Talwch rŵan

Prydau Ysgol Wrecsam yn darparu ar gyfer pob ysgol

Gallwch archebu cinio ysgol a thalu amdano ar lein drwy ParentPay (dolen gyswllt allanol). Gallwch hefyd ddefnyddio cod bar i dalu yn unrhyw leoliad PayPoint (dolen gyswllt allanol).

Ni allwn dderbyn taliadau arian parod na sieciau.

Sut i gael cyfrif ParentPay

  1. E-bost schoolmeals@wrexham.gov.uk gydag enw llawn eich plentyn, dyddiad geni ac enw eu hysgol, a gofynnwch am eich cod cynnau ParentPay.
  2. Byddwch yn derbyn cod cynnau i ddechrau a rhedeg y cyfrif.

Mae gwefan ParentPay yn egluro sut i weithredu eich cyfrif ParentPay (dolen gyswllt allanol).

Os byddwch chi'n cael unrhyw drafferthion wrth geisio sefydlu eich cyfrif, anfonwch neges e-bost i schoolmeals@wrexham.gov.uk neu i ysgol eich plentyn i gael cyngor (mae manylion cyswllt eich ysgol i'w gweld ar ein rhestr o ysgolion).

Bydd yr un cyfrif yn union yn cael ei sefydlu ar gyfer disgyblion sydd â hawl i gael cinio ysgol am ddim, a bydd gwerth eu cinio ysgol yn cael ei gredydu yn awtomatig bob dydd i osgoi unrhyw wahaniaethu posib.

Ysgolion cynradd yn unig

Defnyddiwch ParentPay i ddewis ac archebu cinio eich plentyn ymlaen llaw, hyd at 8am ar y diwrnod y mae angen y cinio hwnnw. Bydd hyn yn sicrhau y bydd eich plentyn yn cael eu dewis o ginio.

Bydd rhaid i chi sefydlu cyfrif ParentPay er bod gan eich plentyn hawl i gael cinio am ddim, er mwyn gallu archebu eu cinio ymlaen llaw.

Ysgolion uwchradd ac Anghenion Dysgu Ychwanegol

Os oes gan eich plentyn hawl i gael cinio am ddim, gallwch gredydu arian ychwanegol drwy ParentPay neu PayPoint os bydd angen. Mae hyn yn gadael i’ch plentyn wario mwy na gwerth y cinio ysgol unrhyw bryd.

Mae terfyn gwario o £5 yn cael ei osod ar gyfrifon pob disgybl ysgol uwchradd, ond gall rhieni newid hyn ar gais.