Crynodeb o’r drwydded        

Mae’n rhaid i chi gael trwydded gan yr awdurdod lleol i redeg sefydliad marchogaeth (lle mae ceffylau neu ferlod yn cael eu llogi i’w marchogaeth neu eu defnyddio ar gyfer gwersi marchogaeth) yng Nghymru.

Meini prawf cymhwysedd        

Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed ac, yng Nghymru, ni chânt fod wedi’u gwahardd rhag gwneud y canlynol:

  • cadw sefydliad marchogaeth
  • cadw siop anifeiliaid anwes o dan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951
  • gwarchod anifeiliaid o dan Ddeddf Gwarchod Anifeiliaid (Diwygio) 1954
  • cadw sefydliadau lletya ar gyfer anifeiliaid o dan Ddeddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963
  • cadw neu fod yn berchen ar anifeiliaid, o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, neu fedru dylanwadu ar y ffordd y caiff anifeiliaid eu cadw, eu prynu a’u gwerthu neu eu cludo, neu bod yn gysylltiedig â’u cludiant

Mae’n rhaid i ymgeiswyr dalu unrhyw ffi sy’n ofynnol a chydymffurfio ag unrhyw amodau sydd ynghlwm â thrwydded.

Crynodeb o’r rheoliadau

Proses gwerthuso ceisiadau

Cyn penderfynu ar gais, mae’n rhaid i awdurdod lleol ystyried adroddiad gan filfeddyg neu ymarferydd yn nodi a yw’r safle yn addas ar gyfer sefydliad marchogaeth ynghyd â manylion am gyflwr y safle ac unrhyw geffylau.
Bydd yr awdurdod lleol hefyd yn ystyried a yw’r ymgeisydd yn addas ac yn gymwys i gael trwydded. Rhaid iddo fod yn fodlon ynghylch y pwyntiau isod hefyd:

  • y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i gyflwr y ceffylau ac y byddant yn cael eu cadw’n iach ac yn ffit yn gorfforol ac a yw’r fan lle bydd y ceffylau yn cael eu marchogaeth neu eu defnyddio ar gyfer hyfforddi marchogaeth, yn addas at y diben hwnnw
  • y bydd carnau’r anifeiliaid yn cael eu tocio’n gywir a bod pedolau wedi’u gosod yn gywir ac mewn cyflwr da
  • y bydd llety addas ar gyfer y ceffylau
  • yn achos ceffylau sy’n cael eu cadw ar laswellt, bod porfa addas, cysgod a dŵr ar gael ac y bydd porthiant ychwanegol yn cael ei ddarparu yn ôl yr angen
  • y bydd ceffylau yn cael bwyd, diod a gwasarn addas ac y byddant yn cael ymarfer corfforol, eu brwsio, eu gorffwys, ac yn derbyn sylw rheolaidd
  • y bydd rhagofalon yn cael eu cymryd i leihau lledaeniad clefydau cyffwrdd-ymledol neu heintus ac y bydd cyfarpar cymorth cyntaf a meddyginiaethau milfeddygol yn cael eu darparu a’u cynnal
  • bod gweithdrefnau priodol yn eu lle i amddiffyn a symud y ceffylau os bydd tân ac fel rhan o’r trefniadau hyn, bod enw, cyfeiriad a rhif ffôn deilydd y drwydded wedi’u dangos y tu allan i’r safle a bod cyfarwyddiadau tân wedi’u harddangos
  • bod cyfleusterau storio porthiant, gwasarn, offer stablau a chyfrwyon yn cael eu darparu

Yn ogystal ag unrhyw amodau eraill, gall trwydded sefydliad marchogaeth fod yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

  • y bydd unrhyw geffyl sy’n cael ei archwilio gan swyddog awdurdodedig ac y canfyddir bod arno angen sylw milfeddygol yn cael ei gadw o’i waith arferol nes bod deilydd y drwydded wedi cael tystysgrif gan filfeddyg yn cadarnhau bod y ceffyl yn ffit i weithio
  • ni fydd ceffyl yn cael ei logi neu ei ddefnyddio i hyfforddi heb oruchwyliaeth unigolyn cyfrifol 16 oed neu hŷn, oni bai fod deilydd y drwydded yn fodlon nad oes angen goruchwylio’r marchog 
  • na fydd y busnes yn cael ei adael yng ngofal rhywun o dan 16 oed
  • bod gan ddeilydd y drwydded yswiriant indemniad
  • bod deilydd y drwydded yn cadw cofrestr o’r holl geffylau yn ei feddiant sy’n dair oed neu iau a bod y gofrestr ar gael i edrych arni ar unrhyw adeg rhesymol

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?

Na fydd. Er budd y cyhoedd mae’n rhaid i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. 

Dylech gysylltu â ni os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol o amser.

Cyfnod cwblhau targed

48 diwrnod calendr.

Ffioedd

Llai na 15 ceffyl: £295
Mwy na 15 ceffyl: £395

Cyswllt

Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd, Stryt y Lampint, Wrecsam. LL11 1AR.

E-bost: public_protection_service@wrexham.gov.uk

Apelio yn erbyn cais a wrthodwyd

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Gall ymgeisydd aflwyddiannus gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol. 
 

Apêl gan ddeiliad y drwydded

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Gall deilydd trwydded sy’n dymuno apelio yn erbyn amod gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol. 
 

Cwyn gan ddefnyddiwr

Os ydych yn dymuno cwyno am unrhyw fater, rydym bob amser yn eich cynghori i gysylltu â’r masnachwr yn y lle cyntaf – trwy ysgrifennu llythyr yn ddelfrydol (gan ofyn am brawf bod y llythyr wedi cael ei ddanfon).

Os nad yw hyn yn llwyddiannus, os ydych yn byw yn y Deyrnas Unedig gallwch gael cyngor gan Cyngor ar Bopeth (dolen gyswllt allanol). Os ydych yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig (dolen gyswllt allanol).