Crynodeb o’r drwydded

Os ydych yn caniatáu i’ch tir gael ei ddefnyddio gan y cyhoedd fel safle gwersylla am fwy na 42 diwrnod ar y tro – neu 60 diwrnod mewn blwyddyn – mae’n rhaid i chi gael trwydded gan eich awdurdod lleol.

Gall amodau fod ynghlwm â’r drwydded.

Mae eithriadau ar gyfer mudiadau sydd â thystysgrifau eithrio ar gyfer gwersylla.

Meini prawf cymhwysedd    

Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth

Crynodeb o’r rheoliadau

Proses Gwerthuso Ceisiadau

Pan fydd cais yn cael ei wneud, ystyrir ei fod yn ddiamod oni bai fod yr awdurdod lleol yn rhoi rhybudd bod y cais yn cael ei wrthod neu bod amodau yn gysylltiedig.

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?

Bydd. Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu fel petai eich cais wedi cael ei ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

Cyfnod cwblhau targed

56 diwrnod calendr.

Ffioedd

Safleoedd gwersylla (Deddf Iechyd y Cyhoedd 1936): Dim ffi

Manylion cyswllt

Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd, Neuadd y Sir, Wrecsam LL11 1AY

E-bost: healthandhousing@wrexham.gov.uk 

Apelio yn erbyn cais a wrthodwyd

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Os bydd trwydded yn cael ei wrthod, gall yr ymgeisydd gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol. 
 

Apêl gan ddeiliad y drwydded

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Gall deilydd y drwydded apelio yn erbyn amod sydd ynghlwm â thrwydded i’r llys ynadon lleol.
 

Cwyn gan ddefnyddiwr

Os ydych yn dymuno cwyno am unrhyw fater, rydym bob amser yn eich cynghori i gysylltu â’r masnachwr yn y lle cyntaf – trwy ysgrifennu llythyr yn ddelfrydol (gan ofyn am brawf bod y llythyr wedi cael ei ddanfon).

Os nad yw hyn yn llwyddiannus, os ydych yn byw yn y Deyrnas Unedig gallwch gael cyngor gan Cyngor ar Bopeth (dolen gyswllt allanol). Os ydych yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig (dolen gyswllt allanol).