Ein nod yw cefnogi pobl i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi cyhyd â phosibl. Mae ein gwasanaeth warden ymweld ar gael os ydych chi dros 60 oed ac yn dal i fyw yn eich cartref eich hun.

Beth mae’r gwasanaeth warden ymweld yn ei gynnig?

Nod y gwasanaeth yma ydi cynnig tawelwch meddwl a sicrwydd i chi yn eich cartref eich hun, o wybod y bydd warden yn galw’n rheolaidd.

Yn ystod eu hymweliad cyntaf bydd y warden yn gofyn i chi pa gymorth y teimlwch chi sydd arnoch ei angen, yn trafod y math o gefnogaeth sydd ar gael ac yn asesu faint o ymweliadau warden y byddwch eu hangen. Gallwch fod â chyfaill neu berthynas gyda chi ar gyfer y drafodaeth hon os dymunwch. 

Mae ein wardeniaid yn brofiadol wrth roi cyngor a chefnogaeth, felly gallant...

  • Alw’n rheolaidd i weld eich bod yn iach a’ch helpu i ofalu am eich iechyd a lles cyffredinol
  • Eich helpu i gysylltu â gwasanaethau iechyd, asiantaethau neu unrhyw un arall, os bydd eich iechyd neu les yn newid
  • Rhoi cyngor a chefnogaeth ar sut i gymryd rhan mewn hobïau neu weithgareddau cymdeithasol sy'n eich diddori. 
  • Rhoi gwybodaeth a chyngor am wasanaethau sydd ar gael i chi

Ni all y warden ymweld helpu gyda thasgau ymarferol rheolaidd, megis coginio, gofal personol neu siopa, fodd bynnag, gallant roi cyngor a chymorth gyda chael help efo’r gwasanaethau hyn.

Ydw i’n gymwys am y gwasanaeth warden ymweld?

Gallwch fod yn gymwys os ydych chi dros 60 oed yn dal i fyw yn eich cartref eich hun, neu’n rhentu eich cartref eich hun. 

Bydd angen i chi fod yn barod i gael pecyn sylfaenol teleofal wedi’i osod yn eich cartref. Mae’r gwasanaeth teleofal yn darparu cyswllt ffôn rhwng eich cartref a chanolfan ymateb teleofal 24 awr y diwrnod, 365 diwrnod y flwyddyn. Fe gewch declyn larwm i’w wisgo rownd eich gwddw neu arddwrn y gallwch ei ddefnyddio i alw am gymorth, yn ogystal â synhwyrydd teleofal y gallwch ei weithredu mewn argyfwng neu pan rydych yn cael anawsterau. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhoi hyder ychwanegol i chi drwy wybod bod rhywun yno i’ch cynorthwyo os bydd angen help arnoch chi. 

Faint yw cost y gwasanaeth?

Y tâl ar hyn o bryd am y warden ymweld yw £3.38 yr wythnos (codir tâl ar wahân am y larymau teleofal). Caiff y tâl hwn ei adolygu bob blwyddyn.

Os ydych chi’n derbyn Budd-dal Tai efallai na fydd rhaid i chi dalu'r tâl hwn eich hun. Os ydych chi ar incwm isel efallai y byddwch yn gymwys am dâl is a dylech wneud cais am asesiad ariannol, a gallwn eich helpu â hwnnw. 

Sut ydw i’n gwneud cais am y gwasanaeth warden ymweld?

Gallwch gysylltu â ni os oes gennych ddiddordeb yn y gwasanaeth warden ymweld drwy ffonio ein hadran tai a gofyn i gael siarad gyda’r tîm tai gwarchod, neu gallwch anfon e-bost i housing@wrexham.gov.uk