Fe allech fod yn gymwys ar gyfer tai gwarchod os ydych chi dros 60 mlwydd oed. Os ydych chi dros 55 oed a fod gennych "dystiolaeth o anghenion cefnogaeth” efallai y gallwch gyflwyno cais hefyd.
Os oes gennych chi anghenion gofal iechyd neu ofal cymdeithasol sy'n golygu eich bod angen cefnogaeth bydd angen i chi lenwi ffurflen asesiad meddygol ac anghenion arbennig, a chyflwyno tystiolaeth ategol.
Gallai tai gwarchod fod yn addas ar eich cyfer os ydych chi...
- eisiau cadw eich annibyniaeth, ond yn dymuno cael tawelwch meddwl bod gwasanaeth cefnogi proffesiynol ar gael pan fo’r angen
- Yn mwynhau cymysgu â phobl eraill pan ddymunwch
- Yn byw mewn llety sy’n rhy fawr i’ch anghenion ar hyn o bryd