Crynodeb o’r drwydded    

Er mwyn rhedeg safle carafanau a gwersylla mae’n rhaid i chi gael trwydded gan yr awdurdod lleol.

Gall amodau fod ynghlwm â’r drwydded i ymdrin ag unrhyw un o’r materion canlynol:

  • cyfyngu ar yr adeg y gall carafanau fod ar y safle i bobl breswylio ynddynt neu gyfyngu ar nifer y carafanau a all fod ar y safle ar yr un pryd
  • rheoli’r math o garafanau ar y safle
  • rheoli lleoliad y carafanau neu reoli’r defnydd o strwythurau a cherbydau eraill gan gynnwys pebyll
  • sicrhau bod camau yn cael eu cymryd i wella’r tir, gan gynnwys plannu /ailblannu llwyni a choed
  • rheoliadau diogelwch tân ac ymladd tân
  • sicrhau bod cyfleusterau toiledau/ymolchi a chyfleusterau, gwasanaethau ac offer eraill yn cael eu darparu a’u cynnal

Meini prawf cymhwysedd    

Rhaid bod gan yr ymgeisydd yr hawl i ddefnyddio’r tir fel maes carafanau.

Ni fydd trwyddedau yn cael eu rhoi i ymgeiswyr y mae eu trwydded safle wedi cael ei ddirymu yn ystod y tair blynedd cyn y cais presennol.

Crynodeb o’r rheoliadau    

GOV.UK: Crynodeb o’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y drwydded hon (dolen gyswllt allanol)

Proses gwerthuso ceisiadau

Cyflwynir cais am drwydded safle i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y tir lle mae’r safle.

Rhaid cyflwyno ceisiadau yn ysgrifenedig, a dylid cynnwys manylion am y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef ac unrhyw wybodaeth arall y mae’n ofynnol ei rhoi i’r awdurdod lleol.
 

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?

Bydd. Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu fel petai eich cais wedi cael ei ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

Cyfnod cwblhau targed

56 diwrnod calendr.

Ffioedd

Safleoedd carafanau a gwersylla: Dim ffi

Manylion cyswllt

Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd, Neuadd y Sir, Wrecsam LL11 1AY

E-bost: healthandhousing@wrexham.gov.uk

 

 

Gwneud iawn am gais aflwyddiannus

Dylech drafod unrhyw broblem gyda Chyngor Wrecsam yn gyntaf.

Os gwrthodir cais deilydd y drwydded i newid amod, gall gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol. Rhaid apelio cyn pen 28 diwrnod ar ôl derbyn hysbysiad ysgrifenedig bod y cais wedi’i wrthod a rhaid cyflwyno hysbysiad apelio i’r awdurdod lleol.

 

Gwneud iawn i ddeilydd trwydded

Dylech drafod unrhyw broblem gyda Chyngor Wrecsam yn gyntaf.

Os bydd deilydd y drwydded yn dymuno apelio yn erbyn amod sydd ynghlwm â thrwydded, gall apelio i’r llys ynadon lleol. Rhaid cyflwyno’r apêl cyn pen 28 diwrnod ar ôl cyflwyno’r drwydded.

Gall yr awdurdod lleol newid yr amodau ar unrhyw bryd ond mae’n rhaid iddo roi cyfle i ddeiliaid trwyddedau gyflwyno sylwadau am y newidiadau arfaethedig. Os bydd deilydd y drwydded yn anghytuno â’r newidiadau, gall apelio i’r llys ynadon lleol. Mae’n rhaid cyflwyno apêl cyn pen 28 diwrnod ar ôl derbyn hysbysiad ysgrifenedig o’r newid a rhaid cyflwyno hysbysiad o’r apêl i’r awdurdod lleol.
 

Cwyn gan ddefnyddiwr

Os ydych yn dymuno cwyno am unrhyw fater, rydym bob amser yn eich cynghori i gysylltu â’r masnachwr yn y lle cyntaf – trwy ysgrifennu llythyr yn ddelfrydol (gan ofyn am brawf bod y llythyr wedi cael ei ddanfon). Os nad yw hyn yn llwyddiannus, os ydych yn byw yn y Deyrnas Unedig gallwch gael cyngor gan Cyngor ar Bopeth (dolen gyswllt allanol). Os ydych yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig (dolen gyswllt allanol).