Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd taliad cymorth costau byw o £150 yn cael ei ddarparu i bob cartref a oedd, ar 15 Chwefror, yn naill ai:
- byw mewn eiddo yn y bandiau treth gyngor A-D
- derbyn gostyngiad Treth y Cyngor ar sail prawf modd, waeth beth fo'u band eiddo
Bydd cynllun yn ôl disgresiwn hefyd yn cael ei sefydlu i helpu i gefnogi aelwydydd eraill a allai fod yn cael pethau'n anodd ond nad ydynt yn ffitio i’r meini prawf uchod.
Rydym yn deall bod pobl yng Nghymru yn wynebu argyfwng costau byw real iawn.
Taliad Ynni
Er mwyn hawliau’r taliad mae angen i chi lenwi ffurflen fer hon a rhoi manylion cyfrif banc yr ydych eisio’r taliad cael ei wneud iddo. I lenwi’r ffurflen hon bydd angen i chi wybod eich rhif cyfeirnod Treth y Cyngor . Os nad ydych yn gwybod hyn anfonwch e-bost i colss@wrexham.gov.uk
Byddwch yn wyliadwrus o e-byst neu negeseuon testun o ffynonellau amheus sy’n cynnig gwybodaeth am y cynllun. Yn aml, sgamwyr yw’r rhain sy’n ceisio dwyn eich gwybodaeth.