Crynodeb o’r drwydded        

Mae’n rhaid i chi gael trwydded amgylcheddol os ydych yn gweithredu cyfleuster wedi’i reoleiddio yng Nghymru.

Mae cyfleuster rheoleiddio yn cynnwys y canlynol:

  • gosodiadau neu beiriannau symudol sy’n gwneud gweithgareddau a restrir 
  • gweithrediadau gwastraff 
  • peiriant gwastraff symudol
  • gweithrediadau gwastraff mwyngloddio

Mae’r gweithgareddau a restrir yn cynnwys y canlynol:

  • ynni (gweithgareddau llosgi tanwydd, neu weithgareddau troi tanwydd yn nwy neu’n hylif neu weithgareddau puro)
  • metelau (gweithgynhyrchu a phrosesu metelau)
  • mwynau (gweithgynhyrchu calch, sment, cerameg neu wydr)
  • cemegion (gweithgynhyrchu cemegion, cemegion fferyllol neu ffrwydron, swmp storio cemegion) 
  • gwastraff (llosgi gwastraff, gweithredu safleoedd tirlenwi, adfer gwastraff)
  • hydoddion (defnyddio hydoddion) 
  • eraill (gweithgynhyrchu papur, mwydion a bwrdd, trin cynnyrch pren, gorchuddio, trin tecstilau ac argraffu, gweithgynhyrchu teiars newydd, ffermio moch a dofednod mewn modd dwys)

Mae’r gweithgareddau a restrir wedi’u rhannu yn dri chategori: Rhan A(1), Rhan A(2) a Rhan B.Mae trwyddedau Rhan A ar gyfer gweithgareddau wedi’u rheoli sydd ag amrediad o effeithiau amgylcheddol, gan gynnwys:

  • allyriadau i’r aer, tir a dŵr
  • effeithlonrwydd ynni 
  • lleihau gwastraff 
  • defnyddio deunyddiau crai
  • sŵn, dirgryniad a gwres
  • atal damweiniau

Mae trwyddedau Rhan B ar gyfer gweithgareddau wedi’u rheoli sy’n achosi allyriadau i’r aer.

Mae’r drwydded y mae ei hangen ar eich busnes yn dibynnu ar y prosesau penodol dan sylw a’r allyriadau sy’n deillio ohonynt.

Gallwch gael trwyddedau gan Asiantaeth yr Amgylchedd neu eich awdurdod lleol (y rheoleiddiwr) yn dibynnu ar ba gategori sy’n berthnasol i’ch busnes:

  • Mae gosodiadau neu beiriannau symudol Rhan A(1) yn cael eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Mae gosodiadau neu beiriannau symudol Rhan A(2) a Rhan B yn cael eu rheoleiddio gan yr awdurdod lleol, ac eithrio gweithrediadau gwastraff a gynhelir mewn gosodiadau Rhan B a gaiff eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Mae gweithrediadau gwastraff neu beiriannau gwastraff symudol sy’n cael eu defnyddio mewn man arall heblaw am yn y gosodiad, neu gan beiriannau symudol Rhan A neu Rhan B, yn cael eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Mae gweithrediadau gwastraff mwyngloddio yn cael eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd

Meini prawf cymhwysedd               

Rhaid cyflwyno ceisiadau ar ffurflen a ddarperir gan y rheoleiddiwr, neu ar-lein, a rhaid cynnwys gwybodaeth benodol a fydd yn amrywio yn dibynnu ar y gweithrediad.

Efallai y bydd ffi yn daladwy.

Os bydd angen gwybodaeth ychwanegol, bydd y rheoleiddiwr yn cysylltu â’r ymgeisydd a bydd yn rhaid iddo gyflwyno’r wybodaeth hon neu tybir bod y cais wedi’i dynnu’n ôl.

Rhaid i’r cais gael ei gyflwyno gan weithredydd y cyfleuster wedi’i reoleiddio.

Yn achos gweithrediadau gwastraff, ni fydd trwydded yn cael ei rhoi nes bod y caniatâd cynllunio gofynnol wedi’i roi yn gyntaf.

Crynodeb o’r rheoliadau

Proses gwerthuso ceisiadau

Bydd y rheoleiddiwr yn rhoi ystyriaeth i warchod yr amgylchedd yn ei gyfanrwydd, ac yn benodol, atal neu, os nad yw hynny’n ymarferol, lleihau allyriadau i’r aer, dŵr a’r tir.

Gall y rheoleiddiwr hysbysu’r cyhoedd am y cais ac mae’n rhaid iddo ystyried unrhyw sylwadau.

Mae’n rhaid i’r cais gael ei gyflwyno gan weithredydd y cyfleuster wedi’i reoleiddio, ac mae’n rhaid i’r rheoleiddiwr fod yn fodlon y gall weithredu’r cyfleuster yn unol â’r drwydded amgylcheddol.
 

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?

Na fydd. Er budd y cyhoedd, mae’n rhaid i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. 

Dylech gysylltu â ni os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol o amser.

Cyfnod cwblhau targed

120 diwrnod calendr.

Cyswllt

Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd, Neuadd y Sir, Wrecsam LL11 1AY

E-bost: healthandhousing@wrexham.gov.uk

Apelio yn erbyn cais a wrthodwyd

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Gall ymgeisydd y gwrthodir ei gais am drwydded amgylcheddol gyflwyno apêl i’r awdurdod priodol. Yng Nghymru, yr awdurdodau priodol yw’r Gweinidogion Cymreig.

Mae’n rhaid cyflwyno apeliadau cyn pen 6 mis ar ôl dyddiad y penderfyniad.

Apêl gan ddeiliad y drwydded

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Os bydd cais i amrywio, trosglwyddo neu ildio trwydded amgylcheddol yn cael ei wrthod, neu os yw’r ymgeisydd yn gwrthwynebu’r amodau sydd ynghlwm â’r drwydded amgylcheddol, gall apelio i’r awdurdod priodol.

Rhaid i apêl sy’n gysylltiedig ag amrywiad a awgrymwyd gan y rheoleiddiwr, hysbysiad atal neu hysbysiad gorfodi, gael ei chyflwyno cyn pen deufis ar ôl dyddiad yr amrywiad neu’r hysbysiad ac yn unrhyw achos arall heb fod mwy na chwe mis ar ôl dyddiad y penderfyniad.

Cwyn gan ddefnyddiwr

Os ydych yn dymuno cwyno am unrhyw fater, rydym bob amser yn eich cynghori i gysylltu â’r masnachwr yn y lle cyntaf – trwy ysgrifennu llythyr yn ddelfrydol (gan ofyn am brawf bod y llythyr wedi cael ei ddanfon).

Os nad yw hyn yn llwyddiannus, os ydych yn byw yn y Deyrnas Unedig gallwch gael cyngor gan Cyngor ar Bopeth (dolen gyswllt allanol). Os ydych yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig (dolen gyswllt allanol).

Gwneud iawn mewn achosion eraill

Gall iawndal fod yn daladwy mewn perthynas ag amodau sy’n effeithio ar ddiddordebau penodol yn ymwneud â thir.