Mae tai Gofal Ychwanegol wedi eu dylunio i’ch helpu chi fyw’n annibynnol, gyda gwasanaeth gofal a chefnogaeth ar gael pe byddwch ei angen.

Bydd modd i chi fyw yn eich rhandy eich hun, a bod yn dawel eich meddwl o wybod bod cefnogaeth ar gael ar garreg eich drws. Mae yna hefyd gyfleusterau a rennir, yn ogystal ag ardaloedd lle fedrwch chi gwrdd â phreswylwyr eraill a chymdeithasu.

Mae yna ddau gynllun tai Gofal Ychwanegol yn Wrecsam...

Cynllun Gofal Ychwanegol Plas Telford

Mae gan Blas Telford, ger pentref Acrefair, 54 o randai un a dwy ystafell wely o safon uchel.

ClwydAlyn sy’n berchen ar yr adeilad ac yn darparu’r gwasanaethau rheoli ac arlwyo/glanhau ar y safle, ac rydym ni’n darparu gofal cartref a chefnogaeth sy’n gysylltiedig â thai.

Darperir gofal cartref o fewn rhandy’r preswylwyr, fel rheol darperir cymorth gyda thasgau fel gwisgo, ymolchi a mynd i’r toiled. Darperir y cymorth yn ôl yr angen, i gwrdd ag anghenion gofal a chefnogaeth asesedig y preswylwyr.

Cymhwysedd

Os ydych chi’n 55 oed neu’n hŷn, yn byw yn Wrecsam (neu â chysylltiad agos gyda’r ardal leol), ac wedi derbyn asesiad sy’n nodi bod gennych chi ‘angen am gefnogaeth', yna fe allwch chi fod yn gymwys.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein sydd i’w chael ar safle Plas Telford, lle cewch hefyd wybodaeth bellach am y cynllun.

Cynllun Gofal Ychwanegol Maes y Dderwen

Mae gan Faes y Dderwen, sydd ar Ffordd Grosvenor yn Wrecsam, 60 o randai un a dwy ystafell wely o safon uchel.

ClwydAlyn sy’n darparu’r gwasanaethau rheoli ac arlwyo/glanhau ar y safle, ac rydym ni’n gyfrifol am ddarparu gofal cartref o fewn y cynllun.

Darperir gofal cartref o fewn rhandy’r preswylwyr, fel rheol darperir cymorth gyda thasgau fel gwisgo, ymolchi a mynd i’r toiled. Darperir y cymorth yn ôl yr angen, i gwrdd ag anghenion gofal a chefnogaeth asesedig y preswylwyr. 

Er y derbynnir cyllid drwy'r Rhaglen Cefnogi Pobl, mae cefnogaeth sy’n gysylltiedig â thai ar hyn o bryd yn cael ei ddarparu gan Wrexham Include, yn seiliedig ar anghenion asesedig y tenantiaid. 

Cymhwysedd

Os ydych chi’n 60 oed neu’n hŷn, yn byw yn Wrecsam (neu â chysylltiad agos gyda’r ardal leol), ac wedi derbyn asesiad sy’n nodi bod gennych chi ‘angen am gefnogaeth', yna fe allwch chi fod yn gymwys. 

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein sydd i’w chael ar safle Maes y Dderwen, lle  cewch hefyd wybodaeth bellach am y cynllun.