1. Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ("y cyngor") yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu ddifrod i geir na’u cynnwys wedi'u parcio yn y maes parcio, oni bai fod colled neu ddifrod o'r fath yn cael ei achosi gan esgeulustod y cyngor.
  2. Nid yw’r cyngor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw anaf personol i ddeiliad tocyn tymor, nac unrhyw deithiwr gyda deiliad y tocyn tymor neu unrhyw bersonau a awdurdodir gan y perchennog i fynd mewn i'r maes parcio mewn cysylltiad â defnyddio’r tocyn tymor, oni bai fod anaf o'r fath yn cael ei achosi gan esgeulustod y cyngor.
  3. Bydd y disg tocyn tymor yn cael ei osod mewn lle amlwg yn ffenestr flaen cerbyd deilydd y ddisg er mwyn i swyddog awdurdodedig y cyngor ei weld yn hawdd (i wirio ei fod yn ddilys a chyfredol mewn perthynas â'r maes parcio).
  4. Ni fydd deilydd y tocyn tymor yn achosi neu ganiatáu i’w g/cherbyd gael ei barcio mewn modd sy’n rhwystro mynediad, maes gwasanaeth neu fae, hydrant, is-orsaf neu unrhyw fynedfa neu allanfa o adeiladau sydd ger y maes parcio tra’u bod yn y maes parcio.
  5. Bydd y disg tocyn tymor a roddwyd i'r deilydd yn aros yn eiddo i'r cyngor a bydd yn cael ei ildio i'r cyngor ar y dyddiad y daw i ben, neu ar benderfyniad cynt am yr hawl i barcio yn y maes parcio a nodir yn y disg tocyn tymor os bydd yn cael ei dynnu yn ôl gan y cyngor am ba reswm bynnag.
  6. Nid oes modd trosglwyddo disgiau tocyn tymor a gyhoeddwyd i'r deilydd, ac os na fydd deilydd y tocyn tymor angen defnyddio’r maes parcio, byddant yn ei ildio i'r cyngor.
  7. Mae'r cyngor yn cadw'r hawl i gau’r maes parcio y mae'r disg tocyn tymor yn ymwneud ag ef ar unrhyw ddiwrnod pan fo angen y maes parcio ar gyfer unrhyw achlysur dinesig neu achlysur arbennig arall neu mewn achos o argyfwng cyhoeddus neu pan fo angen gwaith atgyweirio a chynnal a chadw yn y maes parcio ei hun neu i unrhyw adeiladau neu gyfleusterau cyfagos.
  8. Mae'r cyngor yn cadw'r hawl i derfynu'r hawl i barcio a roddir gan y tocyn tymor ac mewn achosion priodol bydd yn gwneud ad-daliad pro-rata am y tocyn tymor.
  9. Mae'r cyngor yn cadw'r hawl i gyhoeddi rhybudd talu cosb mewn unrhyw achos os: (1) Nad oes disg tocyn tymor wedi’i arddangos, (2) Os ydi’r cerbyd wedi ei barcio’n anghywir, (3) Os na chaniateir y math o gerbyd yn yr ardal honno, (4) Os yw trelar y cerbyd wedi’i adael neu’n cael ei ddefnyddio yn y lle parcio
  10. Os oes unrhyw doriad arall o orchymyn (man parcio oddi ar y stryd) Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam perthnasol.