Gweithdrefn cwynion am waith trwsio tai rhent preifat

Er mwyn helpu lleddfu lledaeniad y clefyd, dim ond pan fo raid a dim ond ar ôl cwblhau asesiad risg addas y bydd staff Gwarchod y Cyhoedd yn cynnal ymweliadau.

Pan dderbynnir cwyn ynglŷn ag amodau gwael, bydd y swyddog achos yn cysylltu â’r achwynydd yn ôl y dull cyswllt a ffafrir ganddynt i drafod y diffygion ac efallai gofyn iddynt ddarparu tystiolaeth ffotograffig neu fideo ychwanegol er mwyn galluogi’r Cyngor i asesu’r risg.

Mae’r Cyngor dal yn gyfrifol am ymchwilio amodau tai gwael a bydd yn gwneud ei orau i sicrhau fod Landlordiaid a Thenantiaid yn cyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol. Fodd bynnag, mae’n rhaid cydbwyso hyn yn erbyn y risg o haint neu ledaenu’r feirws yn unol â chyngor a chyfarwyddiadau cyfredol y Llywodraeth.

Disgwylir fod tenantiaid eisoes wedi cysylltu â’u Landlord neu Asiant er mwyn eu hysbysu am y diffygion a rhoi cyfle iddynt wella’r sefyllfa.

Rhaid i denantiaid gyflwyno cymaint o wybodaeth â phosibl i gynnwys tystiolaeth ffotograffig lle bynnag y bo modd.

Byddwn efallai yn gofyn am dystiolaeth fideo yn hwyrach ymlaen er mwyn cefnogi eich cais.

Gwybodaeth sy’n ofynnol:

  • Cyfeiriad llawn yr eiddo
  • Manylion cyswllt yr achwynydd, rhif ffôn ac e-bost lle bo’n bosibl.
  • Disgrifiad y diffygion a’r effaith  a gânt ar y deiliaid.
  • Bydd y tenantiaid yn hysbysu’r Swyddogion os oes unrhyw ddeiliaid sydd ag arwyddion neu symptomau o Covid-19 o fewn yr eiddo.
  • Bydd y tenantiaid yn hysbysu’r Swyddogion os oes unrhyw un o’r deiliaid o fewn yr eiddo yn cael ei hystyried fel bod yn ddiamddiffyn, gan gynnwys unrhyw weithwyr allweddol
  • Bydd tenantiaid yn hysbysu’r Swyddogion o unrhyw ddeiliaid sy’n gwarchod eu hunain o fewn yr eiddo.

Bydd mesuriadau cadw pellter cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fo archwiliad yn cael ei ystyried yn hanfodol, a bydd y swyddog sy’n ymweld yn gwisgo cyfarpar diogelu personol (er mwyn amddiffyn eu hunan ac i amddiffyn y deiliaid)

Mewn achos o bryder sylweddol efallai y bydd yn bosibl cynnal archwiliad drwy alwad fideo rhwng y Tenant a’r Swyddog (lle bo’n bosibl), defnyddio fideo ffôn symudol neu ddyfais arall.

Fel arall, efallai bydd gofyn i’r tenantiaid ddatgloi’r drws er mwyn caniatáu mynediad ac yna mynd i ystafell arall. Bydd y Swyddog yn cynnal yr archwiliad ar ei ben ei hun ac ar ôl gorffen, bydd y Swyddog yn cysylltu â’r tenant i drafod sut byddwn yn symud ymlaen.

Beth sy’n cael ei ystyried fel gwaith hanfodol?

Diffygion trydanol sy’n peri risg o sioc neu dân.

Diffygion nwy megis gollyngiadau nwy, neu ddiffyg gwresogi neu ddŵr poeth.

Risg gynyddol o dân yn deillio o synwyryddion mwg diffygiol neu systemau larwm tân diffygiol.

Problemau draenio megis llifogydd neu ddraeniau diffygiol, neu doiledau neu gawodydd sydd ddim yn gweithio.

Cysylltiadau a Dadfeddiannu Tenantiaeth

Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno pecyn o fesuriadau er mwyn amddiffyn rhentwyr sydd wedi eu heffeithio gan Covid-19 (Coronafeirws). Gyda rhain mewn grym, ni fydd unrhyw rentwr mewn llety cymdeithasol neu breifat yn cael eu gorfodi i adael eu cartref.

Bydd y Cyngor yn parhau i ymchwilio’r cwynion o aflonyddu a dadfeddiant anghyfreithlon. Lle derbynnir cwyn, bydd y swyddog achos yn cysylltu â chi i roi cyngor yn unol â hynny. 

Rydym yn darparu gwybodaeth a chyngor i denantiaid ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys:

  • Bygythiad o ddadfeddiant.
  • Aflonyddu gan eich Landlord.
  • Atgyweiriadau i eiddo wedi’i rhentu.
  • Safleoedd cartrefi symudol
  • Trwyddedu llety wedi’i rhentu

Cyngor i Landlordiaid

Y Landlord sy’n gyfrifol am sicrhau eu bod yn cydymffurfio â phob deddfwriaeth berthnasol. Sylwch nad ydym yn cynghori Landlordiaid ar sut i gydymffurfio â deddfwriaeth ac nid yw unrhyw wybodaeth a ddarperir yn gyfystyr â chyngor, a dylech chwilio am gyngor arbenigol eich hun er enghraifft oddi wrth gymdeithas Landlord neu gyfreithiwr.