Bydd unrhyw un sy’n cyflawni’r mathau canlynol o driniaethau tyllu’r croen (a ddiffinnir yng Nghymru fel ‘triniaethau arbennig’) yn Wrecsam angen trwydded ar eu cyfer eu hunain ac ar gyfer yr eiddo lle cyflawnir y driniaeth:
- tatŵio
- tyllu cosmetig
- aciwbigo
- electrolysis
- lliwio croen yn lled-barhaol (colur)
Os oeddech chi, a’r eiddo lle cyflawnir y driniaeth, wedi’ch cofrestru’n flaenorol gyda ni (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), rhaid i chi fod wedi cael trwydded bontio dan y ddeddfwriaeth newydd er mwyn parhau.
Os nad oeddech chi wedi’ch cofrestru’n flaenorol, bydd rhaid i chi wneud cais am drwydded ar eich cyfer eich hun a’r eiddo.
Cynhelir gweithdrefnau Trwyddedu dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld yn: