apelio yn erbyn amrywio amod.

Gellir apelio yn erbyn penderfyniad yr adolygiad.

Rhaid cyflwyno apeliadau i’r llys ynadon lleol cyn pen 21 diwrnod ar ôl y penderfyniad.